1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 10 Hydref 2017.
Arweinydd yr wrthblaid i ofyn cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau—Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y llynedd, dywedodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid eu bod wedi gweld cynnydd o bron i 10 y cant i’r achosion o greulondeb at anifeiliaid y bu'n rhaid iddynt ymchwilio iddynt. Mae'r ddeddfwriaeth a'r gallu i reoleiddio yn y maes hwn wedi’u neilltuo’n bendant i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn y cynnydd o 10 y cant i gwynion, cafwyd cynnydd o 35 y cant i erlyniadau yma yng Nghymru, pryd yr aethpwyd â phobl i'r llysoedd ac y cyflawnwyd erlyniadau llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw'r ddeddfwriaeth, a'r cosbau yn bodloni—neu nid ydynt yn addas i’r diben—y troseddau y mae llawer o bobl yn eu cyflawni pan fydd y cwynion yn cael eu hymchwilio. A wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i ddiwygio'r cosbau sydd ar gael i'r llysoedd yma yng Nghymru fel eu bod yn cyd-fynd â'r troseddau sy'n cael eu hadrodd iddynt?
Mae'r rhain yn faterion y byddwn yn parhau i’w hystyried. Nid yw’n fater a godwyd gyda mi yn bersonol—bod y cosbau yn rhy isel—ond yn amlwg nid ydym ni eisiau gweld—. Mae'r ffaith bod mwy o erlyniadau yn beth da, gan fod hynny'n golygu, mewn gwirionedd, bod mwy o bobl yn cael eu dal. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod mwy o droseddau, ond mae mwy o bobl yn cael eu dal. Serch hynny, rydym ni eisiau sicrhau bod y cosbau'n briodol i'r troseddau, a byddwn yn parhau i adolygu pa un a yw'r cosbau hynny'n briodol nawr.
Mae'n ffaith mai un achos a amlygwyd gan yr RSPCA oedd sut y gwnaeth gŵr fwydo cocên i’w gi ac yna torri'r clustiau oddi ar yr anifail penodol hwnnw, a chafodd ddedfryd o 24 wythnos. Ni all hynny fod yn iawn, Prif Weinidog. Dyna'r mwyaf y gellid fod wedi ei roi i'r unigolyn penodol hwnnw. Mae cynlluniau ar y gweill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i gynyddu'r pwerau sydd ar gael yn sylweddol, a'r cosbau sydd ar gael, pan ddaw achosion creulondeb anifeiliaid gerbron llysoedd—hyd at bum mlynedd a dirwyon anghyfyngedig. Gofynnaf i chi eto: a wnewch chi fwrw ymlaen â'r cynigion sy'n cael eu hystyried mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig os gwelwch yn dda, fel bod y gosb, pan fydd troseddau erchyll o'r fath yn cael eu hadrodd, ar gael i'r llysoedd, ac, yn y pen draw, y gellir dod â phwysau llawn y gosb honno yn erbyn y rhai sy'n cyflawni gweithredoedd mor ddifrifol?
Rwy’n fodlon ystyried hynny, oherwydd mae'r achos y mae'n sôn amdano yn annymunol iawn ac yn peri gofid, wrth gwrs. Byddaf yn ysgrifennu ato ymhellach ynghylch hynny. Nid yw hyn yn ymwneud â’r cosbau yn unig; mae’n ymwneud â’r canllawiau dedfrydu hefyd, gan fod y gosb fwyaf yn un peth, ond mae'r canllawiau dedfrydu sy'n rheoli pa ddedfrydau y dylid eu gorfodi o dan amgylchiadau penodol hefyd yn bwysig. Felly, mae'n rhaid i'r ddau beth fynd law yn llaw.
Rwy'n cytuno â chi, ond yr hyn sy'n sicr o fewn eich rheolaeth yw'r gallu i wneud cynnydd yn y maes hwn. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith y byddwch yn ysgrifennu ataf gyda mwy o wybodaeth yn y maes penodol hwn, ond yr hyn sy'n gwbl eglur o'r dystiolaeth sydd o'n blaenau i gyd o’r holl droseddau a gyflawnwyd yn erbyn anifeiliaid sy'n ddiamddiffyn—ni allant amddiffyn eu hunain—nifer yr ymchwiliadau a chwynion y mae elusennau yn eu hystyried, a'r erlyniadau, yw y byddai'n dda heddiw cael amserlen o sut y bydd eich Llywodraeth chi yn bwrw ymlaen â chamau i wella'r cosbau sydd ar gael, a chadarnhau’r cosbau hynny sydd ar gael, fel nad ydym yn gweld dedfrydau nad ydynt yn addas i’w diben. A allwch chi roi amserlen i mi o ran sut y bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hyn, fel y gallwn weld camau cadarnhaol yn y maes penodol hwn?
Gallaf roi rhagor o wybodaeth yn y llythyr y byddaf yn ei anfon ato. Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig y mae'n eu codi, a byddaf yn sicrhau bod yr hyn y mae wedi ei ofyn i mi yn y fan yna yn cael sylw ysgrifenedig mewn llythyr.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, beth mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn wahanol?
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn enghraifft o'r modd yr ydym ni’n dilyn y Ddeddf honno, o ran sut yr ydym ni’n penderfynu ar yr hyn a wnawn yn y dyfodol.
Nid yw hwnna'n ateb argyhoeddiadol iawn, Prif Weinidog. Mae'r strategaeth yr ydych chi wedi ei llunio yn cynnwys pedair thema drawsbynciol, ac mae'r Ddeddf yn dweud bod saith nod llesiant. Mae un o'r nodau hynny—sef Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang—nad yw’n cael ei grybwyll o gwbl yn eich strategaeth. Rydych chi’n awgrymu, oherwydd y Ddeddf, y byddwch chi’n defnyddio penderfyniadau buddsoddi, penderfyniadau seilwaith a phenderfyniadau cynllunio mewn ffordd wahanol i'r ffordd y gwnaethoch chi wneud y penderfyniadau hynny yn y gorffennol. Mae eich Llywodraeth yn un o'r cyrff cyhoeddus a restrir o dan y Ddeddf, ac mae gennych chi ymrwymiad i nodau fel datblygu cynaliadwy, economi carbon isel, ecosystemau gweithredol iach a gwell bioamrywiaeth. A yw eich cefnogaeth i lwybr du yr M4 yn bodloni’r nodau hynny, neu a ydych chi'n newid y rheolau ac yn parhau â busnes fel arfer?
Wel, mae'r rhain yn faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw drwy'r ymchwiliad cyhoeddus. Roeddem ni eisiau iddo fod mor eang â phosibl ac ystyried yr holl ddewisiadau, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.
Rydym ni i gyd yn gwybod mai dyna'r dewis yr ydych chi’n ei ffafrio, ac mae hynny'n swnio'n bur debyg i ni ar yr ochr hon i'r Siambr fel busnes fel arfer a chyfle a gollwyd, Prif Weinidog.
Nawr, yn y strategaeth genedlaethol, rhoddir sylw hefyd i gymunedau gwledig, yr angen i gynnal y diwydiant amaethyddol, a'r sector bwyd a diod o'r radd flaenaf yr ydych â’r nod o’i gyflawni . Rydych chi’n dweud y byddwch chi’n gwneud hyn trwy bolisi amaethyddol a physgodfeydd ôl-UE. Nawr, mae'r angen i bob un ohonom gefnogi ffermwyr Cymru yn amlwg, o ystyried y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud at economi Cymru, at ddiwylliant Cymru a'r rhan sydd gan ffermwyr i’w chwarae o ran rheoli ein hadnoddau naturiol. Mae Plaid Cymru yn galw am yr un lefel o gefnogaeth i amaethyddiaeth gael ei chynnal hyd at 2022 o leiaf. Gwnaed yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth San Steffan i Loegr; Prif Weinidog, a wnewch chi wneud yr ymrwymiad hwnnw i ffermwyr Cymru nawr y prynhawn yma?
Wel, rwyf i wedi dweud yn gyhoeddus y byddwn ni’n cynnal yr un lefel o gefnogaeth. Mae'n rhaid i'r arian fod yno, wrth gwrs, a byddem yn disgwyl iddo fod yno, ond yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud, fel y mae hi’n gwybod, yw fy mod i’n credu y dylai'r pot presennol sydd ar gael gael ei gynnal gan Lywodraeth y DU a'i ddosbarthu’n ariannol yn yr un ffordd ag o'r blaen, a bydd yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth wedyn. Mater i'r Llywodraeth a'r Cynulliad yw sut y caiff ei ddefnyddio wedyn, ond o ran yr arian cyffredinol, wrth gwrs, rydym ni eisiau i hwnnw aros yr un fath ar ôl 2022, ac rwyf wedi dweud hynny sawl gwaith yn gyhoeddus.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Mae er budd i fusnesau yng Nghymru sy'n allforio i wneud cynnydd yn y cysylltiadau masnachu rhwng Prydain a gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Onid yw'n siomedig, felly, mewn pleidlais ar hyn yn Senedd Ewrop yr wythnos diwethaf, bod ASE Llafur Cymru ac ASE Plaid wedi pleidleisio dros safbwynt y Comisiwn i beidio â thrafod ymhellach gan ei bod yn debyg nad ydym wedi gwneud cynnydd digonol yn y trafodaethau, sydd wedi cael eu rhwystro, mewn gwirionedd, gan y Comisiwn Ewropeaidd? Onid yw'r bobl hyn ddim gwell na phumed colofnwyr yn ymladd er budd grymoedd tramor yn erbyn buddiannau Prydain?
Maen nhw’n ffasistiaid Sbaenaidd nawr, ydyn nhw? Wel, byddaf yn caniatáu i’r ffaith fod ganddo fwy o brofiad o hynny ein haddysgu. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho: maen nhw wedi pleidleisio yn ôl y ffordd y maen nhw’n gweld y ffeithiau. Mae safbwynt Llywodraeth y DU wedi bod yn draed moch o'r cychwyn. Pymtheg mis i mewn, nid ydym ni ddim callach o beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Maen nhw wedi treulio mwy o amser yn ymladd â'i gilydd. Nid oes gennym unrhyw syniad o—. Yr unig beth yr ydym ni’n ei wybod yw eu bod nhw’n gwneud eu gorau glas i amddifadu'r sefydliad hwn a phobl Cymru o'r pwerau y mae ganddyn nhw hawl iddynt. Y tu hwnt i hynny, nid oes gennym unrhyw syniad. Maen nhw’n cynllunio nawr ar gyfer Brexit dim cytundeb—gallaf ddweud nad oes unrhyw gynllunio o gwbl wedi ei wneud ar gyfer Brexit dim cytundeb. Nid oes ganddyn nhw unrhyw syniad o'r hyn y maen nhw eisiau ei wneud, ac mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn penderfynu pa fath o Brexit y mae’n dymuno ei gael. Gwrthododd pobl Prydain y math o Brexit y mae ef ei eisiau, felly cyfrifoldeb Llywodraeth y DU nawr yw penderfynu pa fath o Brexit sydd orau i Brydain. Rydym ni wedi amlinellu ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n credu sy’n cynrychioli Brexit synhwyrol sy'n cynrychioli'r safbwyntiau a fynegwyd gan bobl y llynedd.
Wel, nid fy lle i, wrth gwrs, ac UKIP yw amddiffyn y ffordd y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi mynd i’r afael â’r drafodaeth hon, ond os yw wedi darllen cyfrif Mr Yanis Varoufakis o'i drafodaethau gyda'r UE, bydd yn gweld yn y fan honno beth sy'n digwydd. Nid oes gan yr UE unrhyw fwriad difrifol o drafod â Phrydain ar gyfer y dyfodol, oherwydd eu buddiannau nhw yw cadw’r aelodau UE eraill gyda’i gilydd, ac maen nhw eisiau sicrhau, felly, nad yw Brexit—cyn belled ag y gallant—yn llwyddiant. Felly, ni allwn ddisgwyl cael unrhyw beth synhwyrol allan o'r UE. O dan yr amgylchiadau hyn, onid yw'n ddyletswydd ar yr holl bleidiau gwleidyddol yn y wlad hon i gefnogi nodau eang Llywodraeth Prydain, sef cael y fasnach fwyaf rydd bosibl gyda'r Undeb Ewropeaidd ac i ddiogelu buddiannau dinasyddion—dinasyddion yr UE yn y wlad hon a dinasyddion Prydain yn yr UE hefyd? Mae hyn yn amlwg beth mae'r Llywodraeth, yn ei ffordd ddi-drefn, yn ceisio ei wneud, ond, serch hynny, mae'r nodau'n rhai y dylai bob un ohonom eu cefnogi.
Wel, rwy’n cefnogi'r egwyddorion hynny, ond gadewch i mi fynd ag ef yn ôl at y refferendwm y llynedd. Dywedwyd wrthym gan ei blaid ef ac arweinydd ei blaid ef y byddai'r UE yn dod i gytundeb yn gyflym gan fod yr UE yn ofni'r DU; roedd hynny’n anwir. Dywedwyd wrthym y byddai gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn rhoi pwysau ar yr UE i ddod i gytundeb; roedd hynny'n anwir. Dywedwyd wrthym gan arweinydd ei blaid ei hun y gallai'r DU edrych mwy fel Norwy, ond dywedir wrthym nawr na ddylai edrych fel Norwy o gwbl. Mae'r ffantasïau a hyrwyddwyd y llynedd yn cael eu datgelu’n llwyr bellach. Y gwir amdani yw nad yw'r UE yn ofni'r DU—pam ar y ddaear y dylai ein hofni? Mae e'n iawn—mae'r UE eisiau cadw 27 yr UE gyda'i gilydd. Wrth gwrs ei fod; byddai hynny wedi bod yn hollol amlwg i'r rhan fwyaf o bobl y llynedd, ond nid i'w blaid ei hun. Nawr, rwy’n cytuno â’r egwyddorion y mae wedi eu mynegi—pwy na fyddai eisiau gweld y cytundeb masnachu mwyaf rhydd posibl? Pwy na fyddai eisiau gweld hawliau dinasyddion yn cael eu hamddiffyn? Y broblem yw, er ein bod ni’n gwybod beth yw safbwynt yr UE, nid oes gennym unrhyw syniad o beth yw safbwynt y DU a pha fath o gytundeb y mae’n dymuno ei gael. Dyna'r broblem.
Rydym ni’n sicr yn gwybod beth yw safbwynt yr UE—nid ydyn nhw eisiau dod i gytundeb, felly mae'r holl broses yn wastraff amser. Wrth gwrs, mae'n gwbl anghywir—ni ddywedasom yn UKIP y llynedd y byddai'r Almaenwyr yn dod i gytundeb; dywedasom ei bod o fudd economaidd iddyn nhw wneud hynny. Ac yn wir, o gofio bod ganddyn nhw ddiffyg masnach o €42 biliwn gyda Phrydain eleni, os na fyddant yn cefnogi cytundeb masnach rydd byddant yn gwneud drwg iddyn nhw eu hunain, efallai y byddent eisiau gwneud hynny er mwyn cadw’r pedwerydd reich gyda'i gilydd. Ni allem ni yn UKIP, wrth gwrs, wybod ychwaith beth fyddai unrhyw un arall mewn unrhyw blaid arall yn ei wneud mewn unrhyw wlad yn yr UE. Y cwbl a ddywedasom ni y llynedd oedd ei fod o fudd rhesymol i bawb ein bod ni’n dod i gytundeb i wneud masnach mor rhydd ag y gall fod. Ond os nad ydyn nhw eisiau dod i gytundeb, mae 85 y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i'r UE—mae honno'n tyfu, a dylem fod yn canolbwyntio ar rannau eraill o'r byd. Felly, yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud nawr yw lleihau'r Adran ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a throsglwyddo'r swyddogion hynny i'r Adran Masnach Ryngwladol, gan ganolbwyntio ar fwrw ymlaen â'r busnes go iawn o wneud Brexit yn llwyddiant yng ngweddill y byd.
Wel, gadewch i mi ddweud wrthych yr hyn a ddywedodd Liam Fox wrthyf pan gawsom ni gyfarfod o'r holl Weinidogion yn y Cydgyngor Gweinidogion. Dywedodd y byddai pob un o’r 53 o gytundebau masnach rydd yr oedd gan yr UE gyda gwledydd eraill yn berthnasol i'r DU yn awtomatig. Lol llwyr—roedd yn lol. Felly, mae hynny'n rhoi syniad o'm ffydd yn yr Adran Masnach Ryngwladol. Ni all ddianc y gwirionedd bod ei blaid ef, ei arweinydd ef, wedi mynd ymlaen ac ymlaen yn dweud y bydd yr UE yn dod i gytundeb â ni yn gyflym. Bydd—[Torri ar draws.] Fe’i clywsom—bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn gorfodi'r UE i ddod i gytundeb. Mae gan weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen fwy o ddiddordeb yn 27 yr UE na sydd ganddyn nhw yn y DU.
Mae'n sôn am baratoi ar gyfer y Brexit dim cytundeb. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu gorsafoedd ar y ffin. Wel, nid yw swyddogion tollau’n cael eu recriwtio. Mae'n debyg, dywedir wrthym y bydd rhyw fath o weithdrefn hysbysu ymlaen llaw ryfedd ar ochr y DU o unrhyw ffin na fyddai'n berthnasol ym mhorthladdoedd y sianel, ac mae'n debyg y byddai'n berthnasol yn hudol ar y ffin agored a fyddai'n bodoli gyda'r UE yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'n wallgof—mae’r holl beth yn wallgof. Y ffordd fwyaf synhwyrol o ymdrin â Brexit yw sicrhau bod gennym ni’r berthynas orau y gallwn ei chael gyda'n marchnad fwyaf. Os yw'n credu y bydd cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, dylai fynd i siarad â gweithwyr Bombardier. Bydd yr Unol Daleithiau yn gofalu amdanynt eu hunain. Mae ganddyn nhw Lywodraeth a etholwyd ar sail America yn gyntaf. Nid yw'n mynd i wneud unrhyw ffafr â'r DU, ac mae'n gwbl eglur nad dyna y mae’n mynd i'w wneud. Mae cytundebau masnach rydd gyda gwledydd sydd â safonau byw sylweddol is nag sydd gennym ni yn arwain at allforio swyddi. Gofynnwch i'r Americanwyr a chytundeb masnach rydd Gogledd America—dyna a ddigwyddodd. Allforiwyd swyddi i Fecsico a chollodd llawer o drefi canolbarth gorllewinol yr Unol Daleithiau eu swyddi yn sgil hynny, a dyna y mae'n ei argymell—y math hwnnw o gytundeb masnach rydd. Y gwir amdani yw bod angen i ni gael y berthynas fasnachu agosaf bosibl gydag un o farchnadoedd mwyaf y byd—mwy nag America—sydd ar garreg ein drws, y mae gennym ni ffiniau tir â hi. Os na allwn ni ddod i gytundeb â nhw, nid oes gennym ni unrhyw siawns o ddod i gytundeb ag unrhyw un arall.