– Senedd Cymru am 2:45 pm ar 10 Hydref 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ymgynghoriadau ar deithio rhatach ar fysiau. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Ar 22 Awst, ysgrifennais at yr Aelodau am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori a ddaeth i ben ar 31 Mai ynghylch dyfodol gwasanaethau bws lleol yng Nghymru. Fel yr esboniais yn fy llythyr, roedd yr ymgynghoriad yn rhan o'r drafodaeth barhaus rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau ac, yn bwysicaf oll, grwpiau o deithwyr ynghylch sut y gallwn ni ddylunio a darparu gwasanaethau bws lleol yn well i bobl Cymru.
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 31 Mai, ac mae'r adroddiad canlyniad cryno a rannais gyda'r Aelodau ym mis Awst bellach wedi'i rannu â rhanddeiliaid ac wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy’n ddiolchgar, nid yn unig am gefnogaeth Aelodau yn y Siambr hon yn ystod y ddadl ar 28 Chwefror, ond hefyd yn ddiolchgar i'r 81 o sefydliadau ac unigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad.
Er fy mod i’n falch ei bod yn ymddangos bod y prif ganlyniadau’n gefnogol dros ben i'm cynigion amlinellol i wella gwasanaethau bysiau lleol yn y tymor hirach, rwy'n ymwybodol bod gan rai gweithredwyr bysiau amheuon o hyd ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno masnachfraint bws yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i weithio gydag awdurdodau lleol a gyda gweithredwyr bysiau yng Nghymru i lunio cynigion manwl yr wyf yn gobeithio ymgynghori arnynt yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy'n awyddus i roi sylw i'r pryderon hyn i’n galluogi i gyflawni ein hamcanion a rennir ar y cyd yn well, a nodais hynny yn y ddogfen ymgynghori. Bydd y gweithdai sydd ar y gweill ar gyfer yr hydref hwn, ar ôl yr uwchgynhadledd bysiau a gynhaliwyd ym mis Ionawr, yn rhoi cyfle gwych i ddatblygu ein syniadau am y materion pwysig iawn hyn.
I grynhoi, ein nodau hirdymor ar gyfer ein gwasanaethau lleol yw cynyddu nifer y bobl o bob oedran sy'n defnyddio bysiau i gymudo bob dydd i'r gwaith, ar gyfer addysg, i fynd i gael gwasanaethau iechyd ac at ddibenion hamdden; sicrhau bod gwasanaethau bysiau lleol hygyrch o ansawdd da ar gael i deithwyr fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru sy'n cynnwys cymysgedd o drafnidiaeth leol sy'n ymatebol i'r galw neu wedi'i drefnu, ynghyd â gwasanaethau bws cyflym pellter hir sy'n ategu gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr; sefydlu cynhyrchion tocynnau integredig cenedlaethol a rhanbarthol i alluogi cludiant amlfodd di-dor gwell; galluogi gweithredwyr bysiau i gyfrannu at ddatblygu a chyflenwi systemau trafnidiaeth gyhoeddus metro’r de-ddwyrain a metro’r gogledd-ddwyrain; bargen deg i deithwyr, staff, gweithredwyr bysiau a'r sector cyhoeddus; ymagwedd at osod rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus sy’n ariannol hyfyw, yn gynaliadwy ac yn dryloyw, gan gynnwys talu gweithredwyr yn briodol a threfniadau cyllido cyhoeddus sefydlog yn gyffredinol sy'n darparu gwerth am arian ac yn ategu nodweddion gorau'r sector bysiau masnachol; ac, yn olaf, cyfrannu at ddiogelu lles cenedlaethau'r dyfodol drwy ymdrin â pharthau o ansawdd aer gwael, gan gefnogi economi gynaliadwy a ffyniannus ar yr un pryd.
Yn fy marn i, mae’r amcanion hyn yn gyson â'r nodau yr ydym yn ceisio eu cyflawni yn rhan o'n strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd y mis diwethaf, ‘Ffyniant i Bawb’. Er bod y ddogfen ymgynghori polisi a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth ynglŷn â chynllunio a chyflwyno gwasanaethau bws lleol yng Nghymru yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun tocynnau teithio rhatach gorfodol a'i weithrediad yng Nghymru, ni ofynnwyd cwestiynau penodol bryd hynny ynglŷn â'r cynllun a’i weithrediad yn y dyfodol. Fodd bynnag, cymerodd rhai ymatebwyr y cyfle i ddweud wrthym beth oedd eu meddyliau ynghylch y cynllun. Un awgrym a gyflwynwyd gan weithredwr bysiau mawr oedd y dylai Llywodraeth Cymru reoli gweinyddu ac ad-daliadau teithio rhatach yn uniongyrchol. Hefyd, cytunodd 88 y cant o'r ymatebwyr a fynegodd ffafriaeth y dylai fod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i sefydlu cynlluniau tocynnau rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae'r ymatebion hyn yn awgrymu bod pobl yn dymuno i Lywodraeth Cymru gymryd rhan fwy gweithgar wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol, ac felly, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus heddiw ynghylch y trefniadau rheoli ar gyfer gweinyddu tocynnau consesiynol gorfodol. Mae angen inni archwilio a ddylai cyfrifoldeb am y cynllun hwn barhau gyda'n hawdurdodau lleol ynteu a ddylai Llywodraeth Cymru weithredu'r cynllun hwn i Gymru gyfan yn ganolog. Ond rwy'n awyddus inni ddefnyddio'r cyfle hwn i ofyn rhai cwestiynau sylfaenol am yr hyn y mae'r cynllun yn ei ddarparu i ddeiliaid cardiau teithio rhatach yn y dyfodol.
Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac yn mynd yn fwy egnïol, felly mae angen ystyried yn ofalus sut yr ydym yn cynnal y cynllun pwysig hwn yn y dyfodol. Yn seiliedig ar y rhagolygon cyfredol, gallwn yn rhesymol ddisgwyl i nifer y bobl 60 oed a hŷn sy'n gymwys i deithio ar fysiau am ddim gynyddu i tua 880,000 erbyn 2021, a chodi i dros filiwn erbyn 2030. Felly, mae gennym heriau y mae angen ymdrin â nhw i sicrhau bod ein hymrwymiad yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ond gadewch imi fod yn hollol glir: mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i gynnal teithio ar fysiau am ddim i bobl hŷn, pobl anabl a rhai cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu yn ddisyflyd. Llywodraeth Cymru sy’n talu’r rhan fwyaf o gost y cynllun Cymru gyfan—tua £60 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd—ac mae awdurdodau lleol yn talu tua £10 miliwn. Hefyd, Llywodraeth Cymru sy’n ariannu'r gost o gadw a dadansoddi data’r cardiau teithio rhatach, a gedwir gan drydydd parti ar ran pob un o’r 22 awdurdod lleol. Mae'r wybodaeth a gasglwyd am ddefnyddio’r cardiau teithio rhatach yn awgrymu bod tua dwy ran o dair o'r cardiau a gyhoeddir bob blwyddyn yn cael eu defnyddio, a’r gweddill yn cael eu cadw rhag ofn y bydd eu hangen.
Ar hyn o bryd mae mwy na 750,000 o’r cardiau mewn cylchrediad. Yn ystod 2015-16, rhoddwyd tua 35,000 o gardiau i bobl a oedd yn bodloni'r meini prawf cymhwyster am y tro cyntaf, a rhoddwyd tua 25,000 o gardiau eraill i gymryd lle hen gardiau. Mae tua 10 y cant o’r cardiau teithio rhatach sydd mewn cylchrediad wedi’u rhoi i bobl anabl a phobl anabl sydd â chymdeithion er mwyn gwella mynediad at ein rhwydwaith bysiau lleol i helpu pobl i fyw'n annibynnol. Ond er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn hwy ac yn bell i’r dyfodol, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ein cynllun yn parhau i fod yn ariannol gynaliadwy i ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio.
Yn ogystal â phobl hŷn a phobl anabl, mae'r cynllun hefyd yn darparu teithio am ddim ar fysiau i gyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i ddiwallu anghenion ein cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu, y mae arnom ddyled fawr iawn iddynt. Ar y sail hon, rydym yn ceisio barn ynglŷn â’r ffordd orau o gadw eu hawl i deithio ar fysiau am ddim yng Nghymru yn y dyfodol.
Wrth gynnal yr ymgynghoriad hwn, rwyf hefyd yn argyhoeddedig y dylem ystyried grwpiau eraill a allai elwa o deithio ar fysiau’n rhatach fel rhan o gyfraniad trafnidiaeth at ein strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’. Ym mis Chwefror, ymestynnais ein cynllun disgownt teithio ar fysiau i bobl ifanc am flwyddyn arall, a heddiw rwyf hefyd yn falch o ddechrau ymgynghori ar sut y gallwn ddatblygu a chyflwyno ein cynllun ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau i ddiwallu eu hanghenion teithio dyddiol. Bydd yr ymgynghoriad yn annog ac yn ystyried barn unigolion sydd â diddordeb, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru, a bydd yn edrych ar y ffordd orau o hwyluso defnydd bws ymhlith pobl ifanc.
Bydd ymgynghoriad y cynllun prisiau gostyngol i bobl ifanc yn para tan 4 Ionawr 2018. Ers mis Ebrill 2017, mae pobl ifanc wedi gwneud dros 0.5 miliwn o deithiau gan ddefnyddio fyngherdynteithio, cynllun Llywodraeth Cymru sy'n rhoi disgownt i bobl ifanc wrth deithio ar fysiau yng Nghymru. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y cynllun hwn i'r defnyddwyr hynny, ond hoffwn annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i ddefnyddio bysiau drwy ddatblygu cynllun newydd i roi disgownt i bobl ifanc sy’n teithio ar fysiau. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd llawer o bobl ifanc sydd heb brofiad o deithio ar fysiau heblaw am y daith ddyddiol i'r ysgol ac yn ôl yn manteisio ar gynllun gwell i roi cynnig ar y bws am resymau eraill ac, ar ôl gwneud hynny, y byddant yn gweld bod bysiau heddiw wir yn rhoi cynnig deniadol.
Mae'r cynllun hwn ar hyn o bryd yn seiliedig ar gytundeb gwirfoddol rhwng cwmnïau bysiau lleol a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth awdurdodau lleol. Mae angen inni ystyried a ellid darparu'r cynllun hwn yn well fel rhan o gynllun a gyflwynir ar yr un telerau â'r cynllun pobl hŷn—cynllun gorfodol, yn hytrach nag un gwirfoddol. Dylem hefyd ystyried anghenion y bobl lawer sy'n gwirfoddoli yn ein cymunedau. Dylem fynd ati i ystyried a oes cyfleoedd i ehangu'r cynlluniau presennol i ddiwallu anghenion pobl yn ein cymdeithas yn well.
Credaf fod teithio ar fysiau am ddim yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at wella iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru, gan alluogi mwy o bobl i aros yn egnïol am gyfnod hwy, ac felly'n hyrwyddo byw'n annibynnol. Bydd yr ymgynghoriad ar y cynllun gorfodol ar agor tan 12 Ionawr ac, yn seiliedig ar y canlyniadau, y byddaf, unwaith eto, yn eu cyhoeddi, byddwn yn ystyried y ffordd orau inni gynnal ein cynllun teithio ar fysiau am ddim yn y dyfodol mewn hinsawdd o boblogaeth sy'n heneiddio a phwysau cynyddol ar yr adnoddau sydd ar gael inni. Rwy'n meddwl bod heddiw’n gyfle gwych i ystyried y ddau gynllun hyn a’r ffordd orau o’u cyflwyno yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw, lle rydych chi'n dweud eich bod wedi ymrwymo, wrth gwrs, i'r egwyddorion sydd wedi tanategu'r cynllun teithio ar fysiau am ddim? Mae hwn wedi bod yn bolisi blaenllaw, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru, ac roedd eich rhagflaenydd Mrs Hart yn arbennig o ymroddedig i egwyddor cymhwyster cyffredinol. Felly, onid yw'n fater o beidio â gwneud dim os nad oes angen? Byddai gennyf ddiddordeb yn y rhesymeg dros unrhyw newid arfaethedig, fel yr ydych wedi’i restru heddiw.
Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet beth mae ei adran wedi'i wneud i wella'r ffordd y caiff y cynllun presennol ei gynnal, a pha arbedion cost y gellir eu gwneud o ran gweinyddu'r cynllun. A yw'r adran wedi gwneud unrhyw waith i sicrhau eu bod yn sicr bod pawb sydd â cherdyn yn gymwys i gael un? Beth sy'n cael ei wneud i ddysgu o arfer gorau hefyd o ran y cynllun bathodyn glas, sy'n cynnal asesiad o gymhwyster?
Fel yr wyf i’n ei ddeall, yn 2019 byddwn yn symud tuag at beiriannau tocynnau electronig a bydd cardiau newydd yn cael eu cyhoeddi bryd hynny hefyd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried a fydd hyn yn gyfle i dynhau'r cynllun a defnyddio technoleg newydd i helpu i’w weinyddu, gan leihau cost gweinyddu a defnyddio technoleg olion bysedd o bosibl i atal camddefnyddio'r cynllun?
O ran y trefniadau teithio rhatach ar gyfer pobl ifanc a'r cynllun olynol i fyngherdynteithio, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn dilyn yn ôl troed fy mhlaid wrth ymgynghori ar gynllun newydd i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ein cynigion wedi cael cefnogaeth frwd. Mae pobl ifanc yn tueddu i fod â’r cyflogau isaf a'r premiymau yswiriant ceir uchaf, ac mae costau teithio’n rhwystr sylweddol rhag swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd cymdeithasol. Felly, hoffwn i bobl ifanc elwa o'r un consesiynau teithio ag a gynigir i bobl dros 60 oed Cymru. Mae'n amlwg, os caiff pobl ifanc eu cyflwyno i drafnidiaeth gyhoeddus yn gynnar, eu bod yn cadw ati ac yn parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn nes ymlaen yn eu bywydau. Felly, a allwch chi roi unrhyw ymrwymiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd unrhyw gynllun yn y dyfodol sy’n cael ei ymestyn i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn cynnwys yr un lefel o degwch, os hoffech chi, ag i’r rhai hynny sydd dros 60 oed?
Mae hefyd yn hanfodol bod y cynllun hwn yn cael ei ariannu'n briodol er mwyn bod yn llwyddiant. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn awyddus iawn i siarad am gynigion sydd wedi'u costio'n llawn. Felly, ar y sail honno, a gaf i ofyn: pa arian fydd ynghlwm wrth eich cynllun arfaethedig, gan nad yw'n glir o'r gyllideb ddrafft?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae’r niferoedd sy’n defnyddio’r cynllun fyngherdynteithio wedi cael eu disgrifio fel bod yn siomedig. Rwy'n sylwi yn eich dogfen ymgynghori a gyhoeddwyd heddiw bod 15,000 o bobl ifanc wedi gwneud cais am y cynllun fyngherdynteithio. A ydych chi’n hapus â'r nifer hwnnw, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, a sut y byddwch chi'n sicrhau bod unrhyw gynllun a ddaw ar ei ôl yn cael ei farchnata'n iawn mewn ffordd sy'n annog llawer o bobl ifanc i’w ddefnyddio?
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae manylion am rai o'r cwestiynau hynny wedi'u cynnwys yn y dogfennau, ond rwy'n sylweddoli na fydd yr Aelod wedi cael cyfle eto i bori’n ddwfn drwy’r dogfennau ymgynghori hynny, felly rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu ateb pob un o'ch ymholiadau yma heddiw.
Yn gyntaf oll, hoffwn ymdrin â'r pwynt olaf a gododd yr Aelod, sydd, yn fy marn i, yn bwynt teg iawn, sef bod llai o bobl ifanc wedi defnyddio fyngherdynteithio nag y byddwn wedi'i ddymuno, a llai, rwy’n meddwl, nag y byddai unrhyw un yn y Siambr hon wedi’i ddymuno. Am y rheswm hwnnw, mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi cytuno i ymgymryd ag ymarfer marchnata newydd i gynyddu nifer y bobl sy'n gwneud cais am fyngherdynteithio ac yn cael un. Yn wir, rwy'n meddwl bod y niferoedd bellach wedi codi o 15,000 i fwy na 17,000. Hoffwn weld y niferoedd hynny'n cynyddu ymhellach.
Rwy’n mynd i droi’n ôl at y cwestiwn am deithio rhatach i bobl ifanc mewn eiliad, os caf i, ond rwy’n mynd i droi yn gyntaf at y manteision a gynigir i bobl hŷn. Mae’r system yn gweithio, ond, fel yr amlinellais, byddwn ni’n gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl 60 oed a hŷn wrth inni agosáu at ran olaf y degawd nesaf, ac felly mae angen inni sicrhau heddiw bod y cynllun pwysig hwn yn addas ar gyfer y dyfodol. Byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau a fyddai'n cael eu gwneud ystyried y trefniadau presennol ar gyfer pobl â chardiau teithio rhatach. Ni fyddem, dan unrhyw amgylchiadau, yn eu cymryd yn ôl gan ddeiliaid cardiau presennol, ond mae angen inni ymgynghori ar gynaliadwyedd y model presennol. Ond, fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae’n gweithio, ond mae angen inni ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae angen inni ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol gan ystyried, wrth gwrs, y ffaith nad oes diwedd i gyni o hyd a bod pwysau ar gyllidebau ar draws y Llywodraeth ac ar sail y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio ei roi ar waith, yn ogystal ag ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal mewn mannau eraill yn y DU ar yr un mater hwn.
Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â sut yr ydym wedi dysgu gwersi, sut yr ydym wedi gwella'r monitro, sut y gallwn wella'r broses o gyflawni, ac rwy’n meddwl bod hynny'n arwyddocaol iawn, iawn, oherwydd mae gwell gwiriadau ar ddefnyddio'r cardiau wedi arwain at, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, erlyniadau. Credir bod hynny, yn ei dro, wedi cyfrannu at ostyngiad yng nghyfanswm nifer y siwrneiau teithwyr a wnaethpwyd yn flynyddol o tua 108 miliwn heb fod yn bell yn ôl i tua 101 miliwn y llynedd. Yn amlwg, mae gwell gwiriadau ar ddefnyddio cynlluniau tocynnau teithio rhatach ac ad-daliadau ar eu cyfer yn arwain at lai o gamddefnyddio'r cynllun, ond rydym yn monitro'n barhaus ac yn gwneud hapwiriadau i sicrhau nad oes neb yn cam-drin y system.
Mae'r Aelod hefyd yn gofyn am newidiadau y gellid eu gwneud i sicrhau bod gwell monitro yn cael ei wneud o ran gweinyddu'r cardiau teithio rhatach yn y lle cyntaf. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn, ond, wrth gwrs, un o'r cwestiynau yr wyf i’n ei ofyn yn yr ymgynghoriad hwn yw a ddylai Llywodraeth Cymru ddod yn awdurdod consesiynol. Byddai angen newid deddfwriaeth i wneud hynny, ond mae'n bosibl y byddai'n ein galluogi i wneud arbedion ond hefyd i fonitro'n well pwy sy'n cael y cardiau a phwy sy'n defnyddio'r cardiau, ar ba adeg o'r dydd ac yn y blaen. Byddai hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio technoleg newydd yn gyson ledled Cymru yn y modd y defnyddir y cerdyn teithio. Mae'r Aelod yn nodi nifer o dechnolegau newydd a rhai sy'n datblygu a allai olygu bod y ffordd yr ydym yn talu am gardiau teithio am ddim neu'n mynd ati i’w defnyddio’n newid yn sylweddol yn y blynyddoedd sydd i ddod, a phe bai Trafnidiaeth i Gymru yn gallu datblygu system tocynnau integredig, amlfodd ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel awdurdod consesiynol, rwy'n hyderus y byddem yn gallu manteisio ar yr holl dechnolegau sy'n datblygu er mwyn gwella profiadau teithwyr.
Rwy'n mynd i droi at y cwestiwn am deithio rhatach i bobl ifanc yn awr—yn benodol am deithio rhatach i bobl ifanc. Ddylwn i sôn, fodd bynnag, mai un dewis arall y dylid ei ystyried fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn lle bod llywodraeth Cymru yn dod yn awdurdod consesiynol, yw sefydlu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol a allai, yn rhanbarthol, reoli'r cynllun hwn. O ran tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc, rwy’n croesawu cyfraniad y Ceidwadwyr Cymreig at y ddadl hon. Rwy'n meddwl ei fod yn ddefnyddiol iawn ac yn sicr wedi helpu i’w godi’n uwch ar yr agenda newyddion, ond byddwn yn cynghori'r Ceidwadwyr Cymreig i drin y ffigurau’n fwy cywir yn y dyfodol. Y rheswm pam rwy'n dweud hyn yw bod £25 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y cynllun, cynllun y maen nhw’n awgrymu y byddai’n cynnig teithio am ddim ar fysiau a thraean oddi ar brisiau rheilffordd i 350,000 o bobl.
Rwy’n mynd i drin y ffigurau’n gyflym ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Ar hyn o bryd, mae tua 16,000 i 17,000 o ddeiliaid cardiau. Byddan nhw’n cymryd tua 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac, felly, o gwmpas 100 o deithiau teithwyr gan bob deiliad cerdyn. Ar y sail honno—ac rwy’n meddwl y byddai'n gwbl resymol disgwyl i lawer mwy o bobl ifanc ddefnyddio tocyn am ddim na thocyn gostyngol—byddem yn disgwyl i'r 350,000 o bobl ifanc wneud o gwmpas 35 miliwn o deithiau bob blwyddyn. Ac felly, os yw pris tocyn i oedolion—gadewch inni ddweud ein bod yn ei ddyfalu, sef yr union beth rwy'n credu y gwnaeth y Ceidwadwyr efallai—yn £2, byddai hynny’n agos i oddeutu £70 miliwn i ad-dalu teithiau bws, ac mae hynny cyn i chi gyrraedd cost ad-dalu traean o'r costau teithio ar y rheilffyrdd.
Felly, rwy’n edrych ymlaen at gael manylion llawn am sut y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu darparu cynnig ar y lefel honno am ddim ond £25 miliwn, ond, fel y dywedais, rwy'n croesawu eu cyfraniad at y ddadl bwysig iawn, iawn hon. Rwyf hefyd yn cytuno â Russell George pan fo’n dweud bod angen inni ysgogi newid ymddygiadol er mwyn datgarboneiddio’r amgylchedd, er mwyn ymdrin â thagfeydd ar ein ffyrdd, ac i sicrhau bod gennym boblogaeth fwy egnïol yn gorfforol. Rwy'n meddwl bod gan gynlluniau teithio rhatach i bobl ifanc swyddogaeth hanfodol yn hynny o beth.
Diolch. Fe wnes i ganiatáu ichi roi ateb eithriadol o hir yno—
Ymddiheuriadau.
Mae gen i lawer o bobl, ac mae pobl yn ychwanegu at y rhestr bob yn dipyn, felly, bydd yn rhaid imi ofyn ichi fod ychydig yn fwy cryno â'ch atebion. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad am yr ymgynghoriad am gynllun tocynnau teithio rhatach gorfodol yng Nghymru? Yn amlwg, mae Plaid Cymru'n llwyr gefnogi'r polisi tocynnau teithio rhatach, a gyflwynwyd gan fy nghyn gyd-Weinidog ac yna Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd, Ieuan Wyn Jones. Nawr, i’r grwpiau hyn sy'n agored i niwed—yr henoed, yr anabl a rhai cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi’u hanafu—mae'r cynllun teithio rhatach hwn yn hanfodol o ran ymdrin ag arunigedd a chynyddu ymadweithio cymdeithasol, ymdrin ag unigrwydd ac arunigedd, sef pwnc adolygiad gan y pwyllgor iechyd yr wyf i’n ei gadeirio ar hyn o bryd. Yn sicr, bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu, yn y modd cryfaf posibl, unrhyw ymgais i ostwng neu leihau'r ddarpariaeth yn y maes hwn.
Felly, rwy’n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond a wnewch chi ddweud yn bendant y prynhawn yma na fydd unrhyw ostyngiad yn y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael i bawb sy'n gymwys ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd? Yn ychwanegol at hynny, a wnewch chi hefyd ddiystyru’n bendant y posibilrwydd o godi'r trothwy o ran pryd fydd pobl hŷn yn gymwys ar gyfer y cynllun yn y dyfodol? Byddwn hefyd yn cefnogi unrhyw symudiadau i ymestyn y cynllun disgownt teithio ar fysiau i bobl ifanc ymhellach. Rwy'n ymwybodol o'r cyfyngiadau amser, felly ni wnaf drafod hynny, ond mae manteision clir i’r cynllun hwn, fel y nodwyd eisoes, o ran teithio i bobl ifanc.
A allech chi egluro, yn olaf, a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried Trafnidiaeth Cymru fel y corff cenedlaethol a fydd yn gweinyddu cynllun bysiau Cymru gyfan yn lle'r awdurdodau lleol? Diolch yn fawr.
Yr ateb yw: ydy, mae hynny'n bosibilrwydd. O ran y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod ynglŷn â phobl ifanc, gallaf ddweud bod yr ymgynghoriad nid yn unig yn gofyn a ddylem ni ymestyn y system bresennol o ran lefel y gostyngiad a gynigir, ond hefyd o ran oedran y rhai a allai fod yn gymwys. Mae hefyd yn cynnwys cwestiynau ynghylch cymhwyster gofalwyr a phrentisiaid, efallai. Hefyd, mae'n edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y cynllun i'r rheini sy'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, sy'n ddi-waith ac yn defnyddio cynllun cerdyn teithio’r Ganolfan Byd Gwaith.
Nawr, rwy'n awyddus i sicrhau y gall pobl hŷn yng Nghymru, ar hyn o bryd, fod yn sicr o wybod na fydd y ddarpariaeth bresennol yn lleihau. Mae'r ymgynghoriad yr ydym yn ei gychwyn yn ymwneud â threfniadau yn y dyfodol yng ngoleuni'r pwysau hynny y soniais amdanynt wrth Russell George. Rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol—ei fod yn fforddiadwy ar gyfer y dyfodol—a bod y gwasanaethau bysiau lleol eu hunain yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dyna pam yr wyf i’n arbennig o awyddus i gasglu barn a chasglu tystiolaeth, drwy'r ddau ymgynghoriad hyn, cyn cynhyrchu nifer o gynigion y gwanwyn nesaf am sut y gallwn foderneiddio a chryfhau trafnidiaeth gyhoeddus leol ar draws ein cymunedau.
A gaf i, yn gyntaf oll, groesawu'r datganiad? A gaf i dynnu sylw at ddau beth? Pwysigrwydd deialog ynglŷn â gwasanaethau bysiau—yn rhy aml, mae gwasanaethau bysiau’n cael eu cynnal gan gwmnïau bysiau heb ddigon o ddeialog â defnyddwyr ac eraill. Yr ail beth: pwysigrwydd cyfnewidfeydd bws-rheilffyrdd. Nid wyf yn meddwl y gallwch chi or-amcangyfrif pa mor boblogaidd yw teithio rhatach. Mae cefnogaeth enfawr iddo yn fy etholaeth i. Mae caniatáu i bobl oedrannus a phobl anabl fynd allan, cwrdd ag eraill, neu, fel sy'n digwydd yn ystod yr haf yn Abertawe, mynd i’r Mwmbwls, yn cael effaith enfawr ar iechyd pobl. A dweud y gwir, mae'n debyg y byddai’n well cyfrif hyn fel gwariant ar iechyd oherwydd mae’n rhoi sylw i beth ofnadwy sy'n effeithio ar lawer iawn o bobl hŷn ac anabl: unigrwydd. Ac mae unrhyw beth sy'n ymosod ar hynny yn fudd iechyd mawr.
Mae gen i ddau gwestiwn ichi. Rydych chi'n sôn am weinyddu ar sail Cymru gyfan. Pam ddim? Mae llawer iawn o deithiau rhatach yn mynd ar draws ffiniau: i Abertawe a Chaerdydd yn y de, a byddwn yn dyfalu, er nad wyf i’n adnabod y gogledd yn dda iawn, i mewn i nifer o'r cyrchfannau ar arfordir y gogledd. Hefyd, o ran pobl ifanc 16 i 19, rwy'n meddwl y byddent yn elwa'n fawr o'r cynllun fyngherdynteithio, nid yn unig ar gyfer addysg, ac mewn ysgolion a cholegau, ond hefyd ar gyfer gweithgareddau hamdden ac, unwaith eto, i fynd allan a chwrdd â ffrindiau. Dydw i ddim yn meddwl mai dim ond yr henoed sy’n gallu dioddef o unigrwydd. Gallwch fod yn unig yn sownd gartref fel plentyn 17 mlwydd oed o flaen eich cyfrifiadur, lle mai dim ond drwy gyfrwng picselau rydych chi’n rhyngweithio’n gymdeithasol. Beth yw anfantais cynnal y cynllun fyngherdynteithio ar yr un sail orfodol yn union â'r cynllun tocynnau teithio rhatach?
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiynau? Byddwn yn cytuno bod y fenter hon wedi bod yn un o lwyddiannau mwyaf Llywodraeth Cymru, ac nid oes amheuaeth gennyf ei bod wedi cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn well, gan ei bod wedi lleihau’r pwysau ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG a'r system ofal. Mae'r Aelod yn hollol gywir, fel yr oedd Aelodau eraill yn gywir, i dynnu sylw at werth y cynllun penodol hwn o ran herio unigrwydd ac arunigedd, ac mae hyn yn rhywbeth nad yw'n effeithio ar bobl hŷn yn unig—mae Mike Hedges yn iawn—a dyna pam yr wyf yn awyddus iawn i ofyn am farn ar sut y gallwn ymestyn y cynllun ar gyfer pobl ifanc.
Mae'n ffaith drist—ac rwy’n gwybod bod nifer o Aelodau yn bresennol yn y cyflwyniad pan gawsom wybod am hyn gan Gynghrair Mersey Dee—yn y rhan honno o Gymru, ac mae'n adlewyrchu gweddill Cymru hefyd, rwy'n ofni, na all 20 y cant o bobl ifanc fynd i gyfweliadau swydd oherwydd na allant fforddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y cyfweliad. Mae hynny'n ofnadwy. Rhaid i hynny newid. Rydym yn benderfynol o newid hynny a gwneud teithio cyhoeddus yn brofiad rhyddhaol sy'n galluogi pobl i gael swyddi’n nes at eu cartrefi, neu os oes rhaid iddynt deithio ymhellach o'r cartref, mewn amgylcheddau cyfforddus a dibynadwy. Felly, byddwn yn croesawu ymgysylltiad yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn y ddau ymgynghoriad, yn enwedig o ran y cwestiwn sut y gallwn wella'r cynnig i bobl ifanc a chynifer o bobl sy'n gwneud cymaint o les i'n gwlad—gwirfoddolwyr, er enghraifft. Iawn, rwy’n derbyn, ar y cyfan, eich bod yn fwy tebygol o weld pobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch nag o grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn gwirfoddoli, ond fy marn i yw, os ydych chi'n gwirfoddoli, y dylem ni roi rhywbeth yn ôl ichi. Dylem ni barchu a chydnabod yr hyn yr ydych yn ei roi i gymdeithas, ac felly rwy'n croesawu'n fawr sylwadau'r Aelodau am y cwestiwn penodol hwnnw.
O ran newid yn syml o gynllun gwirfoddol i gynllun statudol, dyna un o'r cwestiynau—pa un a ddylem ni wneud hynny—ond rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau gymryd y cyfle wrth ateb y cwestiwn hwnnw i edrych ar y posibilrwydd o ymestyn a newid a gwella'r cynllun ehangach, oherwydd, ar hyn o bryd, er bod traean oddi ar bris tocyn teithwyr i oedolion yn ddeniadol i lawer o bobl ifanc, i eraill nid yw'n ddigon, ac mae angen inni wneud mwy i ryddhau pobl ifanc o ddiweithdra, o unigrwydd ac o arunigedd, a sicrhau ein bod yn gweld y math o newid modd yr wyf i o’r farn y mae deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni ei gyflawni.
O ran gweinyddu cenedlaethol, byddwn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod bod hwn yn rhywbeth y dylem ni ei ystyried yn ddifrifol. Dyna pam mae adran benodol yn yr ymgynghoriad ynghylch yr union fater hwn, ond, fel y dywedais, byddai angen newid deddfwriaethol, tra bo’r posibilrwydd o sefydlu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol yn un na fyddai angen newid deddfwriaethol. Rwy’n hapus i newid y gyfraith os mai dyna farn y mwyafrif o bobl a fydd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, oherwydd, yn y bôn, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod y system yn iawn i deithwyr.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r cyfle i sicrhau y gallwn ddarparu'r cynllun pwysig tocynnau teithio bws rhatach, ond nid wyf yn croesawu'r awgrym gan Blaid Cymru y dylem gadw'r system bresennol fel ag y mae hi. Rwy'n ddeiliad cerdyn bws dewisol, ond mae'n ymddangos i mi yn gwbl bosibl na fyddai angen tocyn bws rhatach ar bobl 60 oed sy’n gweithio, ac mae’n ymddangos yn gwbl anghywir bod rhaid i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dalu i fynd ar y bws i'r ysgol. Felly, rwy'n falch iawn o'ch ymrwymiad i gynyddu’r niferoedd sy'n cymudo i'r gwaith a'r ysgol, ond mewn man fel Caerdydd, mae'n wirioneddol anodd mynd ar y bws ar yr adeg pan fydd pawb eisiau cyrraedd yr ysgol a’r gwaith ar yr un pryd. Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddech chi'n ystyried cyfyngu cardiau bws i, dywedwn ni, ar ôl 09:30, mewn ardaloedd lle mae mwy o alw na darpariaeth.
Wedi ichi sôn am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a llygredd aer, sy’n rhywbeth y mae angen inni ymdrin ag ef, tybed a fyddech chi’n ystyried cymhellion i'w gwneud yn fwy deniadol i bobl ddefnyddio'r bws pan fyddant yn cymudo, er enghraifft, drwy wneud parcio drwy'r dydd yng nghanol dinasoedd yn llawer mwy cosbol fel bod pobl yn dewis gwneud y peth iawn ac, yn yr un modd, wrth edrych arno o ran—. Mae parcio am ddim mewn ysbytai i bobl sydd â char, ond dim tocynnau bws am ddim i bobl sydd angen teithio i'r ysbyty, yn ymddangos ychydig yn annheg. Rwy'n credu bod angen inni ailystyried hynny, gan ein bod ni'n gwobrwyo pobl am wneud rhywbeth yr ydym yn ceisio argyhoeddi pobl, am resymau iechyd yr amgylchedd, i beidio â’i wneud. Felly, rwy’n croesawu’r ymgynghoriad ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniad.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniadau a'i chwestiynau? Rwy'n meddwl ei bod hi'n gwneud pwyntiau diddorol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymateb gan yr Aelod. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod angen inni ddiogelu pobl sydd â’r cardiau presennol, ond rwyf hefyd yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn diogelu’r ddarpariaeth benodol hon ar gyfer y dyfodol yn wyneb yr heriau yr wyf nawr wedi'u nodi ar sawl achlysur.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol hefyd ein bod ni'n edrych ar ddefnyddio mwy ar wasanaethau bysiau i alluogi pobl sy'n wynebu anawsterau wrth gysylltu â nwyddau, gwasanaethau, ac, at ddibenion hamdden, sy'n cael trafferth cysylltu â'u ffrindiau a'u teulu. Wrth wneud hynny, mae angen inni sicrhau ein bod yn nodi'r grwpiau hynny sydd wedi'u hymylu ar hyn o bryd. Dynododd yr Aelod un grŵp penodol, sef plant pobl nad ydynt yn gallu fforddio talu am drafnidiaeth gyhoeddus. Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth y byddem yn dymuno cael barn arno.
Ond rwyf hefyd yn credu bod angen inni edrych ar feysydd gwasanaeth eraill sydd heb eu cynnwys yn y cynllun ar hyn o bryd, er enghraifft, dulliau trafnidiaeth eraill, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes bysiau. Felly, er enghraifft, a oes angen inni edrych ar ymestyn y cynllun i gynnwys gwasanaethau tacsis?
Rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn archwilio swyddogaeth gweinyddu a chost gweinyddu'r cardiau. Ar hyn o bryd, er y gallech fod yn gymwys i gael cerdyn, efallai nad ydych yn defnyddio'r cerdyn, ac felly y cwestiwn fydd: a ddylai fod cyfraniad at weinyddu'r cerdyn? Mae'n costio tua £3 y cerdyn inni ar hyn o bryd. Mae'n gwestiwn teg i’w ofyn, yn fy marn i.
Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn deg gofyn a ddylai fod cyfyngiadau ar eu defnyddio o ran amser. Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod tua chwarter y siwrneiau'n cael eu gwneud yn yr amser teithio brig, ac, felly, dri chwarter—y mwyafrif helaeth—o deithiau’n cael eu gwneud y tu allan i'r cyfnodau brig hynny. Yn y bôn, mae'r cynllun wedi cynnal gwasanaethau bws y tu allan i oriau teithio brig. Mae hynny wedi bod yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod llawer o gwmnïau bysiau wedi gallu dal i fynd yn yr amgylchedd heriol iawn y maent yn gweithredu ynddo.
Gallai awdurdodau lleol, rwy’n credu, pe byddent yn dymuno, archwilio'r strwythur codi tâl ar gyfer meysydd parcio, ac yn fy marn i, os ydym ni am gael newid moddol fel bod pobl yn gadael eu ceir ac yn defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o gyfnewidfeydd. Mae hwn yn gwestiwn a ofynnodd Mike Hedges. Rwy'n meddwl y gall y metro a'r canolfannau trafnidiaeth y gallwn eu creu drwy gyfrwng y metro ddarparu'r cyfleoedd hynny i bobl barcio eu ceir, mynd allan o'u ceir a mynd ar fysiau lleol neu ar reilffyrdd, ac rwy'n meddwl bod rhaid i hynny fod yn iawn i’r amgylchedd. Mae hynny'n dda i unigolion, a fydd yn dod yn fwy corfforol egnïol, ac mae hefyd yn fwy cynhyrchiol i'r gymdeithas oherwydd bydd gennym fwy o gysylltiad â'n gilydd. Ni allwn fyw mewn cymdeithas lle mae ein cysylltiad i gyd yn rhithwir. Mae'n gwbl hanfodol i'n lles ein bod ni'n cysylltu â'n gilydd yn fwy rheolaidd yn bersonol yn hytrach na dim ond yn rhithwir.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Wrth gwrs, rydyn ni yn UKIP yn llwyr gefnogi polisi trafnidiaeth am ddim Llywodraeth Cymru. Yn wir, roedd hwn yn un o ddim ond dau o bolisïau Llafur sy'n ymddangos eu bod wedi glynu ym meddyliau etholwyr Cymru yn ystod y blynyddoedd lawer yr wyf i wedi eu treulio’n ymgyrchu; y llall, wrth gwrs, yw presgripsiynau am ddim—polisi, gyda llaw, nad yw UKIP yn ei gefnogi, oherwydd ein bod yn credu ei fod yn arwain at lawer iawn o gamddefnyddio a gwastraffu.
O ran materion y cerdyn bws, a gaf i roi gair o rybudd? Nid yw cardiau bws, am ddim neu beidio, yn ddefnyddiol os nad yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn gyffredinol. Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio'r broses ymgynghori ar drafnidiaeth bysiau i edrych ar ffyrdd arloesol o helpu pobl sy'n cael cardiau bws am ddim i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl yr angen. Efallai y dylem edrych ar unedau cludiant bach a allai ymateb i geisiadau i godi defnyddwyr o’u cartrefi. Fel y nodwyd mewn dadleuon blaenorol, yn rhy aml rydym yn gweld bysiau mawr â lle i 50 a mwy o deithwyr yn rhedeg gyda dim ond un neu ddau o deithwyr. Ac rwy’n nodi awgrym ardderchog Jenny Rathbone yma y dylai pobl â chardiau bws a all eu defnyddio y tu allan i oriau brig wneud hynny. Yn amlwg, rydych chi wedi sôn am hynny eich hun. Ond, o gofio bod y Cynulliad hwn wedi ymrwymo i bolisi gwrth-lygredd, does bosib nad yw bysiau mawr â pheiriannau diesel mawr, sydd bron yn wag, yn gwbl groes i fodloni unrhyw dargedau lleihad. Siawns na fyddai unedau cludiant bach, lleol, hyd yn oed yn gallu rhedeg ar drydan, a fyddai'n codi ac yn cludo yn ôl yr angen, yn llawer gwell ac yn fwy cost-effeithiol na'r dulliau trafnidiaeth a ddefnyddir nawr. Rwy’n annog Ysgrifennydd y Cabinet i archwilio'r dewisiadau eraill hyn.
Diolch i David Rowlands am ei gyfraniadau ac am ei gwestiynau. Rwy'n falch bod UKIP yn cefnogi'r tocynnau bws am ddim i bobl hŷn. Mae'n anffodus nad ydynt yn cefnogi presgripsiynau am ddim i bawb. Byddai rhoi'r gorau i bresgripsiynau am ddim, yn fy marn i, yn gyfystyr â threth ar salwch, ond nid fy lle i yw ateb ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd.
O ran y pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, efallai y bydd yn cofio, yn ôl ym mis Ionawr, fy mod wedi lansio cynllun busnes pum pwynt, ac roedd hynny mewn ymateb i fethiant nifer o gwmnïau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys efallai y mwyaf adnabyddus, bysiau GHA. Rhan o'r cynllun pum pwynt oedd y byddai Busnes Cymru yn cynorthwyo gweithredwyr bysiau lleol i ganfod modelau busnes mwy cynaliadwy, ac mae rhan o'r gwaith hwnnw, yn ei dro, wedi canfod bod angen defnyddio cerbydau mewn modd mwy deallus. Nid dim ond David Rowlands yw hyn. Mae Lee Waters hefyd wedi sôn wrthyf ar nifer o achlysuron am yr angen i weithredwyr bysiau ddefnyddio cerbydau llai, lle maent yn gwybod mai dim ond cerbyd bach fydd ei angen ar daith. Nid yw'n dda i'r amgylchedd, nid yw'n dda i gynaliadwyedd cwmnïau bysiau, eu bod yn defnyddio cerbydau drud na fyddant byth yn llawn o ran y teithwyr sydd arnynt. Hoffwn weld y gwaith hwnnw gan Busnes Cymru yn parhau, a hoffwn weld mwy o gwmnïau bysiau lleol yn cael cymorth gan gynghorwyr arbenigol.
Rwy’n credu, o ran y gwasanaethau sydd ar gael, bod yr Aelod yn codi pwynt diddorol iawn, sef y byddwn yn y dyfodol yn gweld newid eithaf radical yn y ffordd y mae'r cyhoedd yn symud o gwmpas. Gyda dyfodiad Uber a gweithredwyr eraill, mae'n debyg y byddwn yn gweld nifer cynyddol o weithredwyr yn cynnig math o drafnidiaeth gyhoeddus a fyddai wedi cael ei ddarparu gan gwmnïau bysiau bach yn draddodiadol, ond y gellid eu darparu gan gerbydau cysylltiedig, ac felly mae'n gwbl bosibl y byddwn yn gweld tacsis yn gweithredu'n fwy fel bysiau bach. Mae hynny wedyn yn cyflwyno her i'r gweithredwyr bysiau presennol, ond mae'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i'm swyddogion weithio drwyddo ac archwilio ei botensial yn y dyfodol. Rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar sut y gallwn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb a allai gael y cardiau hyn, ac am y rheswm hwnnw, rwyf wedi cynnwys cwestiwn yn yr ymgynghoriad i ofyn a ydym ni’n ymestyn y cerdyn cydymaith i ddau o bobl. Ar hyn o bryd mae'n berthnasol i un unigolyn yn unig sy'n helpu pobl anabl, ond rwy’n meddwl bod angen inni ofyn a oes angen dau gydymaith.
Diolch. Mae gen i nifer o siaradwyr ar ôl, felly rwy’n mynd i ofyn am gyflwyniad byr iawn i'ch un cwestiwn, ac yna, felly, caiff y pedwar ohonoch gyfle. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i eisiau canolbwyntio ar y mater o deithio ar fysys yng nghefn gwlad. Un peth sy’n fy ngwylltio i’n fwy na dim byd wrth imi deithio o gwmpas gorllewin a chanolbarth Cymru yw gweld bysys cyhoeddus yn teithio o gwmpas yn costio miloedd ar filoedd o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus, a thro ar ôl tro rydw i’n gweld nesaf i neb yn eu defnyddio nhw. Mae’r mater o sicrhau bod hen bobl, yn enwedig, yn gallu teithio o gwmpas ein cefn gwlad ni yn hynod o bwysig, ond fy ngofid i yw ein bod ni’n gosod atebion sy’n briodol ar gyfer ein dinasoedd a’n trefi ar gefn gwlad Cymru, lle byddai system sy’n fwy hyblyg ag sy’n ymateb i ofynion yr unigolyn yn fwy perthnasol.
Mae’n od: rydw i’n cytuno â David Rowlands— ar y mater yma yn unig, jest fel ein bod ni’n glir. Ond, rydw i yn meddwl bod yn rhaid i ni hefyd feddwl am y dyfodol, ac am geir trydanol. Rydw i’n meddwl bod yna chwyldro ar fin dod, ac mae hwn yn fater lle mae’n rhaid i ni gymryd hwn o ddifri. Wrth gwrs bod yn rhaid i ni gael bysys i gymryd myfyrwyr, er enghraifft, i goleg neu’r ysgol, ond mae’r mater yma o gael system hyblyg lle, er enghraifft, fydd e ddim yn hir nawr cyn ein bod ni’n cael ceir trydanol heb yrwyr—. Yng nghefn gwlad Cymru, fel ym mhob ardal arall, bydd angen i’r ceir yma ddarllen y ffyrdd. Ni allant darllen y ffyrdd os nad oes paent gwyn ar ochr pob ffordd. Mae yna ffyrdd mewn ardaloedd anghysbell lle nad yw hynny’n bodoli. Rydw i’n meddwl y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifri am sut y mae hynny’n mynd i ddigwydd yng nghefn gwlad Cymru, a’n bod ni’n symud tuag at system lle rydym ni’n defnyddio ceir trydanol heb yrwyr yn ein ardaloedd cefn gwlad. Dyna yr hoffwn i ei glywed oddi wrthych chi heddiw.
Ydych chi'n dod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
A yw hynny’n rhywbeth yr ydych yn fodlon ystyried? Diolch.
A gaf i ddiolch i Eluned Morgan am ei chwestiwn? Rwy'n meddwl ei bod hi'n codi maes astudio cyffrous iawn, iawn ar hyn o bryd, ac mae'n un o'r meysydd gwaith y bydd y parc technoleg modurol yng Nglynebwy yn eu harchwilio, oherwydd rwy’n meddwl bod arbenigwyr nawr—yn wir, mae Paul Davies, o fewn Diwydiant Cymru, sydd wedi nodi'r angen i sicrhau nad yw cerbydau awtonomaidd cysylltiedig yn cael eu cynhyrchu ar gyfer defnydd trefol yn unig, ond y cânt eu gweithgynhyrchu ar gyfer defnydd gwledig hefyd. Am y rheswm hwnnw, rwy'n awyddus i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth ddatblygu rhaglen awtonomaidd wledig, oherwydd gallai fod yn rhywbeth y gallem ei werthu, ei gyflwyno, diogelu hawliau deallusol ar ei gyfer, a’i gyflwyno ledled y DU ac, yn wir, mewn llawer o'r byd gorllewinol a rhannau mwy gwledig o rannau llai datblygedig o'r byd. Felly, rwy’n meddwl, wrth inni ddarganfod potensial cerbydau trydan, ein bod hefyd yn cofio y bydd cerbydau cysylltiedig a cherbydau awtonomaidd yn arwain, efallai, at lai o bobl yn bod yn berchen ar eu cerbydau eu hunain, ond yn hurio, yn rhentu cerbydau awtonomaidd sy’n eu gyrru eu hunain. Gallai hynny yn ei dro arwain at lai o geir wedi’u parcio ar dramwyfeydd ac ochr ffyrdd a mwy o geir yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd am fwy o'r amser ar ein ffyrdd. Mae'n cynnig cyfleoedd enfawr, heriau mawr, ond mae'n rhywbeth y mae fy adran, fy swyddogion yn edrych arno ar hyn o bryd, yn sicr gan ystyried nid yn unig sut y gallwn ddatrys problemau a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer ardaloedd trefol, ond sut y gallwn ni fodelu atebion pwrpasol i ardaloedd mwy gwledig hefyd.
Rwy’n sylwi, ym Mryste, y gall rhywun ifanc deithio o fewn y parth mewnol drwy'r dydd, gymaint ag y maen nhw ei eisiau, ar fws, am gwpl o bunnoedd. Dyna drafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy, go iawn. Rwy'n gwybod mai canol dinas ydyw, ond dim ond £1.50 yn fwy ydyw i fynd i'r cylch allanol hefyd. Nawr, dyna'r sefyllfa ddelfrydol. Felly, a gaf i awgrymu, os edrychwch ar Ben-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, fel canolbwynt—mae pobl yn teithio i Ben-y-bont ar Ogwr o'r Cymoedd ac allan mor bell â Chaerdydd ac allan mor bell i'r gorllewin ag Abertawe—bod yna gylch mewnol ac allanol delfrydol? Dylai fod yn fforddiadwy, dim mwy na phunt neu ddwy, i unrhyw un sy'n ei ddefnyddio, ac rwyf wrth fy modd â'r syniad o ddweud wrth bobl ifanc, ‘Cewch chi ei gael am ddim’, os gallwn ni fforddio gwneud hynny, oherwydd nid dim ond mater o ddysgu’r arfer iddynt yw hyn, ond, os ydych chi'n gweithio mewn swydd ran-amser, achlysurol, lle, yn wir, maen nhw'n talu'r isafswm cyflog neu lai ichi, maen nhw'n eich galw chi i mewn pan fyddan nhw eisiau, bod gofyn iddynt dalu pumpunt i deithio yno ac yn ôl y tu hwnt i bob rheswm i'w wneud yn fforddiadwy. Felly, dyna syniad perffaith o ddefnyddio canolfan, ac mae angen parthau arnom y gall pobl eu deall yn eu hardaloedd teithio i weithio.
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiynau? Mae’n codi pwynt pwysig iawn—mae'n cael sylw ar dudalen 12 y ddogfen ymgynghori, y cwestiwn a ddylid cyflwyno cynllun cyfraniad defnyddiwr. Nawr, mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i weld ym Mryste ac mewn rhannau eraill o'r DU hefyd. Mae Merseytravel yn gweithredu cynllun y credaf ei fod yn codi £1.50 ar bobl ifanc am docyn sengl, ond £2 am 'unrhyw le, unrhyw bryd' yn ystod y diwrnod penodol. Mae hyn yn hynod bwysig wrth inni ystyried cost teithio cyhoeddus i bobl ifanc. Felly, mae'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â'r cynllun cyfraniadau posibl, ac rydym yn gofyn a fyddai cost unrhyw daith—ac y byddwn yn ei seilio o bosibl, nid ar barthau yn unig, ond 'unrhyw bryd, unrhyw le', fel y gallai fod yr un mor berthnasol i ardaloedd gwledig ag i ardaloedd trefol. Rydym wedi nodi efallai 20c, 50c, £1 neu £2—neu gall ymgyngoreion ymateb gyda'u swm awgrymedig eu hunain. Ond rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth y mae angen inni ei gymryd o ddifrif a’i ystyried yn ofalus iawn.
Roeddech yn holi Russell George yn gynharach ynglŷn â chostiadau’r Ceidwadwyr ar gyfer y cynnig trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc a gyhoeddwyd gennym yr wythnos diwethaf, a gallaf eich sicrhau eu bod wedi’u costio'n llawn, a byddwn yn hapus iawn i rannu'r costiadau hynny â chi. Yn wir, mae'r costiadau hynny’n seiliedig ar gostiadau'r cynllun tocynnau teithio rhatach presennol a’u cymhwyso'n uniongyrchol i bobl ifanc a fyddai'n gymwys. Hoffwn ofyn dau gwestiwn, os caf i, yn fyr iawn. Mae'r cyntaf yn ymwneud—[Torri ar draws.] Mae'r cyntaf yn ymwneud â chostau'r cynllun fyngherdynteithio presennol. Mae'n fy nharo, ar gyfer nifer yr unigolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun hwnnw, nad oedd y ffigurau ar gyfer 2016-17 yn bell o fod yn werth £1,000 i bob unigolyn a oedd yn cymryd rhan. Mae hynny'n ymddangos yn rhyfeddol pan ystyriwch y gallwch brynu tocyn blynyddol gyda'r rhan fwyaf o weithredwyr bysiau am lai na £500, a bod hynny'n talu am eich holl deithiau, nid dim ond rhoi traean i ffwrdd ichi.
Hefyd, gwnaethoch gyfeiriad cryno at deithio ar y rheilffyrdd yn eich datganiad. Wrth gwrs, gall myfyrwyr fanteisio ar gardiau rheilffordd myfyrwyr ar hyn o bryd, sy'n aml iawn—. Yn wir, maent ar gael ar hyn o bryd am £15, a fyddai'n rhoi traean i ffwrdd o'u tocynnau trên iddynt. Mae'n fy nharo bod myfyrwyr yn arbennig yn aml yn gorfod gwneud teithiau hir, yn enwedig i fynd i’w lleoedd addysg uwch ac yn ôl, i fynd yn ôl at eu teuluoedd. A wnewch chi edrych o ddifrif ar ein cynigion i ymestyn—i bob diben, i wneud pob person ifanc yng Nghymru yn gymwys i gael cerdyn trên person ifanc—o fewn y cynnig hwn yr ydych yn ei adolygu ar hyn o bryd?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n credu, yn gyntaf oll, wrth ddadansoddi'r data yr ydych wedi’u darparu hyd yn hyn am eich cynnig, y dylwn dynnu sylw at y ffaith eich bod yn sôn am gynnig teithio am ddim—nid gostyngiad, ond teithio am ddim—i bob person ifanc, rwy’n meddwl, hyd at 24 oed, gan gynnwys—
Un ar bymtheg i 24.
Un ar bymtheg i 24. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun—[Torri ar draws.] Wedi'i gostio â chyfrifiannell amheus o siop jôc, rwy'n meddwl. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn darparu tua 1.5 miliwn o deithiau teithwyr y flwyddyn ac yn costio £1 miliwn, ond dim ond am draean i ffwrdd. Pe byddech chi wedyn yn cyfrifo 35 miliwn o deithiau teithwyr, rydych chi'n edrych ar lawer iawn mwy, sy'n ei wneud yn anfforddiadwy o fewn yr amlen gyllideb bresennol a ddefnyddiwyd ar ei gyfer. Serch hynny, fel y dywedais i wrth Russell George, rwy’n croesawu eich cyfraniad at y ddadl bwysig hon, ac os gall y ffigurau—[Torri ar draws.] Ac os gall y ffigurau adio—
Rydych chi wedi gofyn y cwestiwn; gwrandewch ar yr ateb, os gwelwch yn dda.
Ac, os yw'r ffigurau'n adio’n iawn, rydym yn fwy na pharod i asesu eu buddion. Ond, o ran y cwestiwn ehangach ynghylch faint yr ydym yn ei roi i mewn a faint yr ydym yn ei gymryd allan, mae'r Aelod yn hollol gywir. Ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd, mae'n costio £1 miliwn. Mae yna o gwmpas, ar hyn o bryd, 17,500 o ddeiliaid cardiau; bu 1.5 miliwn o deithiau teithwyr. Cymharwch hynny â’r mwy na £0.25 biliwn yr ydym wedi'i roi i mewn i wasanaethau bws at ei gilydd fel Llywodraeth a gyda llywodraeth leol ar gyfer 101 miliwn o deithiau teithwyr y flwyddyn. Rwyf wedi bod yn glir iawn yn y gorffennol, ac rwy’n mynd i'w ddweud eto heddiw, nad wyf yn credu bod y trethdalwr yn cael cymaint allan o'r gwasanaethau bws ag yr ydyn ni'n ei roi i mewn ynddynt, ac felly bydd diwygio trafnidiaeth gyhoeddus y flwyddyn nesaf yn hanfodol bwysig i gael gwerth am arian, i gael gwasanaethau sy'n fwy atebol i anghenion trethdalwyr a theithwyr, ac i sicrhau ein bod yn hybu ansawdd ym mhob maes.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.