1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2017.
7. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau twf economaidd yn Aberafan? (OAQ51167)
Maen nhw wedi eu nodi yn 'Ffyniant i Bawb', a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cynllun gweithredu economaidd yn ddiweddarach eleni a fydd yn cefnogi darpariaeth y strategaeth.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond—. Mae llawer o bobl yn gwybod bod Port Talbot yn gysylltiedig ag actorion enwog fel Richard Burton—a cheir llawer o bobl eraill y mae'n debyg y dylwn eu henwi, ond nid oes digon o amser iddyn nhw i gyd—ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei adnabod am ei waith dur. Mae ein heconomi leol dros y canrifoedd wedi cael ei gyrru gan ddiwydiant, yn dal i gael ei gyrru gan ddiwydiant, yn enwedig gyda Tata, ac mae'r gadwyn gyflenwi yn flaenllaw yn y sector hwnnw. Nawr, mae'r diwydiant wrth wraidd Port Talbot, cymaint felly fel bod gan hyd yn oed y tir ym mharc diwydiannol Baglan gyfamod arno i ddweud y dylid ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannol yn unig—yn eithaf da, gan ei fod yn cyd-fynd â'r ardal fenter ym Mhort Talbot sydd newydd gael ei nodi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r sylfaen sgiliau ym Mhort Talbot yn seiliedig ar ddiwydiant, gweithgynhyrchu ac adeiladu. Nawr, gyda'r holl gryfder hwnnw’n amlwg yn y dref, sut mae adeiladu carchar newydd yn sbarduno'r economi yn ei blaen? Ac, o ganlyniad, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymatal rhag newid y cyfamod ar y tir hwn sy'n cydnabod diwydiant fel yr hyn sy’n sbarduno’r economi leol, ac nid adeiladu carchar?
Nid yw'n eglur, os oes cyfamod ar y tir, pwy fyddai'n ei ddileu, neu a fyddai'n rhaid i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fynd i'r llys i'w ddileu. Nid yw'n eglur heb edrych ar y dogfennau. Mae Port Talbot yn hynod bwysig o ran gweithgynhyrchu; rydym ni’n gwybod hynny. Flwyddyn a hanner yn ôl, bydd yn gwybod, roedd pethau'n llwm cyn belled ag yr oedd y gwaith dur yn y cwestiwn. Yr ofn mawr yr oedd gennyf i ar y pryd—byddwn yn gyrru heibio iddo ac yn meddwl, 'A fyddwn ni'n gweld y pen trwm yma am lawer yn hwy?' Mae'n dal yno. Mae cynlluniau ar y gweill iddo ffynnu yn y dyfodol. Pam? Oherwydd y gwaith a'r arian a gyfrannwyd gennym ni fel Llywodraeth.
Y gwir amdani yw ein bod ni wedi rhoi arian ar y bwrdd, gwnaethom weithio’n galed gyda Tata, fe’u hargyhoeddwyd gennym am ddyfodol Port Talbot, ac ymatebodd y gweithlu. Oherwydd i’r gweithlu wneud yn siŵr bod y colledion a oedd yn digwydd yn y gwaith yn cael eu troi er gwell, yn gyflym iawn, iawn i sefyllfa, erbyn hyn, lle mae'r gwaith yn gwneud elw. Mae hynny'n deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y gweithlu—nid oedd yn hawdd, a bu’n rhaid gwneud aberthau, rydym ni’n gwybod, fel y gronfa bensiwn. Ond, gan weithio gyda'r gweithlu a gweithio gyda Tata, rydym ni’n gwybod, gyda'r gyd-fenter a gyhoeddwyd, yr addewid a wnaed i ni yw nad oes unrhyw effaith ar swyddi yng Nghymru, dim effaith ar safleoedd Cymru. Rydym ni wedi dod yn bell mewn blwyddyn a hanner, ac mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed dros bobl Aberafan.