Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn cofio fy natganiad ym mis Mehefin pan amlinellais fy nghynlluniau i wella'r rhaglen dileu TB yng Nghymru, ac ar 1 Hydref dechreuwyd gweithio mewn ffordd well er mwyn dileu TB—ffordd a fu’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill sydd naill ai wedi dileu'r clefyd hwn, neu sydd ymhell ar eu ffordd at wneud hynny.
Mae'r ffordd ranbarthol hon o weithio tuag at ddileu clefydau, trwy greu ardaloedd lle mae lefelau TB isel, canolraddol ac uchel ledled Cymru, yn ein galluogi i ymdrin yn wahanol ac yn gymesur â'r clefyd ym mhob un o'n hardaloedd TB mewn modd sydd wedi'i dargedu, yn dibynnu ar y risgiau a'r sbardunau lleol sy'n gysylltiedig â chlefydau. Mae'r ffordd hon o weithio hefyd yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar amddiffyn ac ehangu'r ardal TB isel a lleihau clefydau a lleihau maint yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel.
Ym mis Mehefin, lansiais ein rhaglen dileu TB ddiwygiedig a’n cynllun cyflawni cyntaf, sy'n rhoi manylion y rheolaethau seiliedig ar dystiolaeth a gaiff eu defnyddio ym mhob rhanbarth o'r wythnos hon ymlaen. Mae pawb sy’n cadw gwartheg yng Nghymru wedi cael llythyr yn rhoi gwybod iddyn nhw am yr ardal TB lle mae eu fferm wedi'i lleoli, ac mae fy swyddogion wedi ymgymryd â rhaglen lawn o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ffermwyr, milfeddygon, arwerthwyr a gwerthwyr.