Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 10 Hydref 2017.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniadau a'i chwestiynau? Rwy'n meddwl ei bod hi'n gwneud pwyntiau diddorol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymateb gan yr Aelod. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod angen inni ddiogelu pobl sydd â’r cardiau presennol, ond rwyf hefyd yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn diogelu’r ddarpariaeth benodol hon ar gyfer y dyfodol yn wyneb yr heriau yr wyf nawr wedi'u nodi ar sawl achlysur.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol hefyd ein bod ni'n edrych ar ddefnyddio mwy ar wasanaethau bysiau i alluogi pobl sy'n wynebu anawsterau wrth gysylltu â nwyddau, gwasanaethau, ac, at ddibenion hamdden, sy'n cael trafferth cysylltu â'u ffrindiau a'u teulu. Wrth wneud hynny, mae angen inni sicrhau ein bod yn nodi'r grwpiau hynny sydd wedi'u hymylu ar hyn o bryd. Dynododd yr Aelod un grŵp penodol, sef plant pobl nad ydynt yn gallu fforddio talu am drafnidiaeth gyhoeddus. Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth y byddem yn dymuno cael barn arno.
Ond rwyf hefyd yn credu bod angen inni edrych ar feysydd gwasanaeth eraill sydd heb eu cynnwys yn y cynllun ar hyn o bryd, er enghraifft, dulliau trafnidiaeth eraill, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes bysiau. Felly, er enghraifft, a oes angen inni edrych ar ymestyn y cynllun i gynnwys gwasanaethau tacsis?
Rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn archwilio swyddogaeth gweinyddu a chost gweinyddu'r cardiau. Ar hyn o bryd, er y gallech fod yn gymwys i gael cerdyn, efallai nad ydych yn defnyddio'r cerdyn, ac felly y cwestiwn fydd: a ddylai fod cyfraniad at weinyddu'r cerdyn? Mae'n costio tua £3 y cerdyn inni ar hyn o bryd. Mae'n gwestiwn teg i’w ofyn, yn fy marn i.
Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn deg gofyn a ddylai fod cyfyngiadau ar eu defnyddio o ran amser. Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod tua chwarter y siwrneiau'n cael eu gwneud yn yr amser teithio brig, ac, felly, dri chwarter—y mwyafrif helaeth—o deithiau’n cael eu gwneud y tu allan i'r cyfnodau brig hynny. Yn y bôn, mae'r cynllun wedi cynnal gwasanaethau bws y tu allan i oriau teithio brig. Mae hynny wedi bod yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod llawer o gwmnïau bysiau wedi gallu dal i fynd yn yr amgylchedd heriol iawn y maent yn gweithredu ynddo.
Gallai awdurdodau lleol, rwy’n credu, pe byddent yn dymuno, archwilio'r strwythur codi tâl ar gyfer meysydd parcio, ac yn fy marn i, os ydym ni am gael newid moddol fel bod pobl yn gadael eu ceir ac yn defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o gyfnewidfeydd. Mae hwn yn gwestiwn a ofynnodd Mike Hedges. Rwy'n meddwl y gall y metro a'r canolfannau trafnidiaeth y gallwn eu creu drwy gyfrwng y metro ddarparu'r cyfleoedd hynny i bobl barcio eu ceir, mynd allan o'u ceir a mynd ar fysiau lleol neu ar reilffyrdd, ac rwy'n meddwl bod rhaid i hynny fod yn iawn i’r amgylchedd. Mae hynny'n dda i unigolion, a fydd yn dod yn fwy corfforol egnïol, ac mae hefyd yn fwy cynhyrchiol i'r gymdeithas oherwydd bydd gennym fwy o gysylltiad â'n gilydd. Ni allwn fyw mewn cymdeithas lle mae ein cysylltiad i gyd yn rhithwir. Mae'n gwbl hanfodol i'n lles ein bod ni'n cysylltu â'n gilydd yn fwy rheolaidd yn bersonol yn hytrach na dim ond yn rhithwir.