<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:25, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Gweinidog, bydd cyfnod 2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn dod i rym ym mis Ebrill, a chlywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth neithiwr fod angen i gomisiynwyr a darparwyr gynllunio ar gyfer hyn, ac fe fydd angen rhywfaint o gynllunio mewn gwirionedd. Clywsom hefyd, er y bu peth ymgysylltu â rhanddeiliaid, na rannwyd y cynlluniau i leihau presenoldeb nyrsys cymwysedig mewn cartrefi nyrsio gyda’r cyhoedd, sydd bellach, efallai, yn talu am drefniant gofal sy’n wahanol i’r hyn roeddent wedi’i ddisgwyl. A wnewch chi ymrwymo heddiw i gyhoeddi map, erbyn diwedd y mis hwn—rhyw fath o amserlen o’r camau y byddwch yn eu cymryd rhwng nawr a mis Ebrill—er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder i gomisiynwyr a darparwyr? Ac a fydd y map hwnnw’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â phryd y byddwch yn lansio ymgyrch wybodaeth i’r cyhoedd?