Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 10 Hydref 2017.
A ydy’r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu y rhan fwyaf o ‘graphene’ diwydiannol yn y byd? Rydym ni wedi bod yn y busnes carbon o’r blaen yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae’n dda gweld ein bod ni ar flaen y gad gyda’r chwyldro diwydiannol yma. Dau gwmni o Rydaman, gyda llaw, sydd yn gyfrifol am hyn. A fyddai’n bosib inni gael cyfarfod gyda swyddogion adran yr economi fel ein bod ni’n gallu gwneud y gorau o’r cyfle euraid hwn i economi Cymru?