Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 3 Hydref 2017.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn na allwch chi fenthyca symiau diderfyn yn dragwyddol, ac, felly, mae'n rhaid penderfynu, weithiau, pryd y mae'n rhaid rhoi'r gorau iddi. Mae cyfraddau llog wedi bod ar eu hisaf erioed. Maent eisoes ar gynnydd yn yr Unol Daleithiau; efallai y byddant ar gynnydd yn y wlad hon yn fuan. Sut ydym ni wedyn yn talu'r biliau ar adeg pan nad ydym ni wedi trwsio'r to, pan fydd yr haul yn peidio â disgleirio a’r glaw yn arllwys?