Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 3 Hydref 2017.
Llywydd, rydym ni'n hynod ffodus yn ein hamser ni ein bod wedi elwa ar y penderfyniadau buddsoddi yr oedd y bobl hynny a fu yma o’n blaenau ni yn barod i'w gwneud. Pe bydden nhw wedi gwrando ar Neil Hamilton, bydden nhw wedi rhoi’r gorau i wneud yr holl bethau yr ydym ni’n dibynnu arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae'n bosibl, mewn ffordd nad wyf i’n credu bod yr Aelod yn ymddangos ei fod byth yn ei deall na'i chydnabod, i fenthyca er mwyn buddsoddi, gan fod buddsoddi yn creu amodau llwyddiant economaidd, ac mae'r llwyddiant economaidd hwnnw wedyn yn caniatáu ichi dalu'r arian yr ydych chi wedi'i fenthyg yn ôl. Dyna'r wers syml y mae Llywodraethau blaengar yn ystod y 100 mlynedd diwethaf a mwy wedi ei deall, ac rydym ni’n dweud bod angen deall hynny yn well heddiw.
Gwnaeth Mike Hedges gyfres o bwyntiau pwysig iawn. Roedd yn deall yn llwyr y gallwch chi fuddsoddi eich ffordd i lwyddiant, nid yn unig mewn mannau, ond, fel y dywedodd, mewn pobl hefyd. Cytundeb newydd i Brydain yw’r union hyn sydd ei angen arnom ni i gael ein heconomi ar y llwybr hwnnw. O ran ansefydlogrwydd treth, bydd yn gwybod bod y fframwaith cyllidol yn rhoi mynediad i ni i refeniw wrth gefn o £500 i ganiatáu inni unioni ansefydlogrwydd treth o flwyddyn i flwyddyn. Nid wyf wedi gwneud unrhyw gynlluniau i ddefnyddio'r arian hwnnw sydd wrth gefn yn y gyllideb sydd ger bron y Cynulliad, ond mae yno pe byddai ei angen yn y dyfodol. Y ffordd yr ydym ni wedi defnyddio ein cyfalaf yn y gyllideb hon yw'r union ffordd y dadleuodd Mike Hedges drosti. Dywedais wrth fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet y byddaf yn rhoi blaenoriaeth i gynlluniau buddsoddi cyfalaf sy'n rhyddhau refeniw yn y dyfodol, a dyna pam mae prynu cerbydau rheilffordd yn y ffordd yr amlinellodd Vikki Howells mor bwysig.
Roeddwn yn ddiolchgar i Mark Isherwood am yr hyn a ddywedodd am dai, oherwydd rwyf eisiau dweud wrtho fod anghenion tai wrth wraidd y gyllideb hon. Pa un a yw hynny drwy’r rhaglen Cefnogi Pobl, a'r £10 miliwn ym mhob un o'r ddwy flynedd nesaf y gallwn ni yn awr ei fuddsoddi mewn gwasanaethau digartrefedd; pa un a yw drwy’r hyn yr ydym ni’n ei wneud i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; neu pa un a yw drwy’r cyhoeddiad yr wyf wedi gallu ei wneud heddiw ynglŷn â pheidio â threthu prynwyr tro cyntaf yng Nghymru o gwbl—mae'r pethau hynny i gyd yn ymwneud â sicrhau y gallwn ni, o ran tai, rhywbeth sy'n effeithio ar bob teulu yn y wlad, wneud mwy i helpu pobl yn y sefyllfa honno.