Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Hydref 2017.
Rwy’n fodlon ystyried hynny, oherwydd mae'r achos y mae'n sôn amdano yn annymunol iawn ac yn peri gofid, wrth gwrs. Byddaf yn ysgrifennu ato ymhellach ynghylch hynny. Nid yw hyn yn ymwneud â’r cosbau yn unig; mae’n ymwneud â’r canllawiau dedfrydu hefyd, gan fod y gosb fwyaf yn un peth, ond mae'r canllawiau dedfrydu sy'n rheoli pa ddedfrydau y dylid eu gorfodi o dan amgylchiadau penodol hefyd yn bwysig. Felly, mae'n rhaid i'r ddau beth fynd law yn llaw.