<p>Busnesau Canolig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae can mil a hanner o swyddi wedi eu creu neu eu cadw o ganlyniad i'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar gael. Ni ydym yn mynd i ymddiheuro am hynny. Y gwir amdani yw i’r symudiad tuag at gyllid ad-daladwy gael ei wneud yn 2010 yn wreiddiol—saith mlynedd yn ôl. Nawr, mae’r amgylchiadau wedi newid ers hynny. Rydym ni wedi canfod nad oedd busnesau yn gallu cael gafael ar gyllid. Nid oeddent o’r farn bod cyllid ad-daladwy yn ddeniadol iddynt. Felly, ydym, rydym ni wedi darparu mwy o grantiau, ond rydym ni wedi gweld y canlyniadau ac rydym ni wedi gweld miloedd lawer o bobl sydd mewn swyddi heddiw oherwydd y cymorth y mae eu Llywodraeth wedi ei roi i'w teuluoedd, er mwyn iddyn nhw gael incwm ar gyfer y dyfodol.