Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch. Ym mis Gorffennaf, derbyniais a chyhoeddais adroddiad y panel annibynnol ar eu hadolygiad o Chwaraeon Cymru, gydag ymrwymiad cadarn i ystyried yr adroddiad a'i argymhellion dros y toriad a gwneud datganiad ar ymateb y Llywodraeth yn yr hydref.
Rwy’n croesawu’r adolygiad a'i argymhellion, a diolch i bawb a gymerodd ran yn y broses. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r panel annibynnol a wirfoddolodd eu hamser i gwblhau'r adolygiad, ac am wneud hynny yn ddidwyll ac yn broffesiynol. Mae'r adroddiad dilynol yn fyfyrdod ar sail tystiolaeth ar swyddogaeth a phwrpas Chwaraeon Cymru, a sut mae’n cael ei ystyried gan ei randdeiliaid a'i bartneriaid. Mae'n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru. Rwy'n cytuno â chanfyddiadau'r adolygiad ac rwy'n falch bod Chwaraeon Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol iddo. Mae'r Cadeirydd wedi ysgrifennu ataf yn nodi sut y bydd y sefydliad yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau a'r argymhellion, y maent eisoes wedi dechrau gweithredu rhai ohonynt, a chyfarfûm â'r Cadeirydd yr wythnos diwethaf i drafod eu hymateb ymhellach. Rwy’n hollol hyderus y bydd Chwaraeon Cymru yn adeiladu ar sail y llwyddiant a gydnabyddir yn yr adroddiad ac yn uno'r sector chwaraeon i ddarparu buddion diriaethol a pharhaol i bobl Cymru.
Heddiw, rwy’n ymateb i argymhelliad allweddol yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru trwy wneud y datganiad hwn i ddarparu eglurder, diffiniad a chyfeiriad am yr hyn a ddisgwyliwn gan Chwaraeon Cymru a'r sector chwaraeon, gan gynnwys sut yr ydym yn disgwyl iddynt weithio, a sut yr ydym yn disgwyl iddynt gyfrannu at ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.
Rydyn ni'n aml yn sôn am bŵer chwaraeon i uno cenedl, ac rydym wedi bod yn ffodus i weld hyn sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Nid oes dim byd tebyg i lwyddiant chwaraeon i ddod â ni at ein gilydd a rhoi'r achos i ni ddathlu ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith. Mae chwaraeon yn meithrin talent ac yn cyflawni llwyddiant, ac mae gwylwyr a chefnogwyr yn mwynhau llwyddiant, yn ogystal â'r athletwyr a'r timau eu hunain.
Mae'r adolygiad o Chwaraeon Cymru yn cydnabod yn briodol y rhan y mae'r sefydliad wedi'i chwarae wrth gefnogi athletwyr elitaidd a chyrff llywodraethu cenedlaethol i gyflawni llwyddiannau medalau i Gymru a Phrydain Fawr. Dylent gael eu canmol am hynny, ac am y cyfraniad y mae hyn yn ei wneud i'n heconomi a'n delwedd fyd-eang.
Mae chwaraeon gwerin gwlad yn cynnig cyfle i bawb fod yn egnïol ac i fwynhau manteision iechyd corfforol a meddyliol chwaraeon. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, mae pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn fwy tebygol o fodloni’r canllawiau gweithgaredd corfforol. Ac mae pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol hefyd yn llai tebygol o ysmygu, yn fwy tebygol o fwyta pum ffrwyth a llysieuyn y dydd, ac yn llai tebygol o fod yn ordew.
Yr her sydd gennym fel cenedl, ac un na all chwaraeon yn unig fynd i'r afael â hi, yw mai dim ond traean y boblogaeth sy'n egnïol yn gorfforol i'r lefelau a argymhellir. Fel Llywodraeth, byddwn yn annog a chefnogi cynnydd sylweddol ym maes gweithgaredd corfforol pobl fel rhan o'n dull ni o hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da. I wneud hynny, mae angen i chwaraeon barhau i chwarae ei ran ac i ddangos ei effaith. Ond, fel sawl gweithgaredd a difyrrwch hamdden arall, mae'n rhaid iddo barhau i fod yn berthnasol ac yn gydnerth. Mae'n rhaid iddo gynnig rhywbeth i bob oedran a gallu ar adegau ac mewn mannau sy'n gyfleus. Rhaid i'r cynnig fod yn ddigon hyblyg i bobl allu ei gynnwys o fewn ymrwymiadau eraill eu bywydau. Mae'n rhaid i chwaraeon gofleidio a defnyddio technoleg i ymgysylltu ac ailgysylltu pobl, ac i gynnal eu diddordeb a'u brwdfrydedd gyhyd â phosib. Mae gan Chwaraeon Cymru ran hollbwysig i'w chwarae wrth ddarparu'r cynnig chwaraeon hwn, ac mae ein buddsoddiad drwy Chwaraeon Cymru yn hanfodol i les y genedl yn y dyfodol.
Dros dymor y Llywodraeth hon, byddaf yn parhau i fuddsoddi mewn chwaraeon, trwy Chwaraeon Cymru, ond byddaf yn disgwyl i'r sector addasu, i fod yn fwy cydnerth a dangos yn well ei gyfraniad at ein nodau lles a'n hamcanion. Y blaenoriaethau yr wyf yn disgwyl i Chwaraeon Cymru ganolbwyntio arnyn nhw yw: cael mwy o bobl yn egnïol ym mhob cam yn eu bywydau—tra maen nhw yn yr ysgol, pan fyddant yn gadael addysg, pan fyddant yn cael swydd, os oes ganddyn nhw deulu eu hunain, a phan fyddan nhw’n ymddeol; darparu'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant, trwy helpu ysgolion i ddysgu sgiliau iddynt a rhoi iddynt wybodaeth, cymhelliant a hyder i fod, ac i aros, yn egnïol; buddsoddi ymdrech ac adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, lle mae amrywiadau sylweddol mewn cyfranogiad a lle mae diffyg cyfle neu ddyhead i fod yn egnïol; helpu chwaraeon i barhau i feithrin, datblygu a chefnogi talent i gyflawni llwyddiant sy'n ysbrydoli pobl ac yn atgyfnerthu ein hunaniaeth fel cenedl. Mae hyn yn cynnwys ysgolion a chyflogwyr, y cyfryngau, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Mae'n golygu gwneud y mwyaf o botensial ein strategaethau teithio egnïol. Mae'n golygu bod ein darparwyr gofal iechyd yn gwneud pob cysylltiad â phobl sy’n gleifion, a gwyddom y gall ymyriadau byr i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a chefnogi newid ymddygiad fod yn fwy cost-effeithiol na rhagnodi cyffuriau i ostwng lefelau colesterol, er enghraifft.
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn egluro ein bwriad i weithio'n wahanol. Rydyn ni’n disgwyl i'r cyrff sector cyhoeddus yr ydym yn buddsoddi ynddynt wneud yr un peth. Rydyn ni’n disgwyl cydweithrediad yr holl asiantaethau sy'n ymwneud â hybu ffyrdd iachach o fyw, a disgwyliwn iddynt ddefnyddio adnoddau naturiol sylweddol Cymru i gynyddu gweithgarwch corfforol pobl. Cafodd Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru eu dwyn ynghyd yn bwrpasol dan un portffolio. Rwy'n disgwyl iddynt barhau i gydweithio yn y misoedd nesaf i ddatblygu blaenoriaethau a chamau gweithredu hirdymor i gyfrannu at ein cynllun gweithredu i gyflawni amcanion ein strategaeth genedlaethol.
Mae addysg yn sbardun allweddol ar gyfer newid, ac mae ei swyddogaeth yn cael ei chydnabod yn ein strategaeth genedlaethol. Mae gan ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion gynulleidfa gaeth i ddylanwadu arni, ac mae ganddynt gyfleusterau y gellir ac y dylid eu rhannu gyda'u cymunedau. Mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau a gweithgareddau i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, ac mae eu hymrwymiad parhaus yn hanfodol. Mae eu buddsoddiadau nhw a ni mewn seilwaith yn hollbwysig os ydym eisiau ymgysylltu ac annog ffyrdd o fyw egnïol a theithio egnïol.
Dim ond un parth yn y sbectrwm gweithgaredd corfforol yw chwaraeon. Ail barth yw gweithgareddau hamddenol fel cerdded, beicio, rhedeg a nofio. Mae eraill yn cynnwys mwy o weithgareddau arferol, fel teithio egnïol i'r gwaith neu’r ysgol, a gweithgareddau megis garddio, DIY a gwaith tŷ. Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i ganolbwyntio ei ymdrechion a'i adnoddau ar y meysydd chwaraeon a gweithgareddau hamddenol, er mwyn cynyddu ymhellach nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn aml ac yn rheolaidd. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys pwysigrwydd gweithgaredd corfforol, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn buddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol i gefnogi'r seilwaith sy'n angenrheidiol i bobl fod yn egnïol yn gorfforol yn yr awyr agored.
Ond er mwyn cyflawni'r newid sylweddol hwnnw i leihau anghydraddoldebau iechyd a newid y duedd mewn afiechyd a marwolaethau cynnar, mae angen i bob partner weithio gyda'i gilydd. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi gofyn i Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yn gyfrifol ac yn atebol ar y cyd am ddatblygu set gyfun o gamau gweithredu yn ein cynllun gweithredu 'iach ac egnïol’ a fydd yn cynyddu lefelau gweithgaredd corfforol pobl, a byddant yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny. Bydd y camau gweithredu yn cael eu llunio gan y strategaeth genedlaethol a byddant yn cynnwys: mesurau cyffredin a chyson, dangosyddion perfformiad ac amcanion a rennir; eglurder swyddogaethau asiantaethau allweddol a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi ein hamcan polisi i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol; a meysydd a nodwyd lle bydd adnoddau ac ymyriadau yn cael eu halinio i gyflawni canlyniadau cyffredin.
Fel yn achos yr holl nodau ac amcanion ar gyfer tymor y Llywodraeth hon, mae'r cyfrifoldeb dros gynyddu gweithgarwch corfforol yn gorwedd gyda ni i gyd yn y Llywodraeth. Ond byddwn ond yn cyflawni ein nodau trwy weithio ar draws portffolios, a chyda'n holl bartneriaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Felly, heddiw rwy'n egluro fy mwriad i wneud y mwyaf o gyfraniad chwaraeon at greu cenedl sy'n egnïol yn gorfforol ac i ddarparu'r mandad ar gyfer camau ar y cyd i sicrhau cynnydd sylweddol ym maes gweithgaredd corfforol pobl. Rwyf yn egluro gwerth chwaraeon i unigolion, cymunedau a'n cenedl, a byddwn yn parhau i fuddsoddi ynddo, i wneud y mwyaf o’i fanteision i ni ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.