<p>Y Sector Gweithgynhyrchu Uwch</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae'r sector gweithgynhyrchu uwch yn hanfodol i economi Cymru sy’n tyfu ac yn ffynnu. Mae gen i ychydig o salwch Theresa May y prynhawn yma, rwy’n gweld. Rwy’n cymryd nad oes dim y tu ôl i mi a fydd yn cwympo er hynny. [Chwerthin.] Mae swyddi hynod fedrus a chyflogau uchel a chynhyrchiant uwch na'r cyfartaledd yn nodweddiadol o'r sector, ac rydym ni’n parhau i gefnogi cwmnïau yn y sector yng Nghymru i gynnal eu gweithrediadau cyfredol ac i fanteisio ar gyfleoedd twf.