5. 4. Datganiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o Chwaraeon Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:37, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, sy'n tanlinellu, byddwn i’n dweud, yr angen am weithio llawer agosach rhwng Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Codwyd cwestiynau difrifol gan yr adolygiad hwn ynghylch pam y caniatawyd i Chwaraeon Cymru ddatblygu i fod mor gamweithredol. Bellach, mae'n amlwg bod angen mwy o integreiddio rhwng Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn hanesyddol, nid yw hyn wedi digwydd, ac mae Chwaraeon Cymru wedi gallu gweithredu ar bellter annerbyniol heb oruchwyliaeth weinidogol ers gormod o amser, byddwn i’n dweud, ac mae hyn wedi bod ar draul aelodau’r cyhoedd y mae'n eu gwasanaethu.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa oruchwyliaeth fydd gennych chi yn y dyfodol o weithgareddau a llywodraethu Chwaraeon Cymru, a beth mae llwyddiant yn ei olygu, Weinidog? Beth yw llwyddiant? Mae eich datganiad yn cynnwys llawer o eiriau cynnes, ond nid oes unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol a dim targedau y gallwn ni, fel Aelodau'r Cynulliad, eich dal chi a Chwaraeon Cymru i gyfrif amdanynt. Argymhellodd yr adolygiad fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arweiniad ar yr hyn a ddisgwylir ganddynt, ac mae peth ansicrwydd ynghylch pa ddogfen ddylai ddarparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer Chwaraeon Cymru. A allwch chi roi sylwadau, os gwelwch yn dda, ar hynny hefyd?

Cyfeiriasoch yn fyr yn unig at y ddogfen 'Ffyniant i Bawb'. A wnaiff y Gweinidog ystyried cyflwyno strategaeth wedi'i diweddaru sy'n dod â themâu 'Dringo'n Uwch: Creu Cymru Egnïol' a'r strategaeth chwaraeon elitaidd ynghyd i egluro cylch gwaith cyffredinol Chwaraeon Cymru?

Ar adeg pan ydym ni'n agos at waelod tablau’r gynghrair ar gyfer diabetes a gordewdra, a dim ond traean o'r boblogaeth sy'n egnïol yn gorfforol, mae'n amlwg bod yn rhaid i Chwaraeon Cymru roi mwy o bwyslais ar ei gylch gwaith i wella chwaraeon cymunedol ac iechyd cyhoeddus yn ogystal â chanolbwyntio ar chwaraeon elitaidd. Felly, i'r perwyl hwnnw, ac o ystyried bod yr adroddiad yn nodi mai ychydig iawn o gydweithio sydd wedi bod rhwng y ddau dîm sy'n arwain ar y meysydd hyn yn Chwaraeon Cymru, pa ystyriaethau yr ydych chi wedi'u rhoi i'r argymhellion bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r rhaglen chwaraeon a gweithgareddau cymunedol? Pam ydych chi'n teimlo bod un sefydliad yn well model na dau sefydliad gwahanol, un sy'n canolbwyntio ar chwaraeon cymunedol a sefydliad ar wahân i chwaraeon elitaidd? Rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer o gonsensws yn y Siambr hon ynghylch yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol i Gymru, a allai fod wedi'i lleoli yn Wrecsam, neu yn wir pam ddim y Drenewydd, fel aelod sylfaenol o Gymdeithas Pêl-droed Cymru, ond yn sicr yn y rhanbarth hwnnw o Gymru. Tybed a allech chi ddarparu unrhyw ddiweddariad ar botensial y cynnig hwn, a fyddai wrth gwrs yn helpu i hyrwyddo rhagoriaeth mewn chwaraeon a chreu swyddi a chefnogi'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth hwnnw.

Yn olaf, argymhellodd y Gweinidog y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllidebau tymor hwy ar gyfer Chwaraeon Cymru, i gynnig setliadau ariannu tair blynedd i alluogi partneriaid Chwaraeon Cymru i ddatblygu eu cynlluniau busnes yn fwy effeithlon. Ydych chi wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a sut fyddwch chi'n datblygu’r argymhelliad penodol hwn?