Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 4 Hydref 2017.
Diolch yn fawr. A gaf ddweud i ddechrau gair o ddiolch i Simon Thomas ac aelodau eraill y Pwyllgor Cyllid am y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn barod i baratoi’r Bil ar hyn o bryd, ac i gyflwyno’r Bil heddiw? Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi rôl yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n darparu gwasanaeth pwysig wrth fod yn gyfrwng i helpu dinasyddion sydd heb dderbyn y lefel o wasanaeth gan y sector cyhoeddus y mae ganddyn nhw yr hawl i’w ddisgwyl. Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych mewn modd cadarnhaol ar fesurau a fydd yn helpu’r ombwdsmon i gyflawni ei rôl e.
Felly, er enghraifft, byddem yn croesawu’r cynnig y dylai fod yn gallu derbyn cwynion ar lafar. Gall hyn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys y rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgorau fydd â’r cyfrifoldeb i graffu ar y Bil hefyd am ystyried sut y bydd y bobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu cefnogi i ddehongli’r ddeddfwriaeth arfaethedig.
Ar y llaw arall, Dirprwy Lywydd, mewn perthynas â rhai agweddau eraill ar y Bil, mae gan Lywodraeth Cymru bryderon y gallai ehangu rôl yr ombwdsmon arwain at bobl yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gor-reoleiddio yng Nghymru, ac y gallai arwain at orgyffwrdd neu ddryswch yn rolau gwahanol reoleiddwyr. Edrychwn ymlaen at gynnal rhagor o drafodaethau ar y materion hyn a rhai pethau eraill yn y Bil yn ystod y broses graffu.
Rydych chi siŵr o fod yn disgwyl i mi ddweud hyn, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond dylwn hefyd ychwanegu fod gennym bryderon am y gost gynyddol a fyddai’n cael ei hysgwyddo yn sgil y ddeddfwriaeth hon, ar adeg pan fo’n rhaid i weddill y gwasanaethau cyhoeddus ddal yn ôl. Mae pob punt ychwanegol a chaiff ei gwario yma, neu arbedion na chaiff eu gwneud, yn bunt na ellir ei throsglwyddo i wasanaethau rheng flaen.
Bydd hefyd angen edrych yn bellach ar yr agwedd hon yn ystod y broses graffu, ond credaf fod angen i ni fod yn hollol sicr y byddai Cymru yn cael buddion sylweddol am y costau ychwanegol a ysgwyddir. Yn y cyfamser, wrth i’r Bil cael ei gyflwyno’n ffurfiol, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at gymryd rhan adeiladol ac agos yn y broses graffu sydd ar y gweill. Diolch yn fawr.