Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Hydref 2017.
Mae'r rhain yn faterion y byddwn yn parhau i’w hystyried. Nid yw’n fater a godwyd gyda mi yn bersonol—bod y cosbau yn rhy isel—ond yn amlwg nid ydym ni eisiau gweld—. Mae'r ffaith bod mwy o erlyniadau yn beth da, gan fod hynny'n golygu, mewn gwirionedd, bod mwy o bobl yn cael eu dal. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod mwy o droseddau, ond mae mwy o bobl yn cael eu dal. Serch hynny, rydym ni eisiau sicrhau bod y cosbau'n briodol i'r troseddau, a byddwn yn parhau i adolygu pa un a yw'r cosbau hynny'n briodol nawr.