Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 4 Hydref 2017.
Byddwn yn edrych ar y cylch gwaith cyfan i ddeall lle y cawn y gwerth mwyaf er mwyn hyfforddi’r nifer fwyaf o bobl. Ac wrth gwrs, rydym am wneud yn siŵr y bydd y buddsoddiad hwnnw’n arwain at fwy o bobl yn aros yng Nghymru i wasanaethu yma, gan mai dyna’r pwynt a’r diben. Rydym yn buddsoddi mwy o arian i geisio cael mwy o feddygon i aros yng Nghymru hefyd. Ac fel rhan o’r fargen, y quid pro quo, gyda’r sector prifysgolion—ceir heriau o ran yr hyn y gallwn ac na allwn eu mandadu i’w wneud—bydd rhaid cael rhyw ddealltwriaeth am y genhadaeth sydd gennyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran cymryd adnoddau gwerthfawr ar adeg pan fo’r gyllideb yn lleihau i’w rhoi i’r maes hwn.
Nawr, yn ogystal â ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ ar gyfer meddygon, rydym hefyd wedi lansio ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ ar gyfer nyrsys. Roeddwn yn falch iawn o lansio’r ymgyrch hon yn y gwanwyn eleni, a chafodd dderbyniad da iawn yn y lansiad ac yng nghynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl. Roedd nyrsys Lloegr yn falch iawn o weld Llywodraeth a oedd ar eu hochr go iawn ac yn ceisio recriwtio nyrsys i fod yn falch o bwy ydynt hefyd. Mae’r ymgyrch honno, unwaith eto, yn llwyddo, ond gwyddom nad recriwtio ar ei ben ei hun yw’r ateb. Wrth gwrs, rydym yn gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yng Nghymru—y gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig, y gyntaf o’i bath yn Ewrop. Rydym hefyd yn hyfforddi mwy o nyrsys yma yng Nghymru. Ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom fuddsoddi mewn hyfforddiant i nyrsys er mwyn cynyddu’r niferoedd 22 y cant. Y llynedd, gwnaethom gynyddu nifer y nyrsys sy’n hyfforddi 10 y cant; eleni, cynnydd o 13 y cant. Rydym yn mynd ati i geisio hyfforddi mwy o nyrsys yma yng Nghymru. Dyma’r buddsoddiad mwyaf mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer nyrsys ers datganoli. Yn ogystal, gwnaethom gynyddu hyfforddiant i fydwragedd 40 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Ac fel y cawsom ein hatgoffa gan Rhianon Passmore, rydym wedi cynnal y fwrsariaeth i fyfyrwyr yma yng Nghymru, sy’n llwybr cwbl groes i’r un a gymerwyd gan y Torïaid yn Lloegr. Mae hynny’n bwysig, nid yn unig i nyrsys, ond hefyd i weithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd mewn hyfforddiant. Ond wrth gwrs, mae ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac mae’r pecyn £95 miliwn a gyhoeddais yn gynharach eleni wedi arwain at 3,000 o fyfyrwyr newydd yn ymuno â’r rheini sydd eisoes yn astudio rhaglenni addysg gofal iechyd ar draws Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ymestyn yr ymgyrch ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw’ i gynnwys fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Yn benodol ar radiolegwyr, a gafodd eu crybwyll fwy nag unwaith, nid yn y ddadl heddiw’n unig, ond yn y Siambr, rydym yn disgwyl y bydd y buddsoddiad o £3.4 miliwn a gyhoeddais mewn academi ddelweddu ym Mhencoed yn gwneud gwahaniaeth go iawn i recriwtio a chadw radiolegwyr yma yng Nghymru. Unwaith eto, mae’n arwydd ein bod yn buddsoddi yn hyn ac yn gwerthfawrogi holl rannau amrywiol a gwahanol ein gweithlu. Oherwydd fe wyddom fod angen inni gynyddu cymysgedd sgiliau’r staff sydd gennym eisoes a’r ystod o wahanol o staff sydd gennym yn y gwasanaeth, gan y byddant yn gweithio’n gynyddol mewn timau amlddisgyblaethol. Felly, roedd y pecyn £95 miliwn y cyfeiriais ato yn cynnwys £0.5 miliwn ychwanegol i gefnogi gofal iechyd lleol, i ddatblygu ymarfer uwch, addysg, a sgiliau estynedig yn ein clystyrau gofal sylfaenol. Felly, byddwn hefyd yn cefnogi rolau newydd a rhai sy’n datblygu, gan gynnwys y cynlluniau peilot ar gyfer rhaglenni cymdeithion meddygol yn Abertawe a Bangor, a rolau gofal cymdeithasol gyda ffocws penodol ar y rhai sy’n lleddfu pwysau presennol ac yn cyfrannu at integreiddio a chanlyniadau gwell i unigolion.
O ran cynllunio’r gweithlu, mae rheoleiddio yn chwarae rôl allweddol hefyd, felly rwy’n falch fod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar leisiau yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU ar gyfer rheoleiddio cymdeithion meddygol. Mae’n gam da a chadarnhaol ymlaen i ganiatáu i ni gynllunio ar gyfer eu rôl yn y gweithlu yn y dyfodol. Fodd bynnag, rwy’n amheus iawn ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i reoleiddio cymdeithion nyrsio. Ymddengys i mi mai amnewid rolau ar sail costau yw hynny yn hytrach na’r dull darbodus o weithredu ar sail ansawdd y dymunwn ei fabwysiadu yma yng Nghymru.
Yn ogystal, byddwn yn parhau i ddatblygu’r gweithlu cymorth gofal iechyd, sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr a chynyddol amrywiol i’r modd y darparir gwasanaeth yn y gwasanaethau clinigol ac anghlinigol. Unwaith eto, dyna rywbeth y cawsom gytundeb yn ei gylch mewn partneriaeth â chynrychiolwyr yr undebau llafur a staff y gwasanaethau iechyd o ran sut i ddatblygu’r rôl honno i’w defnyddio i’w photensial llawn.
Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yng ngweithlu’r GIG o un flwyddyn i’r llall. Mae’n werth gwneud y pwynt hwn, gan gadw mewn cof y sylwadau a wnaed yn y ddadl. O 2015-16, y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau cyflawn ar ei chyfer, cynyddodd gweithlu cyfwerth ag amser llawn y GIG 3.2 y cant, a hynny yn wyneb blwyddyn ar ôl blwyddyn o bolisïau cyni Torïaidd. Mae hynny’n ffaith. Rydym yn dod i’r lle hwn, ac rydym yn trafod y dewisiadau anodd sy’n rhaid inni eu gwneud a’r hyn y mae’n ei olygu i barhau i roi mwy o arian tuag at y gwasanaeth iechyd gwladol—beth y mae hynny’n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus eraill sy’n colli staff a phenderfynu beth na allant ei wneud mwyach. Yn y cyd-destun hwnnw, mae parhau i roi mwy o arian i’r GIG, parhau i weld nifer y staff yn cynyddu, yn gyflawniad gwirioneddol a sylweddol y dylai pawb ohonom ei nodi, ac nid yw’n dod yn hawdd. Dyna gyd-destun y ddadl hon rydym yn ei chael ynglŷn â’r galwadau am fwy o staff mewn mwy o arbenigeddau. Nid yw’n golygu nad ydym yn bwriadu cynyddu staff lle y mae angen i ni eu cael, ond gadewch inni beidio ag esgus ei fod yn beth hawdd i’w wneud.
Felly, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu cynllun gweithlu 10 mlynedd, ac mae egwyddor hynny eisoes wedi cael ei datblygu. Ond ni allwn ac ni ddylwn osgoi’r ffaith bod pob plaid yn y Siambr wedi cytuno i adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Ni fyddai’n gwneud synnwyr i gyhoeddi cynllun gweithlu manwl cyn cyhoeddi adroddiad terfynol yr adolygiad. Bydd yr adolygiad, heb os, yn effeithio ar ein ffordd o feddwl a’r modd y cynlluniwn y gwasanaethau ar gyfer y dyfodol a’r gweithlu i ddarparu’r gwasanaethau hynny i’r cyhoedd, ac mae hynny’n briodol. Nid yw hynny’n golygu bod y GIG yma yng Nghymru yn sefyll yn llonydd. Mae cynllunio’r gweithlu yn cael ei wneud ar bob lefel yn ein sefydliad, gan weithio ar y cyd â phartneriaid i sicrhau bod y gweithlu’n iawn, yn meddu ar y sgiliau iawn, yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n rhan hanfodol o’r broses gynllunio tymor canolig integredig.
Felly, rydym yn parhau i fwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu strategol ar gyfer gweithlu’r GIG. Mae hynny’n cynnwys sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, a bydd hwnnw, wrth gwrs, yn cynnal ei ddull annibynnol o weithredu. Nawr, yn hollbwysig, bydd disgwyl i Addysg a Gwella Iechyd Cymru weithio gyda chyrff eraill, fel Gofal Cymdeithasol Cymru, er mwyn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion y gweithlu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Gallaf weld nad oes gennyf lawer o amser, Llywydd, felly fe orffennaf yn awr. Fe’i gwnaf yn glir y byddwn yn cefnogi gwelliant 2, ond wrth nodi ein cyfeiriad ar gyfer y dyfodol, rwy’n ailddatgan ein bod yn gwerthfawrogi dyfeisgarwch ac ymroddiad ein gweithlu GIG i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Rydym yn cydnabod bod yna heriau o ran recriwtio. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid, gyda’r gwasanaeth, i fynd i’r afael â’r heriau hynny a sicrhau ein bod yn cael y gwasanaeth y byddai pawb yma ei eisiau a’r gwasanaeth y mae’r cyhoedd a phobl Cymru yn eu haeddu.