Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 3 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ymwybodol iawn y bydd yr Aelodau yn dymuno pleidleisio ar y penderfyniad ariannol a phleidleisio ar y Bil hefyd ar sail polisi a'r gefnogaeth eang sydd i amcanion y Bil. Ond rwy’n credu ei bod yn briodol fy mod yn siarad am yr adroddiad y mae’r Pwyllgor Cyllid wedi ei gynhyrchu ar y Bil, ac er mwyn i rai Aelodau nad ydyn nhw’n rhan o'r broses hon ddeall sut y cafwyd sefyllfa lle mae Bil y gellid neu y dylid fod wedi ei gyflwyno cyn toriad yr haf bellach yn cael ei drafod nawr. Ac rydym mewn sefyllfa ryfedd, yn yr ystyr pe na fyddai'r penderfyniad ariannol yn cael ei gymeradwyo heno, yna ni fyddem yn gallu ei drafod yn y pwyllgor yfory. Rwy'n amau na fydd hynny'n digwydd, ond dyna'r fath o sefyllfa athronyddol yr ydym ni ynddi.
Pan gyflwynwyd y Bil gyntaf, a phan edrychodd y Pwyllgor Cyllid gyntaf, ar 7 Chwefror rwy’n credu, ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol gyda'r Bil, rhagwelwyd y byddai arbedion o ryw £4.8 miliwn yn cael eu gwneud, ac yng nghyd-destun cyhoeddiad y Gweinidog bryd hynny o gronfa £20 miliwn i ariannu'r Bil, a'r gweithredu a’r rhaglen sy'n deillio o'r Bil hwnnw, yna roedd honno'n sicr yn edrych yn debyg i sefyllfa ariannol ddeniadol dros ben. Fodd bynnag, mae nifer o welliannau i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, y mae rhai ohonyn nhw, y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw yn ei sylwadau agoriadol, wedi arwain at yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol presennol gerbron y Cynulliad hwn, yn sôn nid am arbedion o £4.8 miliwn, ond am gostau o £7.9 miliwn. Mae hynny'n golygu bod gennym Asesiad Effaith Rheoleiddiol ger ein bron sydd â chynilion parhaus o ryw £3.7 miliwn, ond sydd â chostau pontio o £11.5 miliwn. Nawr, mae’n amlwg y telir am y costau hyn gan y cyhoeddiad o £20 miliwn a wnaeth y Gweinidog, er fy mod i o’r farn y dylid ei rhoi ar gofnod bod y £20 miliwn hynny, o safbwynt y Pwyllgor Cyllid, yn ymrwymiad o £10 miliwn mewn gwirionedd ac yn arwydd o £10 miliwn o ymrwymiad parhaus mewn penderfyniadau ariannol a chyllideb sydd eto i ddod.
Nawr, byddech yn credu fel arfer mai’r rheswm dros sefyllfa lle mae Gweinidog wedi cyflwyno Bil oedd yn cynrychioli arbedion yn y lle cyntaf, ac yna’n dangos bod costau sylweddol yn ei sgil, fyddai nad oedd y Gweinidog wedi ystyried costau gwirioneddol y Bil. Mewn gwirionedd, digwyddodd rhywbeth llawer mwy rhyfedd yn yr achos hwn. Y mater gwirioneddol yma oedd nad oedd yr arbedion cychwynnol a ragwelwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cymryd i ystyriaeth na fyddai'r arbedion yn cael eu dyrannu yn y gost. Roedden nhw’n codi o'r arbedion y byddai sefydliad yn eu gwneud trwy beidio â chynnwys ei wirfoddolwyr wrth weithio gyda theuluoedd a oedd yn wynebu tribiwnlysoedd ac anghydfodau anghenion dysgu ychwanegol. Mewn gwirionedd, ni allai Llywodraeth Cymru ddyrannu'r arbedion hynny fel arbedion ariannol gwirioneddol. Cododd hyn, fel y dywedodd y Pwyllgor Cyllid wrthym yr wythnos ddiwethaf, oherwydd camddealltwriaeth neu ddiffyg dealltwriaeth rhwng y sefydliad dan sylw a Llywodraeth Cymru—SNAP Cymru, y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn amdano. Gallaf gadarnhau y gwnaeth SNAP Cymru gadarnhau i'r Pwyllgor Cyllid yn ein sesiwn gyhoeddus, lle’r oedd y Gweinidog hefyd yn bresennol, bod ganddyn nhw nawr y ddealltwriaeth honno a’u bod yn rhannu gwybodaeth ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Felly, maen nhw'n siarad am yr un ffigurau; dyna'r peth pwysig i'w ddweud yma. Felly, yr hyn a welwch yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ger eich bron chi heddiw yn sicr yw'r ffigurau y cytunwyd arnyn nhw rhwng y Llywodraeth a'r prif sefydliad sy'n ymgymryd â'r gwaith hwn gyda theuluoedd.
I raddau helaeth, mater i’r Cynulliad ac i’r ochr bolisi nawr yw ystyried a yw hwn yn Fil sydd, ar sail cyhoeddi'r gronfa weithredu gwerth £20 miliwn ac ar sail y costau sydd bellach wedi eu nodi yn y Bil, yn un y mae'r Cynulliad yn dymuno ei ddwyn ymlaen. Er hynny, fel y dywedodd y Gweinidog hefyd, mae gwersi ehangach yma o ran sut yr ydym yn paratoi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cwblhau ei adroddiad ar Asesiadau Effaith Rheoleiddiol o'r fath, ac rwy’n gobeithio y bydd cyfle gennym yn y dyfodol i drafod. Pan wnawn ni hynny, efallai y byddwn am fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r broses hon hefyd.
Y peth olaf i'w ddweud yw bod yna gyfeiriad wedi ei wneud, ac mae yna gyfeiriad yn ein hadroddiad ni, at y gwerthusiad allanol a gomisiynwyd gan y Gweinidog. Rwy’n croesawu’r ffaith ei fod wedi comisiynu gwerthusiad allanol o'i Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Ar y cam hwnnw, dywedodd y gwerthusiad hwnnw, a gynhaliwyd gan Aldaba Limited, nad oedd y fersiwn o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ddibynadwy i’r diben o wneud penderfyniadau ar y Bil. Mae hwnnw'n gasgliad damniol iawn i werthuswr allanol ddod iddo. Eto i gyd, rwy’n awyddus i sicrhau'r Cyfarfod Llawn nad y fersiwn honno yw’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yr ydych yn ei drafod yma heno. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn nodi, mewn dull ffeithiol, sut yr ydym wedi cyrraedd y sefyllfa hon, ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau am fyfyrio ar hynny pan fyddan nhw’n pwyso a mesur gweithrediadau'r polisi hwn yn erbyn y dyraniad o adnoddau fydd ar gael iddo.