<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:39, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mis Hydref yw mis ymwybyddiaeth o ganser y fron ac i nodi’r achlysur, mae Breast Cancer Now wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n edrych ar lwybr cleifion canser y fron, ac yn gwneud argymhellion i wella canlyniadau i gleifion. Rydym bellach yn gwneud cynnydd o ran gwella cyfraddau goroesi canser y fron. Mae cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn a phum mlynedd wedi cynyddu 1.7 y cant dros y degawd diwethaf. Mae lefelau canfod canser y fron yn gwella, ond nid ydym bob amser yn trin y canser yn ddigon cynnar. Ni chyrhaeddwyd targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth canser y llwybr brys a heb fod yn frys yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae Breast Cancer Now yn galw arnoch i fonitro perfformiad yn erbyn amseroedd aros yn agos ac i roi camau unioni ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn yr argymhelliad hwn ac amlinellu’r camau rydych yn eu cymryd i gyrraedd targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth?