Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 3 Hydref 2017.
Rhaid inni ymrafael â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar sail un egwyddor bwysig—bod popeth nawr ym maes y Gymraeg yn ddarostyngedig i’r egwyddor o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Ac mae’r sialens y mae’r strategaeth newydd yn ei rhoi i bob un ohonom yn drawsnewidiol. Os ydym ni o ddifrif ein bod ni am weld uchelgais y strategaeth yn realiti, bydd yn rhaid i ni gydnabod bod y tirwedd ieithyddol yn newid yn llwyr. Ac, mewn cyfnod o gyni, bydd angen sicrhau bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario, gan unrhyw gorff, ar dwf yr iaith yn cael impact uniongyrchol ar lawr gwlad.
Mae’r ffocws ar y mwyaf hyd yn hyn wedi bod ar hawliau—hawliau drwy safonau. Mae’n amlwg bod lle i ddiwygio y broses o greu a gosod safonau; gwelsom dystiolaeth o bob tu bod y broses yn feichus i bawb. Y nod sydd rhaid yn y fan yma yw sicrhau bod y safonau yn gweithio, a bod ymdrech ac adnoddau yn cael eu ffocysu ar yrru i fyny safonau darpariaeth, nid ar negodi a gweinyddu.
A gaf i ddweud fy mod i yn bersonol yn cefnogi’r cysyniad o hawl gyffredinol? Mae gyda ni sawl cyfundrefn sy’n llwyddo i greu hawliau, ynghyd â phroses o gloriannu hawliau pan mae’n nhw’n gwrthdaro. A gyda dychymyg, rwy’n credu y gallai hynny weithio gyda hawl gyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg. Ond rwy’n barod i dderbyn y pwynt a wneir yn y Papur Gwyn bod cymhlethdodau a chyfyngiadau hefyd yn dod yn sgil hynny. Rwy’n sicr y dylem ni ymestyn safonau i gwmpasu archfarchnadoedd, banciau ac ati. Rwy’n croesawu ymroddiad y Gweinidog i wneud hynny o dan y gyfundrefn arfaethedig, a hoffwn glywed ganddo, felly, beth yw ei gynllun ynglŷn â hynny.
Y gwir amdani yw na allwn ni gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr gyda’r cydbwysedd presennol sydd rhwng hawliau a hybu. Nid yw cynnal ac ehangu’r gyfundrefn safonau bresennol ddim yn ddigonol. Mae grym hawliau i greu newid yn dibynnu ar ein parodrwydd i fynnu ein hawliau. Ac mae’r Papur Gwyn yn glir bod llawer mwy o siaradwyr y Gymraeg na sydd o bobl sy’n manteisio ar eu hawliau. Dim ond drwy hybu a hyrwyddo y mae creu yr hyder i fwy a mwy o siaradwyr fynnu eu hawliau. Mae angen hybu mewn cymdeithas yn gyffredinol. Mae’r strategaeth a’r Papur Gwyn yn manylu ar hynny. Ond mae angen hybu o fewn y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r safonau—newid diwylliant, nid jest rheoleiddio. Gall newid ffyrdd o weithio i greu diwylliant dwyieithog feithrin hygyrchedd mewn gwahanol ffyrdd a meithrin creadigrwydd mewn ffyrdd amrywiol o weithredu, ac mae angen creu gofod am sgwrs gynhwysol, ddychmygus am fanteision y Gymraeg yn y cyrff hynny.
Rwy’n croesawu, felly, y cynnig i ailddiffinio safonau a chreu ffocws newydd ar ddyletswyddau cynllunio iaith—dyletswydd a fydd yn golygu mwy na bwrw tic mewn blwch a chyfundrefn a fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda dyletswydd i ymchwilio, cynllunio a darparu. Dyma’r cyfle nawr i wir ddechrau trawsnewid y tirlun.
Un gair am strwythur, hynny yw y comisiwn newydd. Nid dyma’r elfen bwysicaf yn y Papur Gwyn yn fy marn i. Ond hefyd ni ddylem fod yn geidwadol yn ein hagwedd at ddiwygio strwythur os oes angen gwneud hynny i ateb galw newydd. Mae maint y sialens yn y strategaeth yn creu galw newydd. Y cynnig yw y dylai pwerau gorfodi a chydymffurfio’r comisiynydd barhau. Mae wedi bod yn gydnabyddedig ers degawd a mwy mai o fewn strwythur bwrdd ac nid trwy awdurdodi unigolyn y mae hynny’n fwy addas am amryw o resymau. Felly, mae’n briodol i esblygu’r corff sy’n rheoleiddio erbyn hyn.
Pum deg pum mlynedd yn ôl, yn Chwefror 1962, mewn cyfweliad radio, datganodd Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli, mai dyfodol y Gymraeg oedd her fwyaf Cymru—gosodiad cryn anarferol i Aelod Seneddol Llafur bryd hynny. Yr un mis, traddododd Saunders Lewis ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ a drawsnewidiodd ein hymwybyddiaeth fel cenedl o’r bygythiad i ddiwylliant Cymraeg. Gwnaeth ef ddarogan y byddai’r Gymraeg wedi marw erbyn dechrau’r ganrif hon. Wel, fel siaradwyr Cymraeg, rŷm ni yma o hyd, ond dim ond trwy weithio a gweithredu ac y mae mwy o’r ddau i’w wneud—