5. 5. Datganiad: Adolygiad Cyflym o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 10 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:16, 10 Hydref 2017

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi gosod sylfaen gryf ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg, ond mae cymaint wedi newid ers i’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ddod i rym statudol. Mae’n rhaid inni nawr addasu a moderneiddio’r ffordd yr ydym ni yn cynllunio addysg Gymraeg er mwyn adlewyrchu uchelgais ‘Cymraeg 2050’, gan gydnabod bod addysg yn gatalydd allweddol ar gyfer newid.

Yn yr haf eleni, mi wnes i ddatgan cynllun y Llywodraeth i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mi fydd hyn yn gofyn am uchelgais, cefnogaeth ac arweiniad gan awdurdodau lleol, llywodraethwyr, penaethiaid ysgolion ac, wrth gwrs, rhieni a phlant eu hunain. Er mwyn cyrraedd ein targed o 40 y cant o ddysgwyr yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid i bob un ohonom ni gydweithio gyda’n gilydd.

Cefais fy siomi gan y diffyg uchelgais o fewn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar ddechrau’r flwyddyn, a dyna pam cafodd Aled Roberts ei benodi i gynnal adolygiad brys o’r system, ynghyd â chysylltu â’r awdurdodau lleol i drafod eu cynlluniau cyfredol. Dirprwy Lywydd, mae ‘adolygiad brys’ yn ddisgrifiad teg o’r wibdaith o amgylch Cymru a gyflawnodd Aled Roberts. Rwy’n hynod ddiolchgar iddo, ac i’r 22 o awdurdodau lleol am eu cydweithrediad ar fyr rybudd, ynghyd â rhanddeiliaid eraill am eu mewnbwn ac ymroddiad. Mae’n bwysig i ni i gyd nodi bod lot fawr o bobl ar draws y wlad wedi cydweithio’n galed iawn gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd y nod lle’r ydym ni i gyd eisiau bod.