Mercher, 4 Hydref 2017
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol yng ngogledd Cymru? (OAQ51097)[W]
2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith y bydd cynyddu cyfranogiad rhieni yn ei chael ar lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion? (OAQ51127)
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddiad ar les disgyblion mewn addysg? (OAQ51106)[W]
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth? (OAQ51118)[W]
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni targed Llywodraeth Cymru o un filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg? (OAQ51112)
7. Pa drefniadau sydd ar waith i sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael i ddisgyblion sy’n wynebu neu’n profi digartrefedd? (OAQ51093)
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau beichiau diangen ar athrawon? (OAQ51109)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl â phroblemau sy’n effeithio ar y bledren a’r coluddyn yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? (OAQ51099)
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel awdurdod iechyd arbennig? (OAQ51095)
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i adolygu strwythurau llywodraethu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru? (OAQ51096)
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pa wasanaethau sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer mamau sy’n dioddef anafiadau i sffincter yr anws wrth roi genedigaeth? (OAQ51126)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg gynorthwyol ddatblygol mewn gofal cymdeithasol? (OAQ51105)
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r risg o niwed i blant a phobl ifanc drwy chwarae chwaraeon cyswllt fel rygbi? (OAQ51113)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r cyhoeddiad y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020? (TAQ0049)
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef y datganiadau 90 eiliad. A daw’r datganiad 90 eiliad cyntaf heddiw gan Elin Jones.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5 ar yr agenda, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyflwyno Bil a gynigir gan bwyllgor—Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar...
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar newid yn yr hinsawdd, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig. Simon.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7 ar ein hagenda, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Gwireddu’r Uchelgais—Ymchwiliad i Strategaeth Iaith...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch. Felly, pleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar weithlu’r gwasanaeth iechyd: galwaf am...
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw’r ddadl fer. Mi fyddaf i’n galw ar y ddadl fer i gychwyn unwaith y bydd rhai Aelodau wedi gadael y Siambr. Lee Waters.
Beth yw blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer yr ymgeiswyr TGAU ym mlwyddyn 10 a blwyddyn 11?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia