1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi? (OAQ51171)[W]
Ein hamcan ni yw helpu a chefnogi pob un i fyw bywydau iach, ffyniannus a gwerth chweil. Mae ein strategaeth genedlaethol, ‘Ffyniant i Bawb’, yn egluro sut fyddwn ni’n adeiladu Cymru sy’n ffyniannus a diogel, sy’n iach ac egnïol, sy’n uchelgeisiol ac sy’n dysgu ac sy’n unedig a chysylltiedig.
Fe gafwyd cadarnhad gennych chi fan hyn yr wythnos diwethaf na fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu taclo tlodi. Mae hyn yn siom enfawr ac yn fater o bryder i Blaid Cymru, ac i’r pwyllgor Cynulliad trawsbleidiol sydd wedi bod yn ymchwilio i’r maes. Rwy’n deall eich bod chi’n awyddus i weithio’n holistaidd, a gweithredu ar draws adrannau, ond, heb strategaeth ganolog, benodol i’w dilyn, mi fydd gwaith adrannau gwahanol y Llywodraeth, gan gynnwys mesur cynnydd drwy gerrig milltir a thargedau, yn amhosib i’w gyflawni. A gaf i ofyn i chi ailystyried eich penderfyniad, a gofyn i chi fwrw ymlaen i greu cynllun gweithredu clir, a hynny ar fyrder?
Byddwn i’n dadlau, wrth gwrs, fod y strategaeth yn gwneud hyn yn barod. Mae’n dangos fframwaith lle mae’r Llywodraeth yn gallu gweithio gyda’i gilydd er mwyn cynyddu ffyniant yn y pen draw, i ystyried achosion tlodi mewn ffordd sydd yn fwy effeithiol, a ffordd sydd yn fwy cysylltiedig. Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n eiddo i unrhyw Weinidog, nac unrhyw adran, ond yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn berchen yn gyfan gwbl.
Prif Weinidog, gwelaf o adroddiadau heddiw fod eich Llywodraeth wedi gwrthod cyhoeddi setiau llawn o ddata i gynorthwyo archwiliad gwahaniaethau hil Prif Weinidog y DU. Ac mae ei ganfyddiadau’n wrthgyferbyniol iawn i'r DU a Chymru. Roeddwn i’n meddwl tybed, fodd bynnag, a yw eich amharodrwydd i gyhoeddi’r data oherwydd nad ydyn nhw gennych, neu a yw’n syml oherwydd na fyddwch chi’n eu cael? A'r rheswm pam mae hyn mor bwysig yw y byddai'r data hynny’n ein helpu i nodi ardaloedd o dlodi mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, lle gallem ni gymryd rhywfaint o gamau a gwneud rhai gwahaniaethau i fywydau'r bobl hynny.
O diar, mae hynny'n gwbl anwir, oherwydd mae’r Alban wedi gwrthod cydweithredu; nid ydym ni. Rhoddaf gronoleg i'r Aelod o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn y cyfamser. Ar 26 Hydref y llynedd, fe wnaethom gytuno i gyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y gwaith. Ar 8 Rhagfyr y llynedd, trefnodd ein tîm cydraddoldeb i swyddogion o'r uned archwilio gwahaniaethau hil ddod i fforwm hil Cymru. Ar 21 Rhagfyr y llynedd, cyfarwyddwyd RDAU gennym i gyhoeddi data. Ar 28 Chwefror eleni, cafwyd cyfarfod rhwng ein swyddogion ni a RDAU yng Nghaerdydd. Ar 11 Mai, cafwyd cyfarfod arall gyda RDAU. Roeddem yn bryderus ar yr adeg honno oherwydd diffyg cynnydd amlwg ar eu gwefan. Fe wnaethant ofyn i ni ar yr adeg honno, am y tro cyntaf, wneud gwaith i ddadansoddi data Cymru. Roeddem yn meddwl bryd hynny mai nhw fyddai’n gwneud y gwaith hwnnw. Cydnabuwyd ganddynt pa mor hwyr oedd y cais hwnnw. Fe’i gwnaed yn eglur gennym nad oedd yr adnoddau gennym i gefnogi'r gwaith hwnnw ar y pryd, gan fynegi pryder ynghylch y cais i ni gyflawni ymarfer mor fawr cyn y dyddiad lansio ym mis Gorffennaf. Ar yr adeg honno, fe’n hysbyswyd bod Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu peidio â chymryd rhan yn y prosiect.
Ar 26 Mai, ymatebodd RDAU i lythyr oddi wrthym ni gyda rhestr ragarweiniol o ddata a fyddai ar y wefan. Ar 2 Mehefin, unwaith eto, fe wnaethom gytuno i barhau i weithio gyda'r uned, trwy roi cyngor ar ffynonellau data Cymru, a darparu setiau data i'r RDAU eu dadansoddi. Ar 4 Hydref, cynhaliwyd trydydd cyfarfod rhwng swyddogion a RDAU. Rhoddwyd cipolwg i ni ar gynnwys y wefan, ond ni chawsom gopi o'r adroddiad 45 tudalen ganddynt. Rwy'n credu ein bod ni wedi ymgysylltu'n briodol, ac efallai ei fod yn dangos y traed moch wrth wraidd Llywodraeth y DU nad ydynt yn gwybod y gwahaniaeth rhwng Cymru a'r Alban.
Un o'r pethau sy’n sicr wedi ei gynllunio i danseilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yw cyflwyno credyd cynhwysol, a gyflwynwyd ledled Cymru. Rydym ni wedi gweld mewn rhannau lle mae wedi cael ei gyflwyno ei fod wedi arwain at gynnydd i ôl-ddyledion rhent a nifer y bobl sy'n mynd i fanciau bwyd. Nawr, mae gan Lywodraeth yr Alban gyfrifoldeb am weinyddu lles, sydd wedi ei galluogi i leihau'r amser y mae'n rhaid i ymgeiswyr aros, i bythefnos, sydd yr un fath â lwfans ceisio gwaith, a hefyd, i sicrhau bod landlordiaid yn gallu parhau i dderbyn y taliadau rhent yn uniongyrchol. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed pa sgyrsiau yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ein galluogi i liniaru effeithiau gwaethaf y cynnig newydd ofnadwy hwn.
Wel, gwyddom o brofiad, pan ein bod ni’n cymryd rheolaeth dros agweddau ar y system fudd-daliadau, ein bod ni’n cael i sefyllfa lle nad yw'r setliad cyllideb byth yn ddigon. Gwelsom hynny gyda budd-dal y dreth gyngor—cymerwyd £20 miliwn o honno wrth i'r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo. Felly, nid oes gennyf unrhyw ffydd o gwbl y byddai Llywodraeth y DU, pe bydden nhw’n trosglwyddo cyfrifoldeb am gredyd cynhwysol, yn trosglwyddo'r gyllideb i dalu amdano a dyna'r broblem. Yn fy marn i, yr hyn sydd ei angen yw system fudd-daliadau briodol ar draws y DU gyfan wedi ei gweinyddu gan Lywodraeth Lafur yn Llundain sy'n gofalu am fuddiannau'r llawer, nid yr ychydig.