1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sector gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru? (OAQ51139)
Gwnaf. Mae'r sector gweithgynhyrchu uwch yn hanfodol i economi Cymru sy’n tyfu ac yn ffynnu. Mae gen i ychydig o salwch Theresa May y prynhawn yma, rwy’n gweld. Rwy’n cymryd nad oes dim y tu ôl i mi a fydd yn cwympo er hynny. [Chwerthin.] Mae swyddi hynod fedrus a chyflogau uchel a chynhyrchiant uwch na'r cyfartaledd yn nodweddiadol o'r sector, ac rydym ni’n parhau i gefnogi cwmnïau yn y sector yng Nghymru i gynnal eu gweithrediadau cyfredol ac i fanteisio ar gyfleoedd twf.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Rwy’n cytuno'n llwyr bod hyrwyddo gweithgynhyrchu uwch yn mynd i fod yn hynod bwysig i economi Cymru, a gall meysydd fel roboteg a graphene helpu i dyfu economi Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen eglurhad pellach o’r diffiniad o weithgynhyrchu uwch gan Lywodraeth Cymru, i eithrio pethau fel technoleg y 1970au ar gyfer cotio dur â lliw rhag cael eu hystyried yn weithgynhyrchu uwch, er gwaethaf y ffaith fod Bryngwyn a Tafarnaubach wedi cau yn flaenorol?
Wel, mae cotio dur â lliw yn weithgynhyrchu uwch. Os edrychwch chi ar Shotton, er enghraifft, mae'n hynod dechnegol. Mae celloedd ffotofoltäig yn rhan o'r cynhyrchu yno. Nid yw'n ddiffiniad hawdd ei wneud, ond o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod bod y sector wedi ei ddiffinio gan amrywiaeth o godau dosbarthu diwydiannol safonol a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cytunwyd ar y codau hynny gan banel diwydiant dan arweiniad y sector preifat, a sefydlwyd i gynghori Gweinidogion a swyddogion, ac mae trin a chotio metelau, gan gynnwys lliwio, yn weithgaredd sydd wedi ei gynnwys yn yr ystod o godau SIC sy'n diffinio ein sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch. Felly, mae'n ddiffiniad sy'n seiliedig ar ymgynghori â diwydiant yn unol â chyfres sefydlog o godau.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n annog busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i archwilio cyfleoedd i allforio i Iran. Nawr, pan gyfarfûm â busnes gweithgynhyrchu ddoe, dywedasant wrthyf ei bod hi'n amhosibl cael eich talu gan fanciau Iran gan fod Iran yn dal i fod wedi ei chloi allan o'r system ariannol fyd-eang. O gofio bod eich Llywodraeth yn annog busnesau Cymru i allforio i Iran, ac rwyf i’n croesawu hynny, a allwch chi roi rhywfaint o gyngor i weithgynhyrchwyr ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru eu cynorthwyo fel y gallant gael eu talu gan fanciau a busnesau Iran?
Wel, Atradius ar draws y ffordd, wrth gwrs, sy’n cyflawni’r swyddogaeth o sicrhau cymorth i allforwyr pan fyddan nhw’n ceisio allforio i farchnadoedd lle nad yw taliad ar gael bob amser. Dyna yw eu swyddogaeth—Nederlandsche Credietverzekering Maatschappij, gynt, a’r Adran Gwarant Credyd Allforio gynt, wrth gwrs. Felly, o ran indemnio allforwyr, nid yw hynny'n rhywbeth y byddem ni’n bwriadu ei wneud. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n edrych i weld pa gyfleoedd sy’n bodoli yn Iran. Mae wedi bod yn agored fel marchnad am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer iawn, ac mae o bosibl yn farchnad fawr iawn, ar gyfer allforion ac ar gyfer mewnforion. Felly, rydym ni’n ymwybodol iawn o'r sefyllfa yno. Rydym ni’n gweithio’n bendant tuag at greu pecyn cymorth i fusnesau sydd eisiau ymweld ag Iran, sydd eisiau edrych ar y farchnad yn Iran, ond ni fyddai'n mynd mor bell ag indemnio busnesau, gan fod honno, wrth gwrs, yn swyddogaeth i sefydliad arall.
A ydy’r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu y rhan fwyaf o ‘graphene’ diwydiannol yn y byd? Rydym ni wedi bod yn y busnes carbon o’r blaen yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae’n dda gweld ein bod ni ar flaen y gad gyda’r chwyldro diwydiannol yma. Dau gwmni o Rydaman, gyda llaw, sydd yn gyfrifol am hyn. A fyddai’n bosib inni gael cyfarfod gyda swyddogion adran yr economi fel ein bod ni’n gallu gwneud y gorau o’r cyfle euraid hwn i economi Cymru?
Perffaith iawn. Rŷm ni’n moyn, wrth gwrs, gweithio gyda chynhyrchwyr ac, wrth gwrs, lle maen nhw’n cynhyrchu rhywbeth sydd gyda’r gorau yn y byd neu’n arwain y byd, rŷm ni eisiau cwrdd â nhw, felly’r ateb syml i hwnnw yw, ‘wrth gwrs.’