7. 6. Cynnig i Dderbyn y Penderfyniad Ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:13, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl cawl potsh yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol cyntaf, lle'r oeddem ni’n gweld ffigyrau a oedd yn gwbl anghywir mewn rhannau o’r papur hwnnw, mae’n syndod i mi fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cael siâp mor dda ar y peth. Ymddengys bod trafodaeth well wedi bod, ddywedwn ni, gyda rhanddeiliaid, a bod gennym ni nawr set o ffigurau cywir a chadarn iawn, ac yn sicr, mae'r papurau bach ugain punt yma a thraw wedi cael eu didol.

Rwy'n credu ei bod yn werth dweud, serch hynny, fod yna rai pryderon a godwyd gan rai rhanddeiliaid yn parhau o ran costau posibl datrys anghydfodau, er gwaethaf y ffaith fod gennym Asesiad Effaith Rheoleiddiol newydd. Ond, wrth gwrs, maen nhw’n seilio eu pryderon ar y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi iddyn nhw gan SNAP Cymru. Rwy'n credu ei bod yn werth i ni gyd ystyried nad yw’n angenrheidiol mai SNAP Cymru fydd yn cynnig gwasanaethau datrys anghydfod yn y dyfodol. Efallai y bydd ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hynny yn costio llai mewn gwirionedd i'r trethdalwr yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny—fod yna wasanaethau posibl i ddatrys anghydfodau y gellid eu cynnwys a'u comisiynu gan awdurdodau lleol a chan eraill. Er enghraifft, mae sefydliad gwych yn fy etholaeth i fy hun, o'r enw Createasmile, sy'n cynnig gwasanaethau eirioli yn rhad ac am ddim i bobl lle maen nhw'n trafod materion sy'n ymwneud ag awtistiaeth gydag awdurdodau lleol, ac nid oes unrhyw dâl o gwbl o bwrs y wlad am hynny. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Rwy'n credu bod gennym benderfyniad ariannol erbyn hyn y gallwn ni ei gefnogi ar y sail fod gennym ffigurau cadarnach, ond mae'n achos siom ei bod wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y cam hwn.