– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 3 Hydref 2017.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y rhaglen dileu TB buchol. Galwaf ar Lesley Griffiths i gyflwyno ei datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn cofio fy natganiad ym mis Mehefin pan amlinellais fy nghynlluniau i wella'r rhaglen dileu TB yng Nghymru, ac ar 1 Hydref dechreuwyd gweithio mewn ffordd well er mwyn dileu TB—ffordd a fu’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill sydd naill ai wedi dileu'r clefyd hwn, neu sydd ymhell ar eu ffordd at wneud hynny.
Mae'r ffordd ranbarthol hon o weithio tuag at ddileu clefydau, trwy greu ardaloedd lle mae lefelau TB isel, canolraddol ac uchel ledled Cymru, yn ein galluogi i ymdrin yn wahanol ac yn gymesur â'r clefyd ym mhob un o'n hardaloedd TB mewn modd sydd wedi'i dargedu, yn dibynnu ar y risgiau a'r sbardunau lleol sy'n gysylltiedig â chlefydau. Mae'r ffordd hon o weithio hefyd yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar amddiffyn ac ehangu'r ardal TB isel a lleihau clefydau a lleihau maint yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel.
Ym mis Mehefin, lansiais ein rhaglen dileu TB ddiwygiedig a’n cynllun cyflawni cyntaf, sy'n rhoi manylion y rheolaethau seiliedig ar dystiolaeth a gaiff eu defnyddio ym mhob rhanbarth o'r wythnos hon ymlaen. Mae pawb sy’n cadw gwartheg yng Nghymru wedi cael llythyr yn rhoi gwybod iddyn nhw am yr ardal TB lle mae eu fferm wedi'i lleoli, ac mae fy swyddogion wedi ymgymryd â rhaglen lawn o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ffermwyr, milfeddygon, arwerthwyr a gwerthwyr.
Trwy'r dull rhanbarthol o ddileu TB, rydym ni wedi sefydlu ardal TB isel. Mae dadansoddiad epidemiolegol o ddata gwyliadwriaeth yn dangos bod y mwyafrif, os nad pob un, o’r achosion o TB yn yr ardal TB isel yn deillio o haint heb ei ddarganfod yn cael ei gyflwyno trwy symud gwartheg o ardaloedd eraill. Mae'r dystiolaeth hon o glefyd nad yw'n endemig yn yr ardal TB isel yn golygu ein bod erbyn hyn mewn sefyllfa i newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â phrofi. Un o'r prif newidiadau yw dileu'r gofyniad i brofi gwartheg cyn eu symud o fewn neu o’r ardal TB isel. Mae profion cyn symud wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2006 ac mae'n parhau i fod yn ddull gwerthfawr yn yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel o adnabod haint cyn iddo ymledu.
Fodd bynnag, rydym ni wedi cyflwyno profion ar gyfer gwartheg ar ôl eu symud o ardal clefyd uwch. Rydym ni’n cydnabod nad yw unrhyw brawf TB yn berffaith, felly mae cyflwyno prawf ychwanegol ar y fferm yn y pen draw yn darparu sicrwydd dwbl o statws TB y gwartheg sy'n cael eu symud i'r ardal TB isel. Byddwn yn monitro ac yn adolygu llwyddiant y polisi hwn cyn ystyried a yw'n briodol ehangu ei gyflwyniad i'r ardal TB canolraddol y flwyddyn nesaf.
Mae unedau pesgi eithriedig yng Nghymru yn cael eu dileu yn raddol ar hyn o bryd oherwydd y nifer cymharol uchel o achosion o TB yn y math hwn o weithredu a'r risg gynhenid o ledaenu clefydau. Er mwyn taflu goleuni ar y newid hwn, mae oddeutu 20 o unedau pesgi eithriedig sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd a chysylltwyd â phob gweithredwr ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Er mwyn amddiffyn Llywodraeth Cymru rhag cost yr anifeiliaid sydd â’r gwerth mwyaf, cyflwynwyd terfyn uchaf o £5,000 ar iawndal TB sy'n daladwy am bob anifail. Bydd cyfran yr anifeiliaid y bydd y newid hwn yn effeithio arnyn nhw yn fach. Y llynedd, o’r holl wartheg a brisiwyd at ddibenion TB, dim ond 68 o anifeiliaid—llai nag 1 y cant—oedd â gwerth yn fwy na £5,000. Pe bai’r terfyn uchaf wedi bod ar waith y llynedd, byddai arbedion o ychydig llai na £200,000 wedi'u gwneud—arbediad sy'n bwysig yng nghyd-destun colli arian yr Undeb Ewropeaidd ar ôl 2018.
Mae darparu a rhoi cynlluniau gweithredu pwrpasol ar waith ar gyfer achosion mynych o TB sy'n para 18 mis neu fwy yn parhau. Mae'r rhain yn cael eu llunio, mewn ymgynghoriad â'r ffermwr, gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a milfeddyg preifat y ffermwr, yn ôl cais y ffermwr. Cytunwyd ar oddeutu 40 o gynlluniau gweithredu hyd yn hyn, ac mae rhagor yn cael eu hychwanegu bob mis. Ar yr un pryd, mae’r cyfyngiad ar rai achosion mynych o TB mewn buchesi yn cael ei godi ac maen nhw’n dod i ffwrdd o’r rhestr. Fodd bynnag, ar unrhyw adeg, mae rhwng 50 a 60 o achosion mynych o TB yn agored ac mae'r rhain yn yr ardaloedd TB canolraddol ac uchel.
Drwy broses y cynllun gweithredu, mae cyfres o fesurau yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i glirio heintiau. Mae'r rhain yn cynnwys profion TB mwy sensitif, dileu adweithyddion amhendant, a’i gwneud yn ofynnol i gynnal prawf TB ychwanegol cyn caniatáu i wartheg gael eu symud ar ôl codi’r cyfyngiadau. Gellir hefyd cyflwyno hysbysiad o ofyniad bioddiogelwch er mwyn codi safonau bioddiogelwch ar fferm i'r lefel ofynnol er mwyn lliniaru afiechydon mynych.
Mewn rhai achosion mynych o TB pan yr ystyrir bod moch daear yn cyfrannu at fynychder y clefyd yn y fuches, bydd y cynlluniau gweithredu yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael â’r trywydd hwn o’r haint. Yn dilyn arolygon o frochfeydd, bydd y mesurau hyn yn cynnwys dal a phrofi moch daear ar y fferm lle mae’r achos o TB a lladd moch daear mewn modd gwaraidd os oes TB arnyn nhw. Bydd moch daear nad oes TB arnyn nhw yn cael eu rhyddhau ar ôl i ficrosglodyn gael ei osod, a bydd gwaed yn cael ei dynnu i gynnal rhagor o brofion.
Rwyf wedi parhau i fonitro sefyllfa'r frechlyn moch daear yn ofalus, gan fy mod i’n credu bod brechu moch daear yn chwarae rhan yn ein rhaglen dileu TB. Pan fydd y sefyllfa gyflenwi ar gyfer pobl wedi ei datrys ac y gallaf fod yn siŵr y gallwn ni gael brechlynnau o ffynhonnell foesegol, byddaf i’n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r brechlynnau yn rhan o'n rhaglen dileu TB.
Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw dileu’r achosion hirsefydlog hyn o TB, mae rhai ohonyn nhw wedi bod dan gyfyngiadau ers 16 mlynedd neu fwy. Ar gyfartaledd, cost profi’r buchesi hyn a’r iawndal ar gyfer gwartheg a gaiff eu difa yw £179,000 ar gyfer pob buches. Byddwn ni’n monitro effeithiau'r holl fesurau hyn yn fanwl ac yn ceisio bod mewn sefyllfa i adolygu ffiniau'r ardaloedd TB pan fydd gennym ni’r set ddata lawn o'r flwyddyn galendr ar gyfer 2018.
Mae’r gwaith modelu a gosod targedau yn parhau. Dylai fod adroddiad ar y gwaith hwn ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwn yn sefydlu targed dileu ffurfiol ar gyfer Cymru gyfan a cherrig milltir interim ar gyfer pob un o'r ardaloedd TB. Ochr yn ochr â'r gwelliannau hyn, mae'r drefn o brofi buchesi yn flynyddol am TB yn parhau ledled Cymru. Mae gennym ni bron i wyth mlynedd o ddata profion blynyddol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae'r lefel uchel hon o oruchwyliaeth weithgar yn darparu sicrwydd diamau o statws TB gwirioneddol y buchesi gwartheg yng Nghymru, ac mae 95 y cant o'n buchesi gwartheg yn rhydd rhag TB.
Er mwyn ychwanegu at ein gwybodaeth am TB buchol mewn moch daear a mathau eraill o fywyd gwyllt allai gludo’r haint, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd yr arolwg Cymru gyfan o 'foch daear marw' yn parhau, yn dilyn ymarfer caffael llwyddiannus. Dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwaith hwn i Ganolfan Wyddoniaeth Milfeddygol Cymru, ac mae ei gwmpas wedi'i ehangu i gynnwys casglu a chynnal archwiliad ar ôl lladd ar unrhyw rywogaethau bywyd gwyllt eraill yn ogystal â moch daear.
Mae'r ystadegau TB yn parhau i fod yn galonogol. Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng 40 y cant ers 2009, y lefel isaf ers 12 mlynedd. Er yr ymddengys fod y duedd hon wedi sefydlogi ar hyn o bryd, gellir disgwyl cyfnodau sefydlog yn rhan o'r patrwm hirdymor cyffredinol. Dyna pam yr ydym ni wedi gwella ein rhaglen i barhau i ostwng lefelau’r clefyd.
Hoffwn i ddiolch i'r diwydiant ffermio, a'r proffesiwn milfeddygol a rhanddeiliaid eraill am eu cydweithrediad a'u hymgysylltiad parhaus wrth i’n rhaglen ddatblygu a gwneud cynnydd tuag at ein nod yn y pen draw o weld Cymru sy’n rhydd rhag TB.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Ar gyfer y cofnod, hoffwn i, unwaith eto, nodi bod TB buchol wedi effeithio ar fferm fy rhieni yng nghyfraith yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Wrth gwrs, mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod y gwaith ar fodelu a gosod targedau yn parhau, ac rwy’n croesawu’r ffaith y bydd targedau mwy ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn hon. Fodd bynnag, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod y targedau hyn yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â'r diwydiant amaethyddol i sicrhau eu bod yn gymesur ac yn gadarn.
Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet fy nghefnogaeth lwyr ar gyfer cynigion Llywodraeth Cymru i ddechrau dileu’r clefyd hwn o'r boblogaeth bywyd gwyllt. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach yn dechrau cymryd y cam anodd hwnnw ymlaen trwy gael gwared â moch daear heintiedig yn ogystal â gwartheg heintiedig. Wrth gwrs, o ystyried sensitifrwydd y mater hwn, ar gyfer tirfeddianwyr a Llywodraeth Cymru, rwy'n deall, a hynny’n iawn hefyd, na fydd unrhyw wybodaeth benodol yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus. Fodd bynnag, efallai y gallai roi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y mae hi’n bwriadu monitro'r trefniadau hyn i sicrhau bod y broses hon yn digwydd mor esmwyth â phosibl. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ddweud wrthym ni sut y bydd hi’n asesu effeithiolrwydd y polisi hwn, fel bod y rheolaethau sydd wedi’u targedu yn cael eu gweithredu'n briodol.
Nawr, wrth gwrs, mae ffordd ranbarthol o weithio wrthi’n cael ei gweithredu, ac mae'n hollbwysig nad yw'r ffordd hon o weithio yn arwain yn anuniongyrchol at fwy o faich a biwrocratiaeth i ffermwyr. Mae'n hollbwysig nad yw'r dull rhanbarthol yn rhwystro unrhyw ymdrechion i gyflawni'r bargeinion masnach gorau posibl ar gyfer diwydiannau cig coch a llaeth Cymru, a’i bod yn sicrhau nad oes effaith negyddol ar fasnach ddomestig rhwng Cymru a Lloegr. Yn wir, wrth ymateb i fy nghwestiynau ynglŷn â hyn cyn y toriad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod ei swyddogion yn sicr wedi siarad â DEFRA ac wedi cynnal trafodaethau ynglŷn â hynny. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y mae'r trafodaethau hynny'n datblygu, a pha gamau y mae hi wedi eu cytuno arnynt â Llywodraeth y DU.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd yn ddiweddar gan ffermwyr yn fy ardal fy hun ynglŷn â’r effaith negyddol y gallai'r rheolaethau newydd ei chael ar fridwyr pedigri mewn ardaloedd lle mae cyfraddau TB yn uchel. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant pedigri yn benodol, sy'n pryderu y gallai'r ffordd ranbarthol o weithio ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw fasnachu yn y dyfodol.
Wrth gwrs, un o nodau tymor hwy Llywodraeth Cymru, yn ôl cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Cymru, yw datblygu cynllun prynu ar sail gwybodaeth. Yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet cyn y toriad, cadarnhaodd mai cynllun gorfodol oedd yr unig ffordd ymlaen, a'i bod hi wedi gofyn i swyddogion edrych ar gynllun gorfodol. Nawr, gan nad yw'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gynllun prynu ar sail gwybodaeth, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hyn yn parhau i fod ar agenda Llywodraeth Cymru ac, felly, a wnaiff hi ddweud wrthym yn union beth y mae ei swyddogion wedi ei wneud i ddatblygu cynllun gorfodol?
Cadarnhaodd y cynllun cyflawni dileu TB y byddai terfyn uchaf yr iawndal yn cael ei ostwng i £5,000. Mae hyn bellach wedi'i gyflwyno yn ystod y dyddiau diwethaf, wrth gwrs, ac rwy'n sylweddoli bod hyn yn effeithio ar nifer bach o ffermydd yn unig. Mewn ymateb i fy nghwestiynau ynglŷn â’r pwnc hwn yn ystod ei datganiad blaenorol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n annog pobl sydd o’r farn bod ganddynt wartheg mwy gwerthfawr i ystyried yswiriant. Fodd bynnag, dywed cynllun cyflawni rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru fod pryderon na fyddai yswiriant yn ddewis ymarferol oherwydd cost y premiymau. Felly, er fy mod i’n sylweddoli bod hyn yn effeithio ar nifer bach iawn o ffermwyr yn unig, mae pryderon, yn naturiol, am y ffermwyr yr effeithir arnyn nhw gan achosion sylweddol o’r clefyd na allan nhw gael yswiriant ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u prisio yn fwy na £5,000. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni sut y bydd hi’n cefnogi'r ffermwyr hynny fel bod effaith y cynnig hwn mor fach â phosibl.
Agwedd arall ar y rhaglen dileu TB yw datblygu pecyn bioddiogelwch safonol, ar-lein. Mae'n hollbwysig bod y pecyn hwn yn cael ei ddatblygu gyda'r diwydiant i sicrhau ei fod yn ddigon hyblyg i ystyried amgylchiadau unigol, y gwahanol risgiau, a’r hyn sy’n sbarduno’r clefyd ym mhob ardal TB. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn nodi pwysigrwydd bioddiogelwch ar y fferm i liniaru mynychder y clefyd. Fodd bynnag, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni felly rhywfaint yn fwy am sut y bydd yn sicrhau bod unrhyw becyn bioddiogelwch ar y fferm yn berthnasol i anghenion unigol? A wnaiff hi ddweud wrthym ni rhywfaint yn fwy am sut y bydd y diwydiannau amaethyddol a milfeddygol yn ymwneud â datblygu unrhyw becynnau bioddiogelwch ar-lein?
Felly, i gloi, Llywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, am ei datganiad y prynhawn yma? Ac a gaf i, unwaith eto, gofnodi fy nghefnogaeth lwyr i gynigion Llywodraeth Cymru? Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig yw hi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant amaethyddol i ddileu TB buchol er mwyn amddiffyn pa mor gynaliadwy a chystadleuol yw’r diwydiant ar gyfer y dyfodol, yn arbennig wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Diolch.
Diolch i Paul Davies am y sylwadau, am groesawu'r datganiad, ac am ei gwestiynau. Rydych chi'n hollol gywir, rhaid i ni weithio'n agos iawn gyda'r diwydiant, gyda'r undebau ffermio, gyda'r milfeddygon, gyda'r ffermwyr unigol nad ydyn nhw’n aelodau o undebau ffermio, a chyda'r holl randdeiliaid hefyd. Rwyf yn awyddus i roi sicrwydd i’r Aelodau mai dyna yn hollol yw’r ffordd yr ydym ni wedi dynesu at hyn. Fe wyddoch chi y bu nifer o sioeau amaethyddol dros yr haf—mi wnes i bob tro fanteisio ar y cyfle i siarad â phobl am ein rhaglen ddileu ddiwygiedig, ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae fy swyddogion yn sicr wedi trafod yn ddwys â'n rhanddeiliaid ac â'r sector yn ystod yr haf cyn y dyddiad dechrau ar 1 Hydref.
O ran eich cwestiynau penodol, fe wnaethoch chi ofyn ynglŷn â thargedau, a dywedais fy mod i’n gobeithio bod mewn sefyllfa, yn sicr erbyn diwedd eleni, i gyflwyno targed, ac yn sicr wrth i swyddogion ddatblygu hyn, rydym ni’n ystyried a fyddai’n fuddiol cael targedau interim. Rydych chi’n gofyn pa gamau y cytunwyd arnyn nhw gyda DEFRA. Wel, fel y dywedais o'r blaen, nid wyf i wedi cael trafodaethau penodol â DEFRA ynglŷn â hyn. Mae hyn yn amlwg yn fater i ni, felly nid wyf i wedi cytuno ar unrhyw gamau penodol gyda DEFRA, ond rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn trafod y rhaglenni. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol bod Lloegr a'r Alban yn ymgynghori erbyn hyn—mae un o'r materion yn ymwneud â lleihau’r iawndal a rhoi terfynau uchaf ar iawndaliadau fel yr ydym ninnau wedi’i wneud yma yng Nghymru. Felly, mae'r trafodaethau hynny yn parhau, ond nid oes gennyf unrhyw gamau y cytunwyd arnyn nhw oherwydd, fel y dywedais i, mae hyn yn fater i ni.
Fe wnaethoch chi sôn am brynu ar sail gwybodaeth. Yn hollol, dyna'r bwriad o hyd—i gyflwyno cynllun prynu gorfodol ar sail gwybodaeth. Mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, bod ffermwyr yn arddangos gwybodaeth am TB ar adeg y gwerthu, a byddwch chi’n ymwybodol ein bod wedi rhoi arian i farchnadoedd da byw, er enghraifft, ond nid wyf i’n fodlon o hyd bod yr wybodaeth honno ar gael pob tro. Felly, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod ein holl farchnadoedd da byw yn gwella eu cyfleusterau. Fel yr wyf wedi’i ddweud, rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer gwneud hynny, ac mae angen darparu mwy o wybodaeth i werthwyr. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â grymuso ffermwyr fel y gallan nhw wneud y penderfyniadau prynu hynny ar sail gwybodaeth wrth symud ymlaen. Felly, ydy, yn sicr, hynny yw ein bwriad ni o hyd.
Fe wnaethoch chi ofyn hefyd am ffermwyr pedigri yn eich etholaeth chi ac ynglŷn â’u hamheuon, o fod mewn ardal TB uchel. Rwy'n deall yn llwyr yr amheuon sydd gan nifer o ffermwyr ynglŷn â bod mewn ardal TB uchel, ac yn sicr pan ddes i sioe Penfro roedd hynny yn un o’r materion y trafodais i. Ond rwy'n hyderus iawn y bydd y ffordd hon o fynd ati yn ein galluogi i gyflymu’r cynnydd, a dyna'r neges yr wyf i wedi’i rhoi i'r sector. Rwyf i’n wirioneddol awyddus i leihau nifer yr achosion a difrifoldeb pob achos, fel yr ydych chithau wedi’i ddweud hefyd.
Roedd eich cwestiwn olaf, rwy’n credu, yn ymwneud â bioddiogelwch, a byddwch chi’n cofio y daeth y rhaglen ddileu ddiwygiedig hon i fodolaeth yn sgil ein gwaith ymgynghori. Yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, rhoddais i dasg i swyddogion ddatblygu pecyn bioddiogelwch safonol ar-lein, a oedd yn ychwanegu mewn gwirionedd at y gwaith blaenorol a wnaed yn y maes hwn. Felly, mae nifer o offer bioddiogelwch ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd. Yr hyn yr wyf i’n dymuno ei wneud yw mynd ati o ddifrif i safoni'r cyngor, oherwydd nid wyf i’n credu ein bod ni eisiau—. Fe wnaethoch chi sôn am fiwrocratiaeth, ac rydym ni’n dymuno yn fawr iawn gwneud y broses mor syml â phosibl, a chael gwared ar y cymhlethdod hwnnw. Felly, yr hyn yr wyf i’n wirioneddol dymuno ei gael yw un pecyn cynhwysfawr ar gyfer bioddiogelwch i alluogi ffermwyr i asesu eu risgiau clefyd yn llawn ac yna eu lliniaru yn briodol.
A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod i’n croesawu’r datganiad sydd yn cadarnhau beth sydd ar waith erbyn hyn, ac yn sgil y datganiad blaenorol gan y Gweinidog, sydd wedi cael cefnogaeth hefyd yn gyffredinol gan Blaid Cymru. Wrth gwrs, at ei galon, yr hyn y mae’r materion hyn yn ymwneud ag ef yw iechyd y cyhoedd ar yr un llaw, a lles anifeiliaid ar y llaw arall. Mae Plaid Cymru o’r farn bod angen trin lles anifeiliaid—y gwartheg sy’n dioddef o’r dicáu buchol yn gymaint â lles moch daear. Ac yn ogystal â mynd i’r afael ag anifeiliaid sydd wedi’u heintio, beth bynnag yw rhywogaeth yr anifail hwnnw, rydym yn croesawu’r camau sydd wedi’u cymryd yn y datganiad yma ac yn gobeithio y bydd hefyd yn gweithredu, i ryw raddau, i godi’r cysgod sydd dros y diwydiant ar hyn o bryd. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod nifer y buchesi sy’n dioddef o’r dicáu buchol yn gostwng, yn sicr mae’r effaith mewn nifer o rannau o Gymru yn drwm iawn.
Nid wyf am ailadrodd cwestiynau Paul Davies—mae e wedi gofyn y rhan fwyaf o’r cwestiynau roeddwn i’n mynd i ofyn—felly, fe wnaf jest ddweud fy mod i hefyd yn croesawu eich atebion i’r cwestiynau ynglŷn â phryniant doeth, fel mae’n cael ei adnabod, rwy’n meddwl, yn Gymraeg, y farchnad fewnol, a beth sy’n digwydd rhwng buchesi pedigri yn ogystal.
Roedd un cwestiwn rwy’n credu i Paul Davies ofyn, ac roeddwn i am ofyn, na chawsoch chi gyfle i’w ateb, ac efallai y byddech yn ateb i fi, sef: er ein bod ni wrth gwrs yn cydnabod na fyddem ni eisiau gwybodaeth i ddod allan ynglŷn â lle efallai y mae gweithredu ymysg bywyd gwyllt yn digwydd, sut y gallwn ni fod yn siŵr, nid yn unig ei fod yn cael ei fonitro ac yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf llesol, os caf i ddweud e fel hynny, neu fwyaf ‘humane’, ond ein bod ni hefyd yn deall a ydy e’n gweithio ac a ydy e wedi helpu i ostwng y dicáu yn y parthau hynny ac ar y ffermydd penodol hynny lle mae eich datganiad yn dweud ei fod wedi bod yn gronig am gyfnod hir iawn?
Os felly, fe wnaf jest symud ymlaen at ddau neu dri chwestiwn newydd. Mae un ohonyn nhw’n troi o gwmpas y ffaith eich bod chi wedi dweud yn glir mai un o’r rhesymau dros gyflwyno cap oedd i wneud arbedion. Roeddech yn sôn bod yr arbedion yna yn rhyw £200,000 y flwyddyn, sydd yn codi’r cwestiwn: beth sy’n digwydd ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Erbyn hyn, rydym ni’n gwybod am y dyddiadau hynny. Rydym ni’n gwybod yn iawn beth yw’r dyddiad. Nid ydym yn gwybod pa fath o fasnachu fydd yn digwydd, ond yn y cyd-destun yma, ni fyddwn bellach yn rhan o gytundeb yr Undeb Ewropeaidd. A fyddech chi’n gallu cadarnhau heddiw y byddwch chi yn cadw gwariant y Llywodraeth ar y clefyd yma ar y lefel bresennol, o leiaf tan ddiwedd y Cynulliad hwn, fel bod hynny’n gyrru neges gywir i’r diwydiant eich bod chi am gydweithio gyda nhw a bod y cap, os liciwch chi, yn werth y pris i dalu, gan y bydd arian yn dal i gael ei wario i leihau a chael gwared ar y clefyd yma?
Yr ail gwestiwn sydd hefyd yn codi, wrth groesawu’r ffaith eich bod chi wedi ehangu’r profi sydd yn digwydd ar anifeiliaid marw, yw bod yna ambell i sôn yn y cyd-destun Cymreig am gyflwyno rhywogaeth newydd i gefn gwlad Cymru. Mae’r afanc wedi cael ei grybwyll sawl gwaith ac rwy’n deall bod cynlluniau eithaf penodol nawr i gyflwyno afanc i rannau yng nghanolbarth Cymru. Mae’r afanc, yn ôl beth rwy’n deall, yn gallu cario’r clefyd hwn, felly pa gamau a pha sicrwydd fedrwch chi ei roi yn y cyd-destun yma na fydd unrhyw rywogaeth newydd yn cael ei gyflwyno i gefn gwlad a all ledaenu’r clefyd yma?
Rwy’n gobeithio y bydd ffermwyr a’r Llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y rhaglen ar ei newydd wedd yn llwyddiannus. Rwy’n gobeithio’n fawr y gwelwn ni leihad yn nifer y buchesi ond hefyd yn y ffordd y mae’r clefyd yma’n cael ei wasgaru mewn rhannau poeth, fel maen nhw’n cael eu galw, yng Nghymru. Rwyf jest am ofyn pryd fyddwch chi’n fodlon ailedrych a yw’r parthau sydd gyda chi, y tri pharth gwahanol yng Nghymru, yn gwneud y job a pryd fyddwch chi’n fodlon ailedrych ar hyn i weld a ydy’r cynllun yma’n llwyddo ai peidio?
Diolch, Simon Thomas, am groesawu'r datganiad ac am eich cwestiynau. Rydych chi'n iawn, mae’n fater o iechyd y cyhoedd yn ogystal â lles anifeiliaid. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn rhannu'r nod hwnnw o fod yn rhydd rhag TB. Dyna pam, oherwydd y sefydlogi hynny—roeddem ni’n gwybod ei fod ar y ffordd—roedd yn bwysig iawn ein bod yn adnewyddu'r rhaglen TB.
O ran eich cwestiwn penodol, rydych chi'n iawn, mi wnes i anghofio ateb cwestiynau Paul Davies ynghylch monitro. Felly, byddwch chi’n ymwybodol, mewn cysylltiad â dal moch daear, bod hynny ond yn digwydd yn yr achosion hynny o fuchesau sydd ag achos cronig o TB. Soniais fod rhwng 50 a 60 buches o’r fath, felly mae'r cynlluniau gweithredu hynny yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Rwyf i wedi gofyn i'r cynlluniau gweithredu hynny gael eu monitro. Soniais am y milfeddyg, ac yn amlwg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Fe hoffwn i adrodd yn flynyddol, yn ôl pob tebyg, ynglŷn â sut y mae hyn yn datblygu. Felly, bydd blwyddyn yn mynd heibio, mewn gwirionedd, cyn imi allu adrodd mewn modd sylweddol a fyddai'n fuddiol.
O ran y cynllun prynu ar sail gwybodaeth a grybwyllwyd gennych chi hefyd, a chan Paul Davies, fel yr wyf i wedi’i ddweud, rydym ni’n bwriadu cyflwyno cynllun prynu gorfodol ar sail gwybodaeth. A'r rheswm yr ydym ni’n gwneud hynny yw oherwydd ei fod wedi cyfrannu'n sylweddol at ddileu TB yn Awstralia a Seland Newydd ac roeddwn i’n ffodus iawn i siarad â rhywun o Seland Newydd ynglŷn â hyn. Rydych chi’n iawn, ni fyddwn yn adrodd pa ffermydd sydd â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol oherwydd, yn amlwg, mae mater o ddiogelwch yn ei gylch, ond fel yr wyf wedi’i ddweud, byddaf i’n adrodd, yn sicr—fy mwriad yw gwneud hynny yn flynyddol.
O ran y terfyn uchaf ar yr iawndal, rwyf wedi ymrwymo i dalu swm iawndal rhesymol ar gyfer lladd gwartheg oherwydd TB, ond mae'n fwy hanfodol erbyn hyn ein bod ni'n edrych ar ba arian y gallwn ni ei arbed, oherwydd rydych chi’n iawn, nid ydym ni’n gwybod ble mae'r arian hwnnw. Felly, yn sicr, fy mwriad i fyddai parhau i ariannu ar y lefel yr ydym ni ar hyn o bryd, ond rydych chi’n sylweddoli bod cyllidebau'n cael eu llunio yn flynyddol a bydd yn rhaid i ni ystyried hynny. Ond nid yw'n ymwneud ag arbed arian, mae'n ymwneud â dileu TB, ac rwy’n pryderu bod gorbrisio yn cynyddu'r gost i'r trethdalwr, ac rwyf wir yn dymuno osgoi hynny. Ac wrth gymharu ein taliadau iawndal cyfartalog, maen nhw 60 y cant yn uwch o’u cymharu â Lloegr, ac nid wyf i’n credu bod hynny’n dderbyniol.
Fe wnaethoch chi sôn am ddyfrgwn ac afancod: fe glywais i hefyd dros doriad yr haf eu bod yn ystyried cyflwyno afancod yng Nghymru, ond y tro diwethaf i mi wirio, ni fu unrhyw geisiadau am drwyddedau, ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried, yn amlwg, os yw hynny yn digwydd. A soniais y bydd yr arolwg o foch daear marw yn cynnwys rhywogaethau eraill bellach, a byddwn i’n annog yr holl Aelodau i wneud yn siŵr bod y rhif ffôn hwnnw—nid yw ef gen i wrth law; mae yma rhywle—ar gael i bawb, ac os byddan nhw’n dod o hyd i fochyn daear marw, eu bod yn rhoi gwybod amdano.
Rwyf i hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at welliant sylweddol, yn arbennig yn yr achosion hynny o fuchesi ag achosion cronig, sydd, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae rhai ohonyn nhw—neu un ohonyn nhw, wedi bod yn y cyflwr hwnnw ers 2001. Mae'n gwbl annerbyniol ar gynifer o wahanol lefelau, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r sector wedi gweithio gyda ni i ddatblygu rhaglen ddileu ddiwygiedig.
Wel, gallaf i fod hyd yn oed yn fwy cryno na Simon Thomas, o ystyried bod llai o gwestiynau heb eu hateb erbyn i chi ddod ataf i. Ond rwy'n croesawu'r datganiad, ac fe hoffwn i hefyd gofnodi fy marn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn adeiladol iawn yn y ffordd y mae hi wedi datblygu polisi yn y maes hwn ac mae'r gymuned ffermio yn gwerthfawrogi’n fawr y natur agored y mae wedi ei dangos a'i pharodrwydd i wrando ac ymgysylltu â nhw mewn trafodaethau ymarferol ynglŷn ag ymdrin â'r afiechyd ofnadwy hwn. Mae yr un mor bwysig i'r gymuned ffermio ac, yn wir, y wlad gyfan, y dylid ymdrin â hyn fel yr ymdriniwyd â BSE bryd hynny. Yn sicr, o ran y dyfodol, a photensial marchnata cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru, bydd ymdrin â TB a'i ddileu, cyn belled ag y gallwn ni, yn hanfodol yn y byd ar ôl Brexit. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy marn i ar hynny.
I'r perwyl hwnnw, er fy mod yn credu'n gryf, fel y gŵyr hi, mewn rheoleiddio cymesur, mae’r newid yn y rheoliadau sy’n ymwneud â phrofion cyn symud mewn ardaloedd TB isel yn rhywbeth y mae angen ei adolygu yn barhaus, ac fe hoffwn i wybod a fydd hynny'n digwydd. Fe hoffwn i ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes ynglŷn ag iawndal i ffermwyr ar gyfer anifeiliaid sydd gwerth mwy na £5,000, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ddweud bod yr iawndal ar gyfartaledd 60 y cant yn fwy nag yn Lloegr—fe glywais i Llyr Gruffydd yn dweud ychydig yn ôl bod hynny oherwydd bod gennym ni wartheg sydd 60 y cant yn well. Nid wyf i’n gwybod a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ond serch hynny, yn amlwg, nid ydym ni eisiau talu’n fwy na’r angen am wartheg, ond serch hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod incwm ffermydd o dan bwysau eithafol ac mae hyn yn gosod cost wirioneddol ar bobl yn y byd go iawn. Felly, rwy'n gobeithio, unwaith eto, y bydd hi’n parhau i adolygu hynny.
Un o'r problemau mawr, wrth gwrs, yw anifeiliaid y gwyllt, oddi ar ffermydd sydd wedi eu heintio. Rwyf i’n cydnabod y cam sylweddol y mae hi wedi'i gymryd, ac mae’n rhaid, yn iaith briodol Syr Humphrey, yr ystyrid hynny yn ddewr, i benderfynu difa hyn a hyn o foch daear ble maent i’w canfod gyda’r haint arnyn nhw, ac i wneud hynny mewn modd gwaraidd. Mae hynny yn gam ymlaen arwyddocaol iawn mewn egwyddor, ac, yn fy marn i, mae hi’n haeddu ein llongyfarchiadau am hynny.
O ran brechu moch daear, tybed a yw hi'n cytuno â mi nad yw hyn mewn gwirionedd, yn fy marn i, yn gam ymarferol i ddileu'r clefyd hwn. Rydym ni i gyd yn cofio pan oedd y brechlynnau ar gael, roedd y gost am bob mochyn daear a frechwyd yn rhyfeddol: cymaint â, rwy’n credu, os cofiaf yn iawn, rhywbeth fel £1,000. Felly, mae'n ddrud iawn ac mae poblogaeth y moch daear yn anodd ei monitro, felly rwy'n credu mai gam gwag yw meddwl os bydd y brechlyn erioed ar gael eto mewn niferoedd sylweddol, y bydd hynny’n ateb i'r clefyd hwn.
Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â swyddogaeth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r gofyniad, felly, i gael dau filfeddyg ar y fferm i archwilio anifeiliaid. Fe wn i fod hwn yn gam ymlaen mewn sawl ffordd, ond mae hyn yn gost ychwanegol i’r ffermwr. Mae'n debygol y bydd ei filfeddyg ei hun yn adnabod ei fferm a'i anifeiliaid ei hun yn well na milfeddyg yr Asiantaeth, tybed felly, er mwyn cynorthwyo, a allai’r Llywodraeth dalu am gost milfeddyg yr Asiantaeth hefyd.
Un pwynt arall yr hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd yn ei gylch yw fy mod i’n gwybod na all Ysgrifennydd y Cabinet roi union amseroedd i ni, ac fe wn i y cyflwynwyd rheolaethau uwch ar gyfer gwartheg yr hydref hwn, ond a all hi gadarnhau y bydd y broses o ddal a phrofi moch daear hefyd yn digwydd ar yr un pryd yr hydref hwn, yn unol â'r rheolaethau ychwanegol sy'n cael eu rhoi ar ffermwyr Cymru? Mae'r diwydiant ffermio wedi dweud na allai dderbyn rhagor o reolaethau ar wartheg heb fod hynny’n digwydd ar yr un pryd, ac rwy’n gobeithio ei bod hi’n gallu rhoi sicrwydd i mi heddiw fod hynny'n debygol.
Diolch, Neil Hamilton, am y cwestiynau hynny. Mae'n debyg mai'r ateb byr i un neu ddau o'r cwestiynau hynny yw y byddwn ni’n adolygu’r rhaglen gyfan yn barhaus—yn ei adolygu’n gyson. Fel yr wyf wedi’i ddweud, rwyf i wedi ymrwymo i adrodd i'r Cynulliad ar ein cynnydd. Fe wnaethoch chi ofyn am ychydig o bwyntiau ac a fyddem ni’n adolygu pethau penodol yn barhaus. Yr ateb yw ein bod yn adolygu’r rhaglen gyfan yn barhaus.
Fe wnaethoch chi sôn am y profion cyn symud yn yr ardal TB isel. Rwy'n credu bod hynny yn arf pwysig ac effeithiol iawn wrth gadw afiechydon rhag ymledu i fuchesi sy’n rhydd rhag TB. Rwy’n credu, os gallwn ni ddatgan bod y gogledd-orllewin yn rhydd rhag TB, byddai hynny'n rhoi hwb mawr i bawb. Rydym ni o fewn cyrraedd gallu gwneud hynny, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n amddiffyn yr ardal honno fel hyn. Rwy'n credu bod angen i geidwaid anifeiliaid gymryd perchnogaeth o ddifrif o sefyllfa'r afiechyd, fel y gallwn ni ddiogelu statws ffafriol yr ardal honno yn wirioneddol.
O ran iawndal, byddwch chi wedi clywed fy atebion cynharach. Fel yr wyf wedi’i ddweud, braf yw gweld nawr bod Lloegr a'r Alban yn ymgynghori ar hynny hefyd. Rwyf i'n annog ffermwyr, os ydyn nhw o’r farn bod ganddyn nhw wartheg gwerth mwy na £5,000, i chwilio am yswiriant. Rwy'n gwybod ei fod yn faes yswiriant eithaf newydd, ond mae ar gael.
O ran dal moch daear, nid ydym yn eu difa, nid yw’n broses ddifa gyfyngedig. Rwy'n credu y byddai'n dda i boblogaeth y moch daear os byddwn ni’n dileu—. Os oes TB ar fochyn daear, pam fyddech chi eisiau ei gadw yno? Soniais yn fy natganiad agoriadol ynglŷn â sut y byddai hynny'n digwydd—y bydden nhw’n cael eu profi ac y byddai microsglodyn yn cael ei osod ynddyn nhw, a byddai gwaed yn cael ei brofi eto hefyd. Felly, rwy'n credu ei fod yn dda i boblogaeth y moch daear yn ogystal â gwartheg, yn amlwg.
Mae'r brechlyn yn chwarae rhan, yn fy marn i. Nid wyf i’n credu y byddai unrhyw fesur unigol gennym ni yn dileu TB—rwy'n credu ei bod yn ymwneud â chyfres gyfan o fesurau. Rwyf yn credu, fel yr wyf wedi’i ddweud, bod y brechlyn yn chwarae rhan. Os bydd ar gael yn y ffordd yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol, byddaf i’n sicr yn ei ystyried yn rhan o'r rhaglen ddileu.
Felly, y cynlluniau gweithredu, soniais fod rhwng 50 a 60 o achosion cronig mewn buchesi ar unrhyw adeg, nid yr un rhai pob tro, yn amlwg. Rwy'n deall bod oddeutu 45 o'r cynlluniau gweithredu hyn wedi'u llunio bellach yn ystod yr haf ers i mi wneud fy natganiad ym mis Mehefin, cyn y dyddiad cychwyn ar 1 Hydref. Yn amlwg, bydd hyn wedyn yn rhan o'r cynlluniau gweithredu hynny wrth i ni fwrw ymlaen.
O ran cael milfeddyg preifat a milfeddyg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn gweithio ochr yn ochr â'r ffermwr, nid wyf i wedi cael unrhyw feirniadaeth ynglŷn â’r gost, ond nid wyf i’n dymuno ychwanegu at feichiau ffermwyr chwaith, felly byddaf i’n sicr yn edrych ar sut y mae hynny'n cael ei ariannu.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac rwy'n ffyddiog y bydd y mesurau gwell a newydd hyn yn parhau â'r cynnydd sylweddol a wnaed tuag at ddileu TB buchol yng Nghymru, sydd eisoes wedi arwain at ostyngiad o 40 y cant mewn achosion ers 2009. Rwy'n rhannu eich penderfyniad i glirio'r achosion hirsefydlog o TB, y gost i'r cyhoedd a'r gofid personol y mae’r rhain yn ei beri.
Ond, mae’r Aelodau yn gwybod fy marn ar ddifa bywyd gwyllt: credaf y dylem wneud popeth yn ein gallu i'w osgoi. Felly, byddwn i’n annog y Llywodraeth i barhau i chwilio am ffyrdd newydd, arloesol a gwaraidd wedi’i seilio ar wyddoniaeth o ddileu’r clefyd. Mae yna wahaniaeth mawr rhwng Cymru a'r difa diofal yn Lloegr. Rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych chi’n cefnogi difa llwyr ac rwy'n croesawu'r dull hwnnw, ond rwyf yn meddwl tybed pa mor aml y bydd cewyll yn cael eu harchwilio a pha mor siŵr y gallwch chi fod, pan fydd mochyn daear wedi ei ddal, y byddai'n dianc rhag marwolaeth a dioddefaint diangen. Fe wnaethoch chi sôn am gael gwybod am laddiadau ar ochr y ffordd. Tybed a ydyn nhw wedi’u hasesu i ganfod a oedden nhw’n farw eisoes cyn cyrraedd ochr y ffordd, a faint ohonyn nhw mewn gwirionedd sy’n rhydd rhag TB. Mae gen i lawer o dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod hynny'n ffordd o gael gwared ar foch daear sydd wedi eu lladd yn anghyfreithlon ymhell cyn iddyn nhw gyrraedd ochr y ffordd. Felly, yr unig ffordd y gallwn ni bennu hynny yw trwy edrych yn agosach ar y cyrff hynny.
Mae’r peth arall yr hoffwn i ei ofyn yn ymwneud â’r gollyngiadau slyri o'r ffermydd llaeth mawr a lledaeniad posibl TB buchol o ganlyniad i hynny. Rwy’n gofyn, oherwydd nid oes sôn o gwbl yn y datganiad hwn, pa un ai a fyddai modd cyn i ni drwyddedu rhagor o ffermydd llaeth mawr, ystyried o ddifrif y cais cynllunio hwnnw o ran cyfyngu’r slyri i’r fferm, yn hytrach na'i bod i’w weld yn yr afon o fewn ychydig o ddyddiau ac yn eithaf aml hefyd.
Byddai gennyf i ddiddordeb hefyd mewn clywed eich barn, Ysgrifennydd y Cabinet, ar dechneg profi newydd sy'n cael ei defnyddio ar fferm yn Nyfnaint a allai helpu i adnabod ac ynysu gwartheg heintiedig yn fwy cywir a chyflym, gan ddileu TB o’r fuches heb orfod ymyrryd â'r bywyd gwyllt cyfagos. Rydym ni’n gwybod, er bod moch daear yn gallu dal TB oddi wrth wartheg, nad ydyn nhw’n ei gadw'n fyw am agos gyn hired. Ymddengys bod y prawf yn Nyfnaint yn dangos hyd yn oed pan fo moch daear o amgylch y fferm wedi eu profi'n bositif am TB, oherwydd bod y clefyd wedi ei ddileu o'r fuches yn gyfan gwbl, nid yw'n dychwelyd. Mae'r Save Me Trust yn cynorthwyo’r astudiaeth ac yn gobeithio, drwy wella’r profi, y bydd lladd moch daear yn amherthnasol, ac rwyf innau yn gobeithio hynny hefyd.
Y peth arall sydd wedi fy ngofidio, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gofidio pobl eraill sy'n gwrando ar y ddadl hon heddiw, yw cynnwys erbyn hyn, nid moch daear yn unig, ond dyfrgwn ac afancod hefyd. Mae hynny’n peri gofid mawr i mi, ac fe hoffwn i weld unrhyw dystiolaeth y gall unrhyw un ei gyflwyno ynglŷn â hynny.
Diolch. Wel, fel yr wyf wedi’i ddweud, y tro diwethaf i mi holi, nid oedd unrhyw gais wedi ei wneud am unrhyw drwyddedau i ddod ag afancod i Gymru, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni barhau i gadw golwg arno pe byddai hynny yn digwydd. Rydych chi'n iawn, rwyf i wedi gwrthod difa yn yr un modd â Lloegr, ac nid wyf i’n bersonol yn credu bod unrhyw beth i awgrymu bod darlun y clefyd yn Lloegr yn gwella yn sgil yr hyn maen nhw'n ei wneud. Felly, yn hollol, rydym ni wedi gwrthod difa, a byddwch chi’n ymwybodol o'r hyn yr ydym ni yn ei wneud dim ond yn yr achosion cronig hynny mewn buchesi o ran moch daear. Caiff ei wneud mor gyflym â phosibl. Bydd y moch daear yn cael eu dal a'u profi yn gyflym iawn, ac rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i chi y byddan nhw’n cael eu trin yn waraidd drwy’r amser.
O ran yr arolwg o ‘foch daear marw’, efallai y byddai o gymorth pe bawn i’n rhoi ychydig o ffigurau i chi. Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau â hynny—fel yr wyf wedi’i ddweud, cawsom ni ymarfer caffael—oherwydd rwyf yn credu ei fod yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr iawn yn yr ymgyrch yn erbyn TB mewn gwartheg. Rydych chi’n gofyn y cwestiwn: a ydyn nhw'n cael eu hasesu i gael gwybod sut maen nhw'n cyrraedd ochr y ffordd neu sut maen nhw wedi eu lladd? A’r ateb yw 'ydyn', ac yn sicr, nid wyf i wedi cael unrhyw awgrym bod y moch daear sydd i'w gweld ar ochr y ffordd wedi'u rhoi yno yn anghyfreithlon. Felly, rwyf i eisiau rhoi sicrwydd i chi ynglŷn â hynny. Dangosodd y canlyniadau dros dro a gawsom ni o'r arolwg Cymru gyfan o 'foch daear marw' a gynhaliwyd yn 2016, o blith y 681 o garcasau moch daear a brofwyd, roedd 50, felly 7.3 y cant, yn profi’n bositif am TB buchol. O 1 Ionawr eleni hyd at 31 Awst eleni, profwyd 44 o garcasau; profodd wyth yn bositif ac rydym yn aros am ganlyniadau 12 ohonynt. Felly, fe allwch chi weld ei bod hi’n hollbwysig bod gennym ni’r wybodaeth honno a hefyd am y lleoliadau—mae hynny’n helpu gyda'r ardaloedd TB isel, canolraddol ac uchel, bod yr wybodaeth honno gennym ni. Felly, rwyf i wedi dod o hyd i'r rhif ffôn erbyn hyn. Felly, rwyf i, fel yr wyf wedi’i ddweud, yn annog pawb i sicrhau bod y rhif ffôn hwn ar gael: sef 01970 612374. Mae rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar gael ynglŷn ag ymdrin â'r carcasau hynny, ond rwy’n annog pawb i ffonio Canolfan Gwyddorau Milfeddygol Cymru os ydyn nhw’n dod o hyd i fochyn daear marw.
O ran gollyngiadau slyri, rydym ni wedi gweld rhywfaint o lygredd amaethyddol sylweddol eleni, ac rwyf i wedi ei wneud yn hollol glir bod hyn yn gwbl annerbyniol. Felly mae hyn, yn amlwg, yn rhywbeth yr ydym ni’n cadw golwg arno. Byddwch chi’n ymwybodol ein bod wedi cynnal yr ymgynghoriad ynglŷn â’r parthau perygl nitradau, a byddaf i’n gwneud datganiad ar hynny erbyn diwedd eleni.
Fe wnaethoch chi sôn am y dechneg profi newydd yn Nyfnaint. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion edrych ar hyn, ond nid oes gennyf i unrhyw wybodaeth—nid wyf i wedi cael gwybodaeth amdano hyd yn hyn. Ond, yn sicr, byddwn yn ystyried unrhyw beth a all ein helpu yn y frwydr hon.
Yn y rhaglen gyflenwi, rydych chi’n dweud y bydd dadansoddiad pellach o ddulliau eraill yn lle iawndal yng Nghymru, ac rwyf yn gofyn i chi adolygu’r cam i ddileu’r terfyn uchaf. Fe glywsom ni dystiolaeth glir gan yr undebau ffermio y bydd hyn yn cael effaith wael ar fuddsoddiad ac yna ansawdd y gwartheg. Ac mae'n doriad eithaf llym o £15,000 i £5,000. Rydych chi’n iawn nad yw'n effeithio ar lawer o achosion bob blwyddyn, ond mae yn rhywbeth sylweddol, yn enwedig yn y maes pedigri. Rwy’n credu y byddai'n rhesymol i chi wirio bod cynnyrch yswiriant ar gael ar y farchnad am bris rhesymol, oherwydd os nad oes, mae gennym ni broblemau gwirioneddol. Felly, rwy’n credu mai hynny ddylai fod yn sail i'ch adolygiad.
Yn ail, dywedodd argymhelliad 11 o adroddiad y pwyllgor y dylech chi ddiogelu'r gwariant presennol ar ddileu TB. Mae'n ymddangos eich bod yn symud yn gyflym iawn i ddweud, 'Wel, wyddoch chi, mae'r rhaglen Ewropeaidd yn talu am lawer ohono ar hyn o bryd', ac, yn wir, un o'r rhesymau y gwnaethoch chi ddweud y byddech chi’n gostwng y terfyn uchaf yw bod angen i chi arbed arian oherwydd y posibilrwydd o dynnu—wel, oherwydd tynnu arian Ewropeaidd yn ôl, na fydd yn cael ei dalu. Ond, wyddoch chi, dywedodd ein pwyllgor yn bendant y dylech chi neu Lywodraeth Cymru ddiogelu'r gwariant presennol, ac fe hoffwn i glywed yr ymrwymiad hwnnw gennych chi.
Diolch i David Melding am ei gwestiynau, ac fe ddywedais i mai fy mwriad yn sicr yw ei ddiogelu. Nid yw'r arian Ewropeaidd mewn gwirionedd yn ganran enfawr o'r cyllid yr ydym ni’n ei ddefnyddio, ond, yn sicr, rydych chi'n hollol gywir bod angen i ni ystyried diogelu’r gwariant hwnnw, ac yn sicr dyna yw fy mwriad, ac rwy’n gobeithio yr eglurais i hynny i Simon Thomas gynnau. Mae yswiriant ar gael. Fe ddywedais i ei bod yn farchnad eithaf newydd, ond yn sicr mae yswiriant ar gael. Soniais fy mod i’n adolygu pob rhan o’r rhaglen ddiwygiedig yn barhaus. Fodd bynnag, soniais i hefyd fod Lloegr a'r Alban yn ymgynghori erbyn hyn ar leihau'r iawndal a gosod terfyn uchaf o oddeutu £5,000. Felly, nid wyf i’n credu y byddem ni’n newid hynny yn y dyfodol agos, ond bydd yr holl raglen yn cael ei adolygu’n barhaus.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.