Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 10 Hydref 2017.
Prif Weinidog, gwelaf o adroddiadau heddiw fod eich Llywodraeth wedi gwrthod cyhoeddi setiau llawn o ddata i gynorthwyo archwiliad gwahaniaethau hil Prif Weinidog y DU. Ac mae ei ganfyddiadau’n wrthgyferbyniol iawn i'r DU a Chymru. Roeddwn i’n meddwl tybed, fodd bynnag, a yw eich amharodrwydd i gyhoeddi’r data oherwydd nad ydyn nhw gennych, neu a yw’n syml oherwydd na fyddwch chi’n eu cael? A'r rheswm pam mae hyn mor bwysig yw y byddai'r data hynny’n ein helpu i nodi ardaloedd o dlodi mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, lle gallem ni gymryd rhywfaint o gamau a gwneud rhai gwahaniaethau i fywydau'r bobl hynny.