Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 10 Hydref 2017.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais am ddatganiad ar ba un a oedd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i adolygu'r telerau a'r amodau ar gyfer rhoi grantiau i fusnesau yng Nghymru, yn dilyn y colledion swyddi yn Newsquest a'r bygythiad i swyddi yn Essentra yng Nghasnewydd. Mae'r ddau gwmni wedi cael cymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ers hynny, mae wedi dod i’r amlwg bod llai na chwarter y £320 miliwn a wariwyd ar gymorth busnes ers 2010 wedi cael ei ddosbarthu fel grant ad-daladwy neu fenthyciad masnachol. Ac mae llai na 2 y cant wed ei ad-dalu. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen brys i adolygu polisi ei Lywodraeth o ran cymorth grant i fusnesau i sicrhau bod eu hamcanion yn cael eu cyflawni a bod y budd mwyaf posibl i'r trethdalwr yn cael ei sicrhau yng Nghymru gyfan?