<p>Busnesau Canolig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod wedi rhoi sylw i fater yn y fan yna sy’n gwbl gywir. Rydym ni wedi wynebu gormod o achosion yn y gorffennol lle mae busnesau y byddai'r Almaenwyr yn eu disgrifio fel y busnesau Mittelstand, yr oedd y perchnogion yn tueddu i’w gwerthu yn hytrach na’u tyfu. Mae'n broblem sydd gennym ers blynyddoedd. Edrychwyd ar un adeg ar ba un a allem ni geisio atgyfodi cyfnewidfa stoc Caerdydd er mwyn eu galluogi i dyfu ac yna dod yn rhestredig. Nid oedd yn ymarferol. Roedd hynny’n rhywbeth a ystyriwyd gennym 10 neu 11 mlynedd yn ôl.

Beth allwn ni ei wneud yn y cyfamser i'w helpu? Mae gennym ni wasanaeth Busnes Cymru, wrth gwrs, sy'n helpu BBaChau gan gynnwys busnesau canolig eu maint, a bydd banc datblygu Cymru yn rhan hanfodol o bolisi a darpariaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu ar arbenigedd Cyllid Cymru. Bydd hynny'n helpu BBaChau i gael gafael ar gyllid. A bydd y cynllun gweithredu economaidd, heb os, yn ceisio cefnogi busnesau o bob maint. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, 20 mlynedd yn ôl, bod y pwyslais yn gyfan gwbl ar ddenu buddsoddiad tramor a dim byd arall. Dyna’r oedd Awdurdod Datblygu Cymru yn ei wneud. Nid dyna'r sefyllfa erbyn hyn. Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw pyramid eang a chryf o BBaChau, a busnesau Mittelstand, os caf eu galw’n hynny, gan mai nhw yw sylfaen economi Cymru, ac rydym ni eisiau sicrhau bod ein cynnig yn helpu i'w cryfhau hwythau hefyd.