7. 6. Cynnig i Dderbyn y Penderfyniad Ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:17, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Pedwar pwynt cyflym iawn. Y pwynt cyntaf: mae hyn wedi profi bod manteision o gael y Pwyllgor Cyllid yn adolygu cost deddfwriaeth.

Yn ail: mae’r gost yn bwysig, a'r allwedd mewn gwirionedd yw gwahaniaethu rhwng costau arian parod a chostau ansylweddol. Rwy'n credu mai dyna ble’r aeth y Bil ar gyfeiliorn. Nid oedd y rhifau’n anghywir, ond ni fyddech mewn gwirionedd wedi gallu gwneud rhai o'r arbedion a oedd yn cael eu dangos yn y Bil gan nad oeddent yn gostau mewn arian parod. Mae'r gost yn hynod bwysig. A yw'r Bil hwn yn werth £20 miliwn? Rwy'n credu hynny yn bendant. A yw'n werth £200 miliwn? Rwy'n credu y byddai’n rhaid inni ddechrau dadl fawr. Pe byddai'n codi hyd at £2 biliwn, ni fyddai'n werth yr ymdrech nac yn fforddiadwy. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y costau'n gywir, oherwydd bydd yna orgyffwrdd rywbryd gyda’r costau pan ddaw’r Bil yn llai o werth na’r costau a ddaw yn ei sgil.

Yn drydydd: byddai o gymorth mawr pe byddai'r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i'r Llywodraeth gynhyrchu ystod o gostau ac arbedion posibl a'r rhagdybiaethau y tu ôl i’r rheini, yn hytrach na cheisio dod o hyd i ryw fan canol ymysg eu cyfrifiadau. Byddai hynny mewn gwirionedd yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r Pwyllgor Cyllid, wrth edrych arno, a byddai mewn gwirionedd yn deall nad gwyddor fanwl yw hon. Nid yw'r niferoedd hyn yn union gywir ac rwy'n eithaf sicr na fydd y canlyniad yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei gyflwyno i’r ddimai. Rwy'n siŵr nad yw'r Gweinidog yn disgwyl iddo fod, i'r ddimai, yr hyn y bydd yn ei gyflwyno. Bydd yn agos i’r rhif hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gennym rywfaint o ddealltwriaeth o hynny.

Y pedwerydd pwynt—ac mae angen inni feddwl am hyn bob amser ynglŷn â deddfwriaeth—yw’r galw cudd. Rydych chi'n cyflwyno deddfwriaeth, rydych chi'n taflu goleuni ar bwnc—a fydd hynny'n achos unrhyw alw cudd yn y system o ran pobl nad oedden nhw’n gwybod amdano neu nad oedden nhw’n rhan ohono, sydd bellach yn ei weld ac yna am gymryd yr hyn sydd ar gael?