5. 5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyflwyno Bil a gynigir gan Bwyllgor — Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:24, 4 Hydref 2017

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i ddweud, ar ddydd Llun, 2 Hydref, gosodais Fil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn ffurfiol gerbron y Cynulliad. Dyma’r tro cyntaf i bwyllgor gyflwyno Bil ers i’r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol llawn. Mae’r Bil wedi bod yn destun gwaith helaeth dros nifer o flynyddoedd a hoffwn gofnodi fy niolch i Bwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad, dan gadeiryddiaeth Jocelyn Davies, am ei ymrwymiad i ddatblygu’r Bil.

Ar hyn o bryd, mae’r ombwdsmon yn ymgymryd â’i rôl o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae’r Bil hwn yn ailddatgan y Ddeddf honno, gan amlinellu hefyd nifer o bwerau newydd i greu un darn o ddeddfwriaeth ddwyieithog a fydd yn rhan o lyfr statud Cymru. Mae Deddf 2005 wedi hwyluso mynediad y cyhoedd at wasanaethau’r ombwdsmon. Mae wedi arwain at ddatrys anghydfodau ac wedi bod yn ffordd i unigolion gael iawn am gamwedd. Drwy ganolbwyntio ar ymdrin â chwynion yn y sector cyhoeddus, mae Deddf 2005 hefyd wedi ysgogi gwelliant o ran y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Fodd bynnag, ers cyflwyno Deddf 2005, mae’r arfer gorau a’r safonau rhyngwladol ar gyfer ombwdsmyn wedi symud ymlaen. Mae’r datblygiadau hyn yn cynnwys cryfhau pwerau ombwdsmyn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn y pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus i lywio ei ymchwiliad i’r cynigion i ymestyn pwerau’r ombwdsmon. Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, lluniwyd Bil gan y pwyllgor. Ymgynghorodd y pwyllgor hwnnw ar y Bil drafft ddechrau mis Hydref 2015. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion yn gefnogol o ddarpariaethau’r Bil drafft. Gan nad oedd digon o amser yn y pedwerydd Cynulliad i gyflwyno Bil, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylid cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosib yn y pumed Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn y pumed Cynulliad wedi ystyried y Bil drafft, gan ofyn am dystiolaeth gan yr ombwdsmon, yn ogystal â rhoi ystyriaeth bellach i’r amcangyfrifon o gostau a manteision darpariaethau’r Bil. Cytunodd y Pwyllgor Cyllid, felly, i gyflwyno’r Bil i gryfhau rôl yr ombwdsmon, gan baratoi’r ddeddfwriaeth ar gyfer unrhyw beth a ddaw yn y dyfodol a gan sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar y dinesydd.

Gwnaf sôn nawr ychydig am y darpariaethau newydd yn y Bil hwn. Bydd y Bil yn caniatáu i’r ombwdsmon dderbyn cwynion llafar, gan wella cyfiawnder cymdeithasol, felly, a chyfle cyfartal, ac yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru deg a chyfiawn. Rydym yn credu y bydd yn hwyluso a gwella’r broses o wneud cwynion gan yr aelodau mwyaf bregus ac amddifadus o gymdeithas, fel pobl ag anawsterau dysgu, pobl ddigartref a’r henoed. Drwy gael gwared ar y gofyniad i wneud cwyn yn ysgrifenedig yn unig, bydd y Bil hefyd yn sicrhau mynediad at wasanaethau’r ombwdsmon yn y dyfodol, gan ganiatáu i’w swyddfa ddatblygu canllawiau i ymateb i ddatblygiadau’r dyfodol, megis datblygiadau ym maes technoleg—’apps’, ‘smartphones’ ac ati.

Bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i’r ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Bydd angen bodloni meini prawf sydd wedi’u pennu ar wyneb y Bil cyn dechrau ymchwiliad o’r fath, ond bydd y pŵer i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hunan yn ffordd o ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed a rhoi sylwi i urddas unigolion. Mae manteision ehangach i hyn hefyd. Bydd yn galluogi’r ombwdsmon i ymateb yn well i ddinasyddion gan ei fod yn caniatáu iddo fe ymchwilio i faterion a ddaw i law yn ddienw, gan gryfhau llais y dinesydd.

Mae’r Bil yn caniatáu i’r ombwdsmon ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â’r elfen gwasanaethau iechyd preifat, gan gynnwys triniaeth feddygol a gofal nyrsio, a ddaw mewn cwyn mewn llwybr cyhoeddus/preifat gyda’i gilydd. Bydd hyn yn galluogi’r ombwdsmon i ymchwilio i’r gŵyn gyfan, sy’n golygu y gall ymchwiliadau ddilyn y dinesydd yn hytrach na dilyn y sector. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf 2005, mae gan yr ombwdsmon yr awdurdod i ymchwilio lle mae’r gwasanaeth iechyd gwladol wedi comisiynu triniaeth feddygol yn breifat i gleifion, ond nid lle mae cleifion eu hunain yn comisiynu triniaeth o’r fath. Os yw cleifion yn comisiynu triniaeth breifat, ar hyn o bryd mae’n rhaid iddyn nhw wneud cwynion ar wahân ar gyfer yr elfennau cyhoeddus a phreifat i’r ombwdsmon a’r darparwr sector preifat. Nid yw hyn yn foddhaol i ddinasyddion Cymru.

Er enghraifft, wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid yn egluro’r problemau hyn, soniodd yr ombwdsmon am gŵyn ddiweddar. Roedd aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu â’i swyddfa ynghylch y driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr a gafodd driniaeth drwy’r gwasanaeth iechyd gwladol, yna triniaeth breifat, cyn dychwelyd i’r gwasanaeth iechyd eto. Dywedodd yr ombwdsmon y bu’n rhaid i’r unigolyn aros pum mlynedd a hanner i gael ymateb, sy’n amlwg yn annerbyniol.

Bydd darpariaethau’r Bil hefyd yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac o ran ymdrin â chwynion. Mae model o bolisi cwynion ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd i helpu i sicrhau cysondeb ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae tystiolaeth yn dangos, er bod y sefyllfa’n gwella, nad yw’r sector cyhoeddus yn ei fabwysiadu mewn ffordd gyson. Rydym yn gobeithio y bydd y Bil yn mynd i’r afael â hyn. Mae darpariaethau’r Bil ar gyfer ymdrin â chwynion a gweithdrefnau yn cynnig dull tebyg i Gymru i’r hyn sydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd data rheolaidd, dibynadwy a chymaradwy ar gael ynglŷn â chwynion ar draws y sector cyhoeddus. Bydd hyn, gobeithio, yn ysgogi atebolrwydd a gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn arwain at dryloywder o ran adrodd ac yn grymuso’r broses graffu, lle mae data a gwybodaeth yn hanfodol.

Fel pwyllgor, rydym yn credu ei bod hi’n bwysicach nag erioed fod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru a bod yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn cael y grym priodol i sicrhau bod ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae angen i’r cyhoedd fod â hyder yn yr ombwdsmon a swyddogaeth yr ombwdsmon i ymchwilio os ydynt yn credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi neu rhyw gamwedd drwy gamweinyddiaeth, neu yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn mynd dipyn o’r ffordd i gyflawni hyn. Dyma pam, ym marn y Pwyllgor Cyllid, fod angen Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), ac felly, ar ran y pwyllgor, rwy’n cymeradwyo’r Bil i’r Cynulliad.