Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 3 Hydref 2017.
A gawn ni fod yn glir o’r cychwyn cyntaf? Mae cynigion y Llywodraeth Lafur yma yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae mynd yn ôl at un corff a disgwyl i hwnnw wneud dwy swyddogaeth cwbl wahanol yn gwanio ein hawliau ni. Mae rhoi’r grym yn nwylo’r Llywodraeth yn lle’r Cynulliad wrth benderfynu pwy sy’n dod o dan ddyletswydd iaith, pa bryd ac ati—mae hynny yn gwanio ein hawliau ni. Mae dileu’r rhestrau presennol sy’n sicrhau bod hawl gan y Cynulliad i osod dyletswyddau iaith ar rai cwmnïau preifat yn gwanio ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg. Mae dileu hawl y cyhoedd i gwyno yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg yn gwanhau ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg. Mae dweud mai dim ond cwynion difrifol fydd yn cael eu hymchwilio—ac nid oes diffiniad o beth ydy difrifol—mae hynny eto yn cyfyngu ar ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg, ac mae Plaid Cymru yn erbyn unrhyw wanhau, unrhyw gyfyngu ar ein hawliau ni.
Ym maes hyrwyddo a hybu, mae Plaid Cymru yn credu bod angen corff annibynnol i wneud y gwaith pwysig yma, gan adael y comisiynydd yn rhydd i ganolbwyntio ar y gwaith o osod safonau a rheoleiddio. Mi fyddai sefydlu comisiwn fyddai’n ceisio gwneud yr holl waith sydd ei angen yn gam sylweddol yn ôl, a dyna pam rydym ni wedi dadlau yn gyson dros gael asiantaeth hyd braich i hyrwyddo, hybu ac i gynllunio’n strategol dros y Gymraeg ar sail egwyddorion cynllunio ieithyddol cadarn.
Cryfhau ein hawliau ni sydd angen, a dyna ddod â ni at y sector preifat. Mae yna sawl esiampl o pam fod angen ymestyn y safonau i’r sector preifat. Mae’r rheini wedi amlygu eu hunain dros y misoedd diwethaf: saga Sports Direct, pan geisiwyd cyfyngu ar hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle; Santander a chwmni Banc Lloyds yn gwrthod derbyn papurau yn yr iaith Gymraeg, ac yn y blaen. Ac mi hoffwn i ddiolch i’r Gweinidog am ei ymateb chwyrn yn erbyn Sports Direct a’r banciau. Ond rwy’n nodi bod y Papur Gwyn yn dweud hyn:
‘Nid ydym yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru osod Safonau’n fuan ar gyrff nad ydynt yn dod o fewn system y Safonau ar hyn o bryd.’
Sef y rhan fwyaf o’r sector preifat. Ac, yn anffodus, mae hanes yn dangos nad ydy dibynnu ar berswadio cyrff i fabwysiadu hawliau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn gweithio. Mae angen deddfu, ac mae angen ymestyn y ddeddfwriaeth i’r sector preifat, ond nid yw hynny yn y Papur Gwyn. Rwyf yn nodi eich bod chi y prynhawn yma wedi dweud eich bod chi o blaid ein gwelliant ni—gwelliant 7—ac rwy’n croesawu clywed hynny heddiw.
Mae angen i chi weithredu. Dyna ydy’r prif fater o dan sylw—mae angen i chi weithredu. Mae angen symud ymlaen efo gosod y safonau ar y cyrff iechyd, ac rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi’n dweud, o’r diwedd, ar ôl bron i ddwy flynedd—neu dros ddwy flynedd, a dweud y gwir—y bydd y Llywodraeth yn symud ar hyn. Mae gan gleifion hawl i gael trafod eu problemau yn y Gymraeg. Mae’r adroddiad ar safonau’r cymdeithasau tai ar eich desg chi ers dwy flynedd, y cwmnïau dŵr ers bron i ddwy flynedd, bysiau a threnau a’r rheilffyrdd ers bron i flwyddyn. Mae yna lawer iawn o waith i’w wneud, a megis dechrau ydym ni. Rŵan ydy’r amser i weithredu. Ac efallai nad rŵan ydy’r amser i fod yn trafod Papur Gwyn fel hwn. Beth am symud ymlaen efo’r gwaith? Beth am ddechrau gweithredu?
Yn y cefndir, wrth gwrs, mae’ch strategaeth miliwn o siaradwyr chi. Oni ddylai’r Llywodraeth fod yn canolbwyntio ar y gwaith sydd angen ei gychwyn yn y fan honno, yn y strategaeth miliwn o siaradwyr, yn hytrach na chreu trafodaeth ddiangen am Ddeddf sydd angen amser i wreiddio, a safonau sydd angen eu gosod a’u gweithredu?