<p>Twf Economaidd yn Aberafan</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 10 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Nid yw'n eglur, os oes cyfamod ar y tir, pwy fyddai'n ei ddileu, neu a fyddai'n rhaid i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fynd i'r llys i'w ddileu. Nid yw'n eglur heb edrych ar y dogfennau. Mae Port Talbot yn hynod bwysig o ran gweithgynhyrchu; rydym ni’n gwybod hynny. Flwyddyn a hanner yn ôl, bydd yn gwybod, roedd pethau'n llwm cyn belled ag yr oedd y gwaith dur yn y cwestiwn. Yr ofn mawr yr oedd gennyf i ar y pryd—byddwn yn gyrru heibio iddo ac yn meddwl, 'A fyddwn ni'n gweld y pen trwm yma am lawer yn hwy?' Mae'n dal yno. Mae cynlluniau ar y gweill iddo ffynnu yn y dyfodol. Pam? Oherwydd y gwaith a'r arian a gyfrannwyd gennym ni fel Llywodraeth.

Y gwir amdani yw ein bod ni wedi rhoi arian ar y bwrdd, gwnaethom weithio’n galed gyda Tata, fe’u hargyhoeddwyd gennym am ddyfodol Port Talbot, ac ymatebodd y gweithlu. Oherwydd i’r gweithlu wneud yn siŵr bod y colledion a oedd yn digwydd yn y gwaith yn cael eu troi er gwell, yn gyflym iawn, iawn i sefyllfa, erbyn hyn, lle mae'r gwaith yn gwneud elw. Mae hynny'n deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y gweithlu—nid oedd yn hawdd, a bu’n rhaid gwneud aberthau, rydym ni’n gwybod, fel y gronfa bensiwn. Ond, gan weithio gyda'r gweithlu a gweithio gyda Tata, rydym ni’n gwybod, gyda'r gyd-fenter a gyhoeddwyd, yr addewid a wnaed i ni yw nad oes unrhyw effaith ar swyddi yng Nghymru, dim effaith ar safleoedd Cymru. Rydym ni wedi dod yn bell mewn blwyddyn a hanner, ac mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed dros bobl Aberafan.