Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 10 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Mae er budd i fusnesau yng Nghymru sy'n allforio i wneud cynnydd yn y cysylltiadau masnachu rhwng Prydain a gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Onid yw'n siomedig, felly, mewn pleidlais ar hyn yn Senedd Ewrop yr wythnos diwethaf, bod ASE Llafur Cymru ac ASE Plaid wedi pleidleisio dros safbwynt y Comisiwn i beidio â thrafod ymhellach gan ei bod yn debyg nad ydym wedi gwneud cynnydd digonol yn y trafodaethau, sydd wedi cael eu rhwystro, mewn gwirionedd, gan y Comisiwn Ewropeaidd? Onid yw'r bobl hyn ddim gwell na phumed colofnwyr yn ymladd er budd grymoedd tramor yn erbyn buddiannau Prydain?