Part of the debate – Senedd Cymru am 6:47 pm ar 3 Hydref 2017.
Wel, rwy’n credu ei fod yn bosib i’r comisiwn fod yn ddigon annibynnol i allu darparu’r gwasanaeth hynny i bobl Cymru.
Rŷm ni nawr, rwy’n gobeithio, ar drothwy cyfnod o gynnydd yn y Gymraeg ac mae’n rhaid inni sicrhau bod yr offer a’r pwerau a’r adnoddau gyda ni, trwy Fil y Gymraeg, i wireddu hynny.