Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 4 Hydref 2017.
Rydych chi’n sôn am adeiladu consensws o gwmpas yr iaith, ond, yn anffodus, yn dilyn y drafodaeth a gawsom ni ddoe ar Fil y Gymraeg, mae’n ymddangos bod y consensws yna’n dechrau cael ei danseilio. Mae siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o’r wlad, mudiadau iaith, ac arbenigwyr cynllunio iaith, i gyd yn cytuno y bydd Bil y Gymraeg yn gam yn ôl ac yn gwanhau yn hytrach na chryfhau’r ymdrechion sydd gennych chi o dan sylw o ran eich strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwr erbyn 2050.