Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 3 Hydref 2017.
Rydw i hefyd eisiau ategu'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud, a dweud y gwir, a chofnodi anfodlonrwydd ar y modd y mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yma wedi dod i fod. Yn sicr, rŷm ni’n derbyn nawr ei fod e wedi cyrraedd pwynt lle gallwn ni ei gefnogi fe, ond mae’r newidiadau yma a’r ffaith bod angen mynd yn ôl a gweithio eto ar y ffigurau wedi tarfu rhywfaint ar broses craffu'r pwyllgor o fethu gallu craffu'r asesiad effaith rheoleiddiol terfynol ochr yn ochr â’r Bil.
Mae e hefyd, wrth gwrs, wedi tanseilio hyder nifer yn y sector, ac efallai yn ehangach, yng ngallu’r lle yma i fod yn datblygu'r ddogfennaeth berthnasol o gwmpas y ddeddfwriaeth, fel sydd angen ei wneud mewn modd cyhyrog efallai, mewn modd addas, ac mae hynny yn resyn o beth hefyd. Mae’r gwahaniaethau sylweddol yn y costau gwreiddiol a’r costau terfynol yn tanlinellu, rydw i’n meddwl, y blerwch sydd wedi bod.
Jest i ddweud, i gloi, hefyd, mae’r ffaith ein bod ni fan hyn oriau yn unig cyn bod yn trafod gwelliannau yng Nghyfnod 2, ar y funud olaf i bob pwrpas—nid yw hynny chwaith yn adlewyrchu’n dda iawn ar Lywodraeth Cymru nac ychwaith ar y lle yma. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i’n meddwl bod yna wersi sydd angen eu dysgu, ac rydw i’n gobeithio’n wir y bydd y Llywodraeth yn eu dysgu nhw.