Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 10 Hydref 2017.
Fe gafwyd cadarnhad gennych chi fan hyn yr wythnos diwethaf na fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu taclo tlodi. Mae hyn yn siom enfawr ac yn fater o bryder i Blaid Cymru, ac i’r pwyllgor Cynulliad trawsbleidiol sydd wedi bod yn ymchwilio i’r maes. Rwy’n deall eich bod chi’n awyddus i weithio’n holistaidd, a gweithredu ar draws adrannau, ond, heb strategaeth ganolog, benodol i’w dilyn, mi fydd gwaith adrannau gwahanol y Llywodraeth, gan gynnwys mesur cynnydd drwy gerrig milltir a thargedau, yn amhosib i’w gyflawni. A gaf i ofyn i chi ailystyried eich penderfyniad, a gofyn i chi fwrw ymlaen i greu cynllun gweithredu clir, a hynny ar fyrder?