– Senedd Cymru am 4:15 pm ar 10 Hydref 2017.
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar yr adolygiad cyflym o’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar gyfer 2017 i 2020, ac rwy’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i wneud y datganiad.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi gosod sylfaen gryf ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg, ond mae cymaint wedi newid ers i’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ddod i rym statudol. Mae’n rhaid inni nawr addasu a moderneiddio’r ffordd yr ydym ni yn cynllunio addysg Gymraeg er mwyn adlewyrchu uchelgais ‘Cymraeg 2050’, gan gydnabod bod addysg yn gatalydd allweddol ar gyfer newid.
Yn yr haf eleni, mi wnes i ddatgan cynllun y Llywodraeth i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mi fydd hyn yn gofyn am uchelgais, cefnogaeth ac arweiniad gan awdurdodau lleol, llywodraethwyr, penaethiaid ysgolion ac, wrth gwrs, rhieni a phlant eu hunain. Er mwyn cyrraedd ein targed o 40 y cant o ddysgwyr yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid i bob un ohonom ni gydweithio gyda’n gilydd.
Cefais fy siomi gan y diffyg uchelgais o fewn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar ddechrau’r flwyddyn, a dyna pam cafodd Aled Roberts ei benodi i gynnal adolygiad brys o’r system, ynghyd â chysylltu â’r awdurdodau lleol i drafod eu cynlluniau cyfredol. Dirprwy Lywydd, mae ‘adolygiad brys’ yn ddisgrifiad teg o’r wibdaith o amgylch Cymru a gyflawnodd Aled Roberts. Rwy’n hynod ddiolchgar iddo, ac i’r 22 o awdurdodau lleol am eu cydweithrediad ar fyr rybudd, ynghyd â rhanddeiliaid eraill am eu mewnbwn ac ymroddiad. Mae’n bwysig i ni i gyd nodi bod lot fawr o bobl ar draws y wlad wedi cydweithio’n galed iawn gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd y nod lle’r ydym ni i gyd eisiau bod.
Mae adroddiad Aled yn cynnig 18 o argymhellion ar gyfer datblygu’r cynlluniau i’r dyfodol. Mi fyddwn ni’n derbyn pob un o’r argymhellion. Mae’r broses hon wedi cynnig gorolwg annibynnol i mi o’r hyn sydd angen ei newid, a sut y gallwn ni weithredu’r newidiadau hynny mewn ffordd gynhwysol. Mae Aled wedi cynnig adolygiad i ni o gynlluniau pob un awdurdod lleol. Ar ddechrau mis Awst, mi wnes i lythyru’r awdurdodau er mwyn rhannu ei sylwadau. Mae fy swyddogion i wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r awdurdodau yn ystod y misoedd diwethaf er mwyn diwygio, cefnogi a herio’r cynlluniau. Rydym ni yn disgwyl derbyn y cynlluniau diwygiedig o fewn yr wythnosau nesaf.
Mae adroddiad Aled hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae’r argymhellion yn cynnwys adolygiad o amserlenni’r WESPs i gyd-fynd â rhaglenni cyfalaf Llywodraeth Cymru, yn arbennig y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac y dylid targedu’r buddsoddiad cyfalaf er mwyn sicrhau cysylltiad rhwng rhaglenni ysgolion a chyn ysgol. Yn ail, dylid sefydlu panel neu fwrdd er mwyn trafod a phwyso a mesur y newidiadau sydd eu hangen i’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyn iddynt gael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad. Yn drydedd, cryfhau’r berthynas strategol rhwng llywodraeth leol a Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau twf ar lefel pob sir a fydd yn cyfrannu at dargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar hyd y daith at 2050. Yna, symleiddio proses categoreiddio ieithyddol ysgolion; a chynllunio a gweithredu brys er mwyn cynyddu’r nifer o athrawon sydd yn cael eu hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg.
Llywydd, un o’r argymhellion oedd sefydlu bwrdd, ac rydw i eisiau symud ymlaen i sicrhau bod yna gynrychiolaeth o bob rhan o’r sector addysg yn rhan o’r bwrdd yma. Rydw i wedi datgan sawl tro na all y Llywodraeth wneud hyn ei hun ac mae angen i bawb sydd â rôl yn addysgu ein pobl ifanc gymryd rhan ar y siwrnai hon.
Mi fydd cynlluniau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ganolog i dwf addysg Gymraeg. Bydd unioni’r wybodaeth sydd o fewn y cynlluniau strategol a cheisiadau busnes ar gyfer pob un awdurdod lleol am gyllid yn sicrhau cysondeb. Rydym ni eisoes wedi sicrhau bod y cylch nesaf o fuddsoddiad cyfalaf yn cymryd ystyriaeth o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 1 miliwn o siaradwyr, ac mae cynlluniau drafft cynnar yr awdurdodau lleol yn edrych yn addawol. Ond gadewch imi fod yn gwbl glir: ni fyddaf i’n cymeradwyo dim un cynllun sydd ddim yn dangos uchelgais. Mi fyddaf i’n parhau i drafod gydag awdurdodau lleol hyd nes y byddwn ni wedi derbyn cynlluniau sydd yn adlewyrchu uchelgais ‘Cymraeg 2050’.
Mae’n bwysig nodi bod rhagamcanion poblogaeth ysgolion yn awgrymu y bydd niferoedd yn eithaf statig rhwng y 10 ac 20 mlynedd nesaf, ac felly mi fyddaf i’n gofyn i’r cynlluniau diwygiedig hyn ystyried dulliau arloesol ar gyfer tyfu’r ddarpariaeth. Mi fydd hyn yn gofyn am fwy nac agor ysgolion newydd yn unig. Mi fydd y Llywodraeth, gyda chymorth ac arweiniad y bwrdd, hefyd yn archwilio opsiynau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ieithyddol er mwyn cynnig gwell eglurder ar natur y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn ein hysgolion ni.
Sialens amlwg arall fydd sicrhau niferoedd digonol o fewn ein gweithlu addysg er mwyn cwrdd â’r cynnydd yr ydym ni’n anelu at ei weld. Mi ddaru’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg gyhoeddi rhai wythnosau yn ôl ei bwriad i fuddsoddi £4.2 miliwn o’r gyllideb addysg i ddatblygu gweithlu sydd â’r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd hyn yn cynnwys ehangu ar y cynllun sabothol—£1.2 miliwn—ac ehangu rôl y consortia addysg gyda £2 miliwn.
Felly, er ein bod ni wedi cychwyn ar ein taith i weithredu’r newidiadau angenrheidiol i weld twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, nid oes gen i ddim amheuaeth bod angen gwneud mwy. Mae’n rhaid i ni ddeddfu i gryfhau ac mae’n rhaid i ni edrych mewn mwy o fanylder ar y strwythurau presennol, rôl y consortia a sut ydym yn datblygu dulliau clir ac effeithlon o adnabod y galw am addysg Gymraeg.
Llywydd, yn unol â’n hymrwymiad i ymateb i’r sialensiau uchelgeisiol yr ydym yn eu hwynebu yn yr hirdymor i sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, mi fyddaf i fel Gweinidog yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn gweithio i Gymru gyfan. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am gael copi ymlaen llaw o'r datganiad y prynhawn yma? Fel yntau, roeddwn yn siomedig iawn o weld y prinder uchelgais yn rhai o gynigion a chynlluniau'r awdurdodau addysg lleol a gafodd eu cyhoeddi. Roeddwn yn falch iawn o groesawu'r adolygiad cyflym a gyhoeddodd ef yn gynharach eleni, sydd bellach wedi'i gwblhau gan ein cyn-gydweithiwr yn y Cynulliad, Aled Roberts. Rydym i gyd yn gwybod na fyddwn ni'n cyrraedd y targed uchelgeisiol o sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru heb gynyddu nifer y bobl ifanc a phlant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, yn wir, mae angen inni wthio'r uchelgais honno, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau addysg strategol newydd, a ddaw gan yr awdurdodau lleol maes o law.
Cyfeiriodd y Gweinidog at y ffaith fod rhywfaint o ohebiaeth wedi bod rhyngddo ef ag awdurdodau lleol am y cynlluniau hynny. Ys gwn i, Gweinidog, a fyddech chi'n cyhoeddi’r ohebiaeth ohono i’w chofnodi, fel y gallwn weld beth yn union a wnaethoch i herio'r awdurdodau lleol hynny? Credaf i, er tryloywder, ac er mwyn i bawb allu cytuno ag ef a chefnogi’r awgrymiadau yr oedd yn eu gwneud, y byddai'n dda cael gweld hynny ar gofnod cyhoeddus.
Rwyf hefyd yn nodi, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi cyfeirio, yn gwbl ddilys, at y cynnig i sefydlu bwrdd i gyflawni’r gwelliannau ac mae wedi awgrymu y bydd y bwrdd hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr o bob sector ym myd addysg. Roeddwn yn arbennig o falch o'i glywed yn cyfeirio at y sector addysg feithrin, y ‘cylch meithrin’. Yn wir, byddwn yn mynd mor bell â dweud fy mod wedi ymweld â’m cylch meithrin lleol yn Abergele, a oedd yn dathlu ei hanner canmlwyddiant ddydd Gwener, a gallaf weld pa mor werthfawr ydyw a chymaint o ased ydyw i'r gymuned leol. Y llwyddiant hwnnw, gyda’r plant o oedran cynnar iawn, sydd yn annog y rhieni hynny i symud eu plant ymlaen i addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg ac, yn wir, sydd yn rhoi'r hyder iddyn nhw i alluogi'r plant hynny i fynd ymlaen i addysg uwchradd.
Un maes nad ydych chi wedi siarad llawer amdano yn eich datganiad, mewn gwirionedd, yw swyddogaeth y sector addysg bellach. Tybed a oes modd ichi ddweud wrthym i ba raddau y maen nhw’n ymgysylltu ag awdurdodau lleol, oherwydd, yn amlwg, un o'r gwendidau a nodwyd gan Aled Roberts oedd yr angen i sicrhau bod dilyniant yn cael ei alluogi, os hoffech chi, a bod twf sylweddol mewn addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwyddom nad yw hyn yn digwydd fel y dylai ar hyn o bryd, ac mae gennym blant a phobl ifanc sy’n gadael addysg uwchradd ac yn awyddus i fynd ymlaen i addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg, ac nid oes modd iddyn nhw gael hynny. Ac os yw ar gael, rhyw fath o ffug ddarpariaeth ydyw, oherwydd yn aml iawn mae’n golygu sefyll arholiadau trwy gyfrwng cyfieithwyr yn hytrach na gallu dilyn holl gwmpas eu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydych chi hefyd wedi cyfeirio yn eich datganiad at swyddogaeth werthfawr gwaith ieuenctid—gwaith ieuenctid yn y Gymraeg—a gwn mai un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn edrych arnyn nhw yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yw'r ddarpariaeth o waith ieuenctid ledled Cymru. Un o'r pryderon a nodwyd gennym yn ein hadroddiad diweddar oedd yr angen i sicrhau bod y ddarpariaeth o waith ieuenctid ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. O gofio mai cymunedau ffydd ledled Cymru sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth unigol fwyaf o waith ieuenctid yn y wlad, a wnewch chi ddweud wrthyf ba weithgaredd sy'n digwydd o ran ymgysylltu â'ch Llywodraeth chi? Pa fath o ymgysylltiad yr ydych chi'n disgwyl i'r awdurdodau addysg lleol ei gael gyda chymunedau ffydd, o ystyried eu bod yn ddarparwyr mor bwysig? Ac os oes modd cefnogi rhai o'r cymunedau ffydd hynny i gyflwyno mwy o Gymraeg yn eu darpariaeth, a fyddai hynny’n rhywbeth y byddai gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb ynddo?
Nodaf hefyd eich bod wedi cyfeirio at yr amcanestyniadau poblogaeth a ragwelir yng Nghymru o ran niferoedd plant ysgol, a bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hyn fod yn weddol sefydlog dros y 10 i 20 mlynedd nesaf. Gwyddom fod cynlluniau datblygu lleol yn cael eu cyflawni ledled y wlad, lawer ohonyn nhw â thwf tai sylweddol. Yn y Gogledd, pe byddech yn cyfuno'r cynlluniau datblygu lleol unigol, credaf fod tua 100,000 o gartrefi newydd yn mynd i gael eu codi yn ystod gweithredu’r cynlluniau hynny. Mae hynny'n enfawr—. Mae'n ddrwg gen i, 100,000 o ran twf poblogaeth yw hynny, ddim ond yn y Gogledd yn unig. Rwy'n amau bod lefelau twf tebyg yn cael eu cynllunio ar gyfer mannau eraill. A wnewch chi ddweud wrthym a ydych yn ystyried y twf hwnnw yn eich ffigurau poblogaeth amcanestynedig? Hefyd, a wnewch chi ein hysbysu o’r hyn y disgwyliwch i awdurdodau lleol ei wneud o ran yr arian adran 106 a allai fod ar gael o ganlyniad i'r twf hwnnw, i’w fuddsoddi yn y seilwaith cyfalaf i gefnogi twf darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cymunedau a allai gael eu heffeithio?
Rwy’n bryderus, a dweud y gwir, nad yw'r asesiadau effaith presennol ar yr iaith Gymraeg, y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgymryd â nhw o ran datblygiadau dros faint penodol, bob amser yn chwilio am gyfleoedd, drwy eu cytundebau adran 106, i ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu cymunedau. Rwyf i o’r farn fod hynny'n rhywbeth y bu ychydig o ddiffyg gweld yn ei gylch, ac efallai y gallwch ddweud wrthym a yw’n rhywbeth sy'n ymddangos yn thema yn rhai o'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft a gafodd eu cyflwyno i chi.
Yn olaf, o ran amserlen unrhyw ddeddfwriaeth a allai ddod i'r amlwg ar ôl sefydlu’r bwrdd, wrth gwrs, rwy’n tybio y byddwch yn gofyn iddo archwilio sut y gellir fframio'r ddeddfwriaeth orau a chyflwyno cynigion ger eich bron chi. Ond mae’n amlwg fod angen inni wneud rhywfaint o gynnydd yn gyflym yn y Cynulliad hwn i bennu’r llwybr ymlaen fel y gallwn gyflawni'r uchelgais sydd yn 'Cymraeg 2050'. Hoffwn i weld amserlen glir iawn ar gyfer y bwrdd hwnnw, fel y gallwn ni eich dal chi i gyfrif fel Gweinidog y Llywodraeth i gyflwyno yn ôl yr amserlen honno. Tybed a oes gennych unrhyw syniad ar hyn o bryd pa bryd y byddwch yn disgwyl i'r bwrdd adrodd yn ôl i chi—gwn nad yw wedi cael ei sefydlu eto, ond i adrodd yn ôl i chi o ran amserlen unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer y fframwaith a allai fod yn angenrheidiol. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y ffordd adeiladol y mae wedi mynd i’r afael â'i sylwadau y prynhawn yma. Credaf fod cytundeb bras ar y dadansoddiad sylfaenol yr ydym wedi'i wneud ar bob ochr i'r Siambr, a chytundeb bod angen inni i gyd rannu'r un uchelgais, a maint yr uchelgais, ar gyfer y cynlluniau ym mhob ardal awdurdod lleol.
A gaf i ddweud wrtho—? Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, y cytunwyd arno, erbyn diwedd y flwyddyn. Yna, byddaf yn edrych ar sut yr ydym yn cyhoeddi'r holl wybodaeth gynhaliol a chefnogol, ac yn edrych ar sut yr ydym yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar yr Aelodau, nid yn unig er mwyn ein dal ni i gyfrif o ran y penderfyniadau a gymerwn ni, ond hefyd er mwyn deall y ffordd yr ydym wedi datblygu polisi yn y maes hwn, a galluogi eraill i ddeall y broses yr ydym wedi mynd trwyddi dros y cyfnod diwethaf.
Rwyf wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y maes hwn, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi bod yn gyson wrth geisio codi pontydd bob amser ac wrth geisio dod i gytundeb bob amser. Rwyf wedi ceisio annog, cefnogi, galluogi, hwyluso. Rwyf wedi ceisio cael trafodaeth yn hytrach na dim ond anfon llythyrau a gofynion a gorchmynion o'r lle hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y dull hwn o weithredu yn dwyn ffrwyth, a gobeithio y bydd y cydweithio, ledled ein gwlad, yn un a fydd yn cael cefnogaeth eang ar bob ochr i'r Siambr eto heddiw.
O ran sefydlu'r bwrdd, fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn bwrw golwg ar ba mor gyflym y gallwn symud ymlaen ar wneud hyn. Rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau ar ddeddfwriaeth. Yn amlwg, cyhoeddais Bapur Gwyn ar yr iaith Gymraeg yn yr haf. Nid yw'r cynigion hyn yn rhan o'r Papur Gwyn hwnnw. Er hynny, nid oes gennyf unrhyw gynigion ffurfiol hyd yn hyn ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w wneud yw edrych ar y cydgysylltiad rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw rhai o'r meysydd hyn a bydd angen inni gael barn ystyrlon ar sut yr ydym yn mynd ati i gael fframwaith statudol cyfannol a chynhwysfawr sy'n ein galluogi i wneud y penderfyniadau hyn, ond hefyd sy'n ein galluogi i gael cydlyniad ar y llyfr statud. Felly, byddaf yn edrych ar y berthynas rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a phan fyddwn mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau ar hynny, byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Siambr hon.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn maddau i mi am fod ychydig yn betrus gydag amserlennu yn hyn o beth. Rwy’n dymuno gallu ystyried y cynigion yr wyf wedi'u gwneud yn y Papur Gwyn yn gyntaf. Rwy’n dymuno gallu sicrhau bod gennym gydlyniad yn y maes polisi hwnnw, ac yna sicrhau bod gennym gydlyniad o ran ein cyfres bresennol o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac yna ddysgu gwersi o’r ddau orchymyn polisi hynny cyn dod at ein gilydd i roi eglurder pellach o ran sut y byddwn yn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yn y maes hwn. Ond, yn sicr, byddaf yn dod yn ôl i'r Siambr i wneud datganiadau pellach ar yr holl faterion hynny.
O ran symud ymlaen, mae'r materion ynglŷn â’r blynyddoedd cynnar ac addysg feithrin yn feysydd yr wyf wedi bod yn rhoi ystyriaeth ddofn iddyn nhw. Rydym yn ymwybodol o nifer o enghreifftiau—mae Ysgrifennydd y Cabinet yn fy atgoffa am sefyllfa yn ei hetholaeth hi yn Llanfair-ym-Muallt lle mae cylch meithrin wedi arwain at dwf addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dref honno. Mae'n enghraifft ddiddorol, rwy'n credu, o’r hyn allasai fod yn bosibl mewn ardaloedd eraill hefyd.
Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweld twf sylweddol yn y profiad o’r iaith Gymraeg gan blant yn y blynyddoedd cynharaf. Rwy’n dweud hynny mewn ystyr eang iawn, oherwydd bydd yna leoliadau amrywiol a chymwys, sy’n darparu gwahanol lefelau o'r iaith mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ond yr hyn y byddwn yn gobeithio ei wneud yw sicrhau bod gan bob plentyn, o'r oedran ieuengaf posib, brofiad o wrando a chlywed a dysgu siarad Cymraeg, p'un a ydynt yn mynd ymlaen i addysg ffurfiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Felly, gobeithio y byddwn yn gallu rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hynny.
O ran y sector AB, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad am hyn dros yr haf o ran y grŵp gorchwyl a gorffen y mae Delyth Evans wedi'i gadeirio a'i arwain, a bydd datganiadau pellach ar sut y byddwn yn symud hynny ymlaen yn yr wythnosau nesaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cwrdd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ystyried goblygiadau gwaith Delyth Evans a byddwn yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny maes o law.
O ran gwaith ieuenctid, rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed ac rwy'n credu bod y defnydd o'r iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth a'r iard yn hollbwysig. Rwy'n gobeithio y bydd grwpiau ffydd yn chwarae eu rhan yn hynny ac y bydd pob grŵp mewn gwahanol gymunedau yn chwarae rhan wrth alluogi pobl i gymdeithasu, a phobl ifanc yn arbennig i gymdeithasu, trwy gyfrwng y Gymraeg.
O ran cynlluniau datblygu lleol, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwnc llosg yn lleol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Rwyf wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd i drafod sut y gallwn fynd â'r materion hyn yn eu blaenau. Rydym yn ystyried ein safbwynt ar hynny o hyd. O’m rhan fy hunan, ni welaf unrhyw reswm o gwbl pam na all awdurdodau lleol sicrhau y bydd unrhyw ysgolion a gaiff eu hadeiladu yn rhan o gytundebau 106 mewn cynlluniau datblygu lleol sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan o hynny.
Yn amlwg, eto, mewn gwahanol leoliadau mewn gwahanol gymunedau, bydd gennym wahanol ganlyniadau o'r ystyriaeth honno. Ond ymddengys i mi nad oes rheswm o gwbl, yn sicr nid oes rheswm da, pam na ddylai'r Gymraeg fod yn ystyriaeth berthnasol o ran telerau o'r cytundebau 106 hynny ac y dylid ystyried ysgolion cyfrwng Cymraeg ar yr un sail ag ysgolion cyfrwng Saesneg. Felly, gobeithio y byddwn yn gallu symud hynny yn ei flaen.
Rwy'n gobeithio fy mod wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a ofynnwyd gennych. Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd ystyriol y mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi mynd i’r afael â'r datganiad.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ategu’r diolch ar y record—ac rydw i’n siŵr ein bod ni wedi diolch yn y gorffennol—i Aled Roberts am ei waith ar y cynlluniau strategol yma?
Rŷch chi’n dechrau eich datganiad drwy ddweud bod y cynlluniau wedi gosod sylfaen gref ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg. Wel, nid wyf eisiau anghytuno â chi yn y frawddeg gyntaf, ond yn amlwg mae yna bobl wedi cwestiynu a ydyn nhw wedi bod yn ddigon cryf, ac mae’r ffaith ein bod ni lle rydym ni nawr yn awgrymu i mi nad ydyn nhw. Nid oes ond yn rhaid edrych ar y ‘critique’ gan Rhieni dros Addysg Gymraeg, er enghraifft, ar rai o’r cynlluniau unigol i ddangos bod yna achos mawr am gonsýrn. Ond mae pethau’n gwella o fan yna ymlaen, Gweinidog, mae’n rhaid i mi ei ddweud, ac rydw i’n cytuno â chi bod yn rhaid addasu a moderneiddio nawr y ffordd rydym ni yn cynllunio.
Rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud nid dim ond rôl i’r Llywodraeth yw hon. Mae’r awdurdodau lleol, y byrddau llywodraethwyr, y prifathrawon, y rhieni, y plant eu hunain, a’r gymuned yn ehangach, wrth gwrs, â rôl bwysig i’w chwarae. Ond y Llywodraeth sydd yn gorfod dangos yr arweiniad. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos arweiniad cryf, arweiniad dewr, arweiniad diwyro, er mwyn sicrhau bod y gweddill yn dilyn. Heb hynny, yna rydw i yn ofni y byddwn ni’n cychwyn o fan o wendid. Mae gen i ffydd y byddwch chi’n gwneud hynny fel Gweinidog, ond, yn amlwg, byddwn ni’n pwyso arnoch chi i sicrhau bod hynny yn digwydd.
Nawr, rydw i’n croesawu’n fawr y ffaith eich bod chi’n derbyn y 18 o argymhellion yn adroddiad Aled Roberts. Ond, fel rŷch chi’n gwybod, wrth gwrs, nid derbyn yr argymhellion yw’r prawf, ond y modd yr ydym ni i gyd yn ymateb i’r argymhellion hynny ac yn gweithredu yn sgil yr argymhellion hynny.
Rŷch chi’n dweud na fyddwch chi’n cymeradwyo’r un cynllun nad yw’n dangos uchelgais, ac ni allaf anghytuno â chi. Ond y cwestiwn sydd gyda fi fan yna yw: beth yw’r ffon fesur y byddwch chi’n ei defnyddio i benderfynu a oes yna ddigon o uchelgais neu beidio? Beth yw uchelgais? Achos mae uchelgais mewn un rhan o’r wlad yn amlwg yn mynd i fod yn wahanol i uchelgais mewn rhan arall o’r wlad, ac mae hynny’n bwysig oherwydd, er mwyn i ni allu eich dal chi i gyfrif, er mwyn i chi fod yn atebol, er mwyn tryloywder hefyd, mae’n rhaid i ni ddeall beth yw eich diffiniad chi o uchelgais. Rydw i’n gwybod nad yw’r argymhellion ddim yn argymell targedau penodol i wahanol rannau o’r wlad. Yr unig gyfeiriad, rydw i’n credu, i dargedau yw i edrych ar dargedau meini prawf sy’n cyfeirio at sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i oriau ysgol. Nawr, byddem ni’n leicio clywed sut, efallai, y bydd rheini’n cael eu creu, ond mae angen yr eglurder yna ynglŷn â beth yw uchelgais. Ac, a dweud y gwir, mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl hefyd, oherwydd liciwn i gael eglurder gennych chi prynhawn yma ynglŷn â’r targed mwy cyffredinol o safbwynt nifer y siaradwyr: a ydy’r targed sy’n dod o ‘Cymraeg 2050’ ar gyfer y ganran o blant saith oed sy’n derbyn addysg Gymraeg wedi cymryd lle y targed o strategaeth 2010? Oherwydd roedd strategaeth 2010 yn dweud y dylai 30 y cant o ddisgyblion saith oed dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2020, ond mae strategaeth ‘Cymraeg 2050’ yn dweud y dylai 30 y cant gael ei gyrraedd erbyn 2031. Felly, byddwn i’n licio bach o eglurder ynglŷn ag yn union pa darged rydym ni’n gweithio tuag ati.
Mae cyfeiriad wedi’i wneud yn barod at y blynyddoedd cynnar, wrth gwrs, sydd yn gwbl, gwbl allweddol, oherwydd os ydym ni’n colli ein pobl ifanc ni yn y blynyddoedd cynnar yna, yna mae’n bosib, neu’n fwy tebygol, yn sicr, y byddwn ni wedi colli ein gwir iaith am byth. Mae’r cynnig gofal plant yn gwbl ganolog i hyn, ac, yn y cytundeb ar y gyllideb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, wrth gwrs, rŷm ni wedi sicrhau y bydd yna ariannu ychwanegol i Mudiad Meithrin, a byddwn ni’n edrych ymlaen i drafod gyda chi sut y gallwn ni sicrhau bod hwnnw’n cyfrannu at yr uchelgais rŷm ni’n rhannu fan hyn o safbwynt cynyddu niferoedd y plant sydd yn cael gofal plant ac addysg cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg.
Rŷch chi’n sôn am yr angen i symleiddio’r broses gategoreiddio, a byddwn i’n cytuno â hynny, oherwydd nid oes gen i ddim ffydd bod y broses gategoreiddio ar hyn o bryd yn ddigon ystyrlon. Mae yna ysgolion yn yr un categori yn yr un sir sydd yn gwbl wahanol o safbwynt eu naws a’u hanian ieithyddol, ac felly mae angen mynd i’r afael â hynny. Ond fel rhywun, wrth gwrs, sydd â phrofiad—a byddwn i’n datgan budd fel llywodraethwr ar ysgol gynradd fan hyn lle mae yna frwydr wedi bod—mae’n rhaid i ni, yn yr hinsawdd sydd ohoni, ac yng nghyd-destun yr uchelgais mae’r Llywodraeth yn ei ddangos, beidio â bod mewn sefyllfa lle mae yna ysgol mewn un categori iaith yn mynd i gael ei israddio i gategori arall yng nghyswllt neu yng nghyd-destun ad-drefnu. Felly, mae’n rhaid gwarchod rhag hynny.
Rŷch chi’n cyfeirio at rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, wrth gwrs, ac mae hynny’n sefyll i reswm. Rŷch chi’n dweud eich bod chi eisoes wedi sicrhau bod y cylch nesaf o fuddsoddiad cyfalaf yn cymryd ystyriaeth o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr. Efallai y gallwch chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â hynny: sut yn union ydych chi’n gweld hynny’n digwydd, a pha sicrwydd sydd yna y bydd hynny’n digwydd?
Jest i orffen, ac i bigo i fyny ar y pwynt wnaethpwyd ynglŷn â’r ffaith eich bod chi’n dweud bod yn rhaid i ni ddeddfu i gryfhau, rydw i’n deall y bwriad i newid y fframwaith ddeddfwriaethol, rydw i’n deall y bydd y panel neu’r bwrdd yn pwyso a mesur y newidiadau. A ydych chi’n rhoi canfas wag lwyr i’r bwrdd yma, neu a ydych chi’n gweld ef yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth bresennol yn unig? Mae eisiau eglurder, rydw i’n credu, ynglŷn â, yn amlwg, deddfu o gwmpas cynlluniau strategol, a bydd categoreiddio’n dod i mewn i’r cyd-destun hynny, ac yn y blaen—jest efallai bach mwy o gig ar yr asgwrn yna. Rydw i’n gwybod hefyd eich bod chi wedi cyffwrdd â’r amserlen, ac rydw i’n deall, yn amlwg, eich bod chi am glywed barn y bwrdd neu’r panel ac yn y blaen cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol, ond mi oedd argymhelliad Aled Roberts yn sôn y dylid deddfu erbyn y cylch nesaf o gynlluniau, neu cyn hynny os yn bosib. Felly, byddai cadarnhad ei bod hi’n fwriad i sicrhau deddfwriaeth cyn y cylch nesaf yn rhywbeth y byddwn i’n ei groesawu. Diolch.
Llywydd, liciwn i ddechrau drwy hefyd ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei ymateb adeiladol i’r datganiad yma ac i’r ffordd rydym ni’n datblygu polisi yn y maes. Mi wnes i ddefnyddio’r gair ‘sylfaen’, wrth gwrs, fel ffordd o ddechrau—nid yw’n ddiwedd ar y broses. Nid ydych yn bennu’r tŷ gyda’r sylfaen, ond mae’n bwysig inni sicrhau ein bod yn symud ymlaen. Dyna beth rwyf wedi trio ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf. Rwy’n deall y pwynt rŷch chi’n ei wneud amboutu’r Llywodraeth yn dangos arweinyddiaeth. Rwyf hefyd yn gwybod y buasech chi’n deall ‘A fo ben bid bont’, achos mae’n bwysig ein bod ni’n symud ymlaen yn cydweithio â phobl.
Rwy’n edmygu cynghorwyr am y gwaith y maen nhw’n ei wneud, ac rwy’n edmygu’r ffordd y mae cynghorwyr yn delio â’r heriau gwahanol y maen nhw’n eu hwynebu yn eu hardaloedd gwahanol. Rwyf hefyd yn cydnabod bod cynghorwyr yn gwybod yn well nag ydym ni fan hyn yn y bae, ac mae hynny’n meddwl bod yn rhaid inni gael perthynas lle rydym yn parchu ein gilydd, a’n bod ni’n cydweithio â’n gilydd. Dyna beth rydw i wedi bod yn trio ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Drwy wneud hynny, rwy’n mawr obeithio bod y Llywodraeth yn dangos gwir arweinyddiaeth, ac arweinyddiaeth sy’n dod o eistedd i lawr, siarad a thrafod, ac nid dadlau yn y papurau. Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn gwerthfawrogi'r math yna o arweinyddiaeth.
Ar y cwestiwn mwyaf difyr rwyf wedi’i glywed rhywun yn gofyn i mi ers sbel yn y Siambr yma—sut ydw i’n diffinio uchelgais—nid wyf yn gwybod yr ateb, ond rwy’n gwybod bod yr uchelgais sydd gen i ar gyfer Blaenau Gwent yn wahanol iawn i’r uchelgais sydd gennych chi yn sir Ddinbych. Rwy’n credu bod angen inni gydnabod lle mae’r sefyllfa a’r cymeriad ieithyddol yn wahanol yn rhannau gwahanol o’r wlad, a dechrau drwy gydweithio â rhieni a’r cymunedau i sicrhau ein bod ni’n symud yn yr un cyfeiriad i sicrhau bod yna fwy o Gymraeg a mwy o gyfle i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg Gymraeg, ac i wneud hynny drwy gytundeb. Felly, yr uchelgais sydd gen i yw ein bod ni’n gallu symud ymlaen drwy gytundeb i ehangu addysg Gymraeg ym mhob un rhan o’r wlad.
Beth sydd ddim yn dderbyniol yw nad ydym yn cynllunio ar gyfer tyfiant yn unrhyw le—nid yw hynny’n dderbyniol. Felly, mae’n rhaid cael tyfiant, a bydd y fath o dyfiant yr ŷm ni eisiau ei weld, a’r cyfnod yr ydym eisiau gweld y tyfiant hynny ynddo, yn dibynnu ar natur ieithyddol, rwy’n meddwl, y gymuned leol a natur yr arweinyddiaeth sydd gennym ni’n lleol. Mae gen i uchelgais am y ddau beth.
Mi fyddwn ni yn gosod targedau, achos mae’r llwybr yr ydych chi wedi’i ddisgrifio yn un pwysig. Y targed sydd gennym ni yw’r targed y gwnes i ei gyhoeddi yn yr haf, nid y targedau blaenorol. Y targedau presennol yw’r targedau yr ydym ni’n gweithio atyn nhw. Rwy’n credu bod yn rhaid imi gyhoeddi’r llwybr mwy manwl yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn dangos y llinyn mesur, a hefyd y targedau a’r amcanion sydd gennym ni ar gyfer y daith yr ŷm ni’n ei hwynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rwy’n gobeithio, Llywydd, y bydda i’n gallu gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn.
Gyda’r materion eraill rydych chi wedi cyffwrdd â nhw yn eich cyfraniad, rwy’n cytuno â chi ar y pwyntiau rydych chi wedi’u gwneud amboutu’r Mudiad Meithrin—sefydliad Cymraeg sy’n gwneud gwaith hanfodol o bwysig nid jest i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ond i sicrhau lle’r Gymraeg yn ein cymunedau ni. Rwy’n edmygu’r gwaith y mae’r mudiad yn ei wneud reit ar draws y wlad, ac rwy’n falch iawn ein bod ni wedi dod i gytundeb i sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i ariannu hynny a chefnogi gwaith y Mudiad Meithrin.
Hefyd, pan mae’n dod i’r cynllun gofal plant, rwy’n mynd i gyfarfod yr Ysgrifennydd Cabinet i drafod hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld ffigurau mwy manwl o argaeledd gofal plant yn y Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut ydym ni’n datblygu’r sefyllfa. Rwy’n cymryd na fydd pob man lle’r ŷm ni eisiau iddo fod. Nid wyf wedi gweld y ffigurau eto, ond, pan rwy’n gweld y ffigurau, bydda i’n gweithio gyda Carl Sargeant i sicrhau ein bod ni’n gweld y math o gynnydd y mae pob un ohonom ni eisiau ei weld, sy’n mynd yn ôl, wrth gwrs, at y cwestiwn yr oedd Darren Millar yn ei ofyn amboutu ysgolion meithrin.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gwneud datganiadau ar y rhaglen cyfalaf, ac mi fydd hi’n dod yn ôl i’r Siambr i wneud datganiad arall ar hynny. Beth rwy’n gallu ei ddweud y prynhawn yma yw ein bod ni’n cydweithio’n agos iawn ar hynny, ac mi fydd gennym ni’r fath o raglen o’n blaenau ni fydd yn ein helpu ni i gyrraedd ein targedau ni. Ac mi fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiadau ar hynny maes o law.
Roedd y cwestiwn olaf amboutu deddfwriaeth a rôl y bwrdd. Pan rwy’n gofyn i bobl wneud y gwaith yma, rwy’n dweud wrthyn nhw i ddilyn eu trwynau a gweld ble mae hynny’n eu harwain. Mi fydd yna gymysgedd, siŵr o fod, o ddeddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth, a bydd yn rhaid inni weld ble y mae hynny’n ein harwain ni. Os ydym yn sôn amboutu newid is-ddeddfwriaeth, mae’n bosibl y byddwn ni yn gallu gwneud hynny cyn bod y rownd nesaf o WESPs yn dod i mewn, a liciwn i symud mor glou â phosibl ar hynny. Os ydym ni’n newid y gyfraith, wrth gwrs, mi fydd hynny’n cymryd mwy o amser. Ond, ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi gwneud y gwaith. Liciwn i adael i’r bwrdd wneud y gwaith, a rhoi tudalen wag iddyn nhw er mwyn iddyn nhw wneud hynny, ac unwaith maen nhw’n dod yn ôl gydag adroddiadau, mi fyddwn ni mewn sefyllfa i wneud datganiad arall i’r Siambr a hefyd datganiad ar sut rydym yn gweld yr amserlen yn datblygu.
Wel, yn briodol iawn i wlad y gân, rydym i gyd yn canu mewn cytgord yn hyn o beth, os nad yn gyfan gwbl unsain. Rwy’n cymeradwyo'r Gweinidog am yr egni a’r arweinyddiaeth y mae wedi'i ddangos gyda’r polisi arloesol hwn. Rwy'n cymeradwyo'r dull, y cyfeiriodd ato yn ei ymateb cynharach i Darren Millar, o adeiladu pontydd a dod â phobl ynghyd gan gymell, yn hytrach na gorfodi. Mae Aled Roberts, yn ei adroddiad, yn cyfeirio at hynny a sut mae rhai awdurdodau lleol yn wan iawn wrth geisio creu unrhyw alw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Creu’r galw yw hanfod gwirioneddol llwyddiant y polisi, ac rwy’n gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn dwyn ffrwyth yn hynny o beth —ac rwy'n siŵr fod dawn y Gweinidog i berswadio yn atebol i’r dasg o geisio denu’n wirfoddol unrhyw awdurdodau lleol ystyfnig sydd wedi mynegi ond ychydig o frwdfrydedd dros y prosiect hwn. Fe gaiff yn sicr fy nghefnogaeth gref i yn hynny o beth.
Un rhan o'r adroddiad nad ydyw wedi ei grybwyll yn yr ymatebion hyd yn hyn yw paragraff 1.35, lle mae Aled Roberts yn cyfeirio at y ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion. Mae'n dweud ei bod yn amser i gael trafodaeth gadarn gyda Chymwysterau Cymru o ran newid y ffordd yr addysgir yr iaith wrth fynd ymlaen.
Wel, rwy'n gwybod ei bod hi'n amser maith iawn, iawn wir ers i mi fod yn yr ysgol ac roedd Cymraeg yn bwnc a oedd yn cael ei addysgu mewn ffordd wahanol iawn, iawn i'r ffordd y mae'n cael ei addysgu yn awr. Cafodd yr iaith Gymraeg ei haddysgu i mi fel pe bai’n iaith dramor, ac nid wyf i byth wedi dod dros hynny, rywsut. Ond, byddwn yn hoffi i'r Gweinidog, efallai, ehangu ychydig ar yr agwedd honno ar y polisi: sut yr ydym yn mynd i newid y ffordd y mae'r iaith yn cael ei haddysgu er mwyn helpu i gyflawni'r amcanion hyn? Wrth gwrs, mae'n amlwg mai'r unig ffordd y bydd y polisi hwn yn llwyddo yw trwy gael rhagor o blant blynyddoedd cynnar yn cael eu magu i siarad Cymraeg fel rhywbeth sy'n naturiol ac nid rhywbeth sy'n cael ei ddysgu fel rhywbeth sych a diflas, fel sydd yn wir am lawer o ieithoedd tramor eraill. A hoffwn ganmol, yn hyn o beth, yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Siân Gwenllian ychydig o amser yn ôl, a drafodwyd yn y tŷ hwn, sef 'Cyrraedd y Miliwn'. Roedd ynddo rai ffigurau diddorol iawn—a ffigurau calonogol, o ran hynny—yn dangos bod cyfran gynyddol o’n plant tair a phedair oed, wedi cael eu haddysgu yn y Gymraeg—o 18.8 y cant yn 2001 i 23.3 y cant yn 2011. Wel, roedd hynny chwe blynedd yn ôl; rwy'n gobeithio bod y ffigur hwnnw bellach yn fwy na hynny, ac efallai y gall y Gweinidog ddweud hynny wrthym.
Agwedd ddiddorol arall ar hynny oedd sut mae nifer y plant sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu, o ran y rhai sydd yn byw mewn cartrefi lle nad yw'r naill riant na'r llall yn siarad Cymraeg. Y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw oedd 9 y cant yn 2001 a 14 y cant yn 2011. Mae’n amlwg mai hyn fydd yn digwydd am beth amser i ddod. Ac rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth ateb Llŷr Gruffydd funud yn ôl ynghylch sut mae'r uchelgais yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, a sut mae Blaenau Gwent yn wahanol i Wynedd neu Sir Ddinbych. Ond bydd yn anochel mewn mannau fel Blaenau Gwent ac ardaloedd nad oes ganddyn nhw gyfran uchel iawn o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd, y bydd y plant yn siarad Cymraeg ond ni fydd y rhieni yn gallu eu deall nhw. Yn fy marn i, dyna’r her a ddaw i’n rhan yn y degawdau nesaf.
Ond, yn ogystal â chynyddu'r galw am y Gymraeg, wrth gwrs, mae'r cwestiwn hollbwysig o gynyddu'r cyflenwad o athrawon sy'n gallu bodloni'r galw hwnnw. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi'r £4.2 miliwn hwn i helpu i fynd i’r afael â hynny. Mae hynny i’w groesawu yn fawr iawn, ond ys gwn i a oes angen gwneud mwy i annog athrawon. Nid wn a oes modd cyflwyno unrhyw gymhellion ariannol neu a yw hynny'n wir yn ddymunol, ond os oes yna ffordd o ategu’r hyn sydd eisoes wedi'i wneud, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylai'r Gweinidog yn sicr ei ystyried.
Rwyf yn bendant yn cymeradwyo'r hyn a ddywedwyd am y Mudiad Meithrin a phwysigrwydd cylchoedd meithrin i gyflawni'r amcanion uchelgeisiol yr ydym wedi’u gosod i ni ein hunain. Mae'n hollbwysig inni gael mwy o enghreifftiau fel yr un y soniwyd amdani yn Llanfair-ym-Muallt ac yn yr ardaloedd, yn arbennig, lle bydd angen cynnal twf yr iaith yn y dyfodol. Cytunaf yn llwyr â'r rhai sy'n dweud, yn gyntaf oll, bod yn rhaid inni atgyfnerthu’r iaith yn yr ardaloedd lle mae traddodiad o siarad Cymraeg a hithau yn iaith cyfathrebu naturiol ar yr aelwyd, yn y gwaith ac yn y gymuned. Ond mewn ardaloedd lle mae 100 mlynedd efallai ers i unrhyw Gymraeg gael ei siarad neu gael ei glywed ar y strydoedd, yna mae hwn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r genhedlaeth nesaf ei ddatblygu, wrth i bobl o’m hoedran i ddechrau mynd i wth o oedran a chael ein disodli gan rai sydd â’r cyfleuster naturiol i helpu'r Gweinidog i gyflawni hynny. Byddaf i’n 101 mlwydd oed os caf fyw tan 2050, ond wyddoch chi ddim—bu mam fy mam fyw i fod yn 103, felly gallwn i fod yma o hyd. Wel, efallai nid yma, ond yn sicr yn byw ar y ddaear ac yn ychwanegu fy llais at y ddadl wleidyddol.
Ond, ar ran UKIP, hoffwn i groesawu'r adroddiad hwn, sydd yn estyniad pellach i'r gwaith da a wnaeth y Gweinidog, ac rydym wedi’i gefnogi ar hyd y daith.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd UKIP. Dechreuodd ei sylwadau drwy sôn am wlad y gân. Wel, mae yna Aelodau yn y Siambr hon—efallai eich bod chi, Llywydd, yn un ohonyn nhw—sydd mewn gwirionedd wedi fy nglywed i’n canu. Rwy’n credu mai’r un peth sy'n uno’r Aelodau ar bob ochr y Siambr hon yw nad ydyn nhw am glywed hynny eto. Ni fyddwn yn dymuno gwneud i neb ddioddef hynny.
Rwy'n deall y pwyntiau sydd wedi’u gwneud ynglŷn â chynyddu ac ysgogi'r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni sydd â phlant yn y system neu wedi bod trwy'r system yn cydnabod y manteision, ac yn cydnabod manteision dysgu iaith yn ifanc. Yn sicr, mae fy mab saith mlwydd oed bellach yn gallu siarad, ysgrifennu a defnyddio'r iaith Gymraeg mewn ffordd a fyddai wedi bod y tu hwnt i fy nychymyg i yn ei oedran ef. Ac o ganlyniad i hynny, mae'n rhywbeth fydd ganddo nawr ar hyd ei oes, a chredaf y bydd hynny o fudd mawr iddo, fel y byddai i bob plentyn o'r oedran hwnnw. Rwy’n gobeithio, wrth inni symud ymlaen yn y ddadl hon, y byddwn yn gallu dangos—. Nid wyf yn hoffi defnyddio'r ymadrodd 'mantais dwyieithrwydd', ond yn sicr mae dwyieithrwydd yn rhywbeth sydd wedi ychwanegu at fy mywyd i, ac rwy’n sicr ei fod yn rhywbeth sy'n ychwanegu at ein bywydau gwahanol ni i gyd, ac yn ein galluogi ni i werthfawrogi hanes a diwylliant ein gwlad ond hefyd i werthfawrogi hanes a diwylliant gwledydd eraill, cenhedloedd eraill a phobl eraill hefyd.
Rwy’n petruso hefyd cyn ceisio diffinio'r uchelgais prin a ddaeth o du rhai awdurdodau lleol, ond byddaf yn dweud hyn wrth ateb cwestiwn yr Aelod: mae’r sgyrsiau y mae Aled wedi eu harwain ac y mae fy swyddogion i wedi parhau â nhw gyda phob awdurdod lleol o bob lliw gwleidyddol ym mhob rhan o'r wlad wedi bod yn hynod bositif. Mae’n ymwneud â sut yr ydym yn symud ymlaen ac nid yn ymwneud ag a ydym yn symud ymlaen. Rwy'n credu ei bod yn deyrnged i arweinwyr awdurdodau lleol—fel y dywedais, o bob lliw gwleidyddol o bob rhan o'r wlad—eu bod yn edrych ar yr agenda hon mewn modd cadarnhaol ar adeg pan fyddan nhw’n ymgodymu â phwysau ariannol anodd iawn. Felly, yn hytrach na phwysleisio cyn lleied o uchelgais neu gyn lleied o frwdfrydedd, hoffwn bwysleisio'r uchelgais cadarnhaol a'r brwdfrydedd cadarnhaol a welsom ni gan awdurdodau lleol.
Gofynnodd llefarydd UKIP i mi am gategorïau, ac anghofiais i ateb cwestiwn Llŷr Gruffydd ar yr un mater. Nid diben edrych ar gategorïau o reidrwydd yw newid na thanseilio statws iaith mewn ysgolion fel y mae heddiw, ond i ddeall yr hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth mewn gwahanol gategorïau o ysgolion, gan ein bod yn cydnabod y gall categorïau fod yn gymysgedd ddryslyd a dyrys o lu o wahanol gyfuniadau o iaith lle cant eu defnyddio. Rwy'n gwerthfawrogi y gallai cryn dipyn o rieni ganfod hynny’n ddryslyd eu hunain. Felly, rwyf yn awyddus i ddeall yr union beth sy'n digwydd ym mhob un o'r ysgolion hynny ac a oes modd i ni symud ymlaen gan osgoi’r math hwnnw o strwythur sydd weithiau'n rhy gymhleth o lawer. Gwneir hynny heb unrhyw ragfarn. Fe'i gwneir er mwyn dysgu a deall ac edrych ar arfer gorau a dysgu ohono. Nid y pwrpas o reidrwydd yw tanseilio—yn sicr nid tanseilio statws yr iaith yn unrhyw le.
Yr hyn yr wyf eisiau ei bwysleisio yw fy mod yn awyddus bod angen inni edrych hefyd ar y sector cyfrwng Saesneg, ac mae'r pwyntiau a wnaed am addysgu'r Gymraeg wedi'u gwneud yn dda ac yn bwyntiau yr wyf yn eu derbyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â’r mater hwn a bydd yn parhau i wneud hynny wrth inni edrych tuag at symud trwy gwrs amser a chyflwyniad y cwricwlwm newydd. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae'r iaith Gymraeg yn rhywbeth sy'n perthyn i bawb, ni waeth beth fo cyfrwng yr addysg yn yr ysgol y maen nhw’n ei mynychu. Mae'n bwysig i mi fod plant sy'n ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gallu gadael yr ysgolion hynny â gwybodaeth weithredol o’r iaith Gymraeg ac yn gallu sgwrsio yn yr iaith o leiaf. Rydym yn gwybod nad yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Mae angen inni allu deall pam, a sicrhau, trwy'r cwricwlwm newydd sydd i’w gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn gallu newid profiad pobl o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion.
Gwn fod amser yn mynd yn ei flaen, Llywydd, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod swyddogaeth rhieni yn hanfodol. Mae swyddogaeth y gymuned yn hanfodol. Mae'r ysgol bob amser yn rhan o'r gymuned, lle bynnag y bo'r gymuned honno, ac mae swyddogaeth iaith addysg mewn ysgolion yn bwysig—mae'n adlewyrchiad o'r gymuned honno—a chredaf fod pobl ledled y wlad yn awyddus iawn iawn i weld mwy o Gymraeg a chaniatáu iaith yr addysg i alluogi rhieni ac eraill i ddysgu'r iaith eu hunain. Rwy'n gobeithio y bydd y ganolfan genedlaethol a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl ar gyfer dysgu Cymraeg yn edrych ar hyn ac yn edrych ar sut y gallwn helpu rhieni i gael gwybodaeth weithredol o leiaf o'r iaith ar yr adegau gwahanol y mae angen hynny yn ystod addysg plentyn.
Mae'r materion sy'n ymwneud â chyflenwi athrawon ac eraill yn faterion a godwyd eisoes gan lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma. Rwy’n cydnabod bod her enfawr yn ein hwynebu ni. Pan fyddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau cyflawni yn sgil strategaeth 2050 a'r gwaith y byddwn ni'n ei gwblhau yn ystod y Cynulliad presennol, byddwn yn nodi sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r amcanion hynny ac yn cyflawni’r targedau hynny.
A gaf i groesawu’r datganiad gan y Gweinidog a chroesawu’r ffaith ei fod e’n bwriadu derbyn yr argymhellion i gyd oddi wrth Aled Roberts? Gwnaethoch chi sôn yn y datganiad am ba mor bwysig yw e i adnabod y galw. Rŷch chi newydd gydnabod, yn yr ateb diwethaf, pa mor bwysig yw creu galw, hynny yw ysgogi galw newydd efallai lle nad oes galw ar hyn o bryd, neu ddim cymaint ag y gallai fod, ac esbonio manteision ac ennill pobl i achos addysg Gymraeg.
Un o’r argymhellion yn yr adroddiad yw perthynas fwy strategol rhwng awdurdodau lleol a’r mudiadau meithrin, fel rŷm ni wedi bod yn ei drafod yn barod. Er mwyn cyrraedd nod y strategaeth, mae’n sicr y bydd angen gwneud mwy na hynny er mwyn gallu ysgogi galw ar lefel digon eang. Felly, rŷch chi’n edrych ar sefyllfa fel hyn lle mae aelodau etholedig a swyddogion, mewn awdurdodau lleol efallai, yn mynd i gael digon o sialens i ateb y galw sydd yn bresennol. Felly, beth fyddech chi’n hoffi ei weld yn digwydd ar lawr gwlad, tu hwnt i’r berthynas strategol gyda’r mudiadau meithrin, i ysgogi’r galw yma ac ennill y ddadl dros fanteision addysg Gymraeg i gynulleidfa fwy eang, efallai, nag ŷm ni’n ei chyrraedd ar hyn o bryd?
Llywydd, rydw i’n cytuno â’r pwynt mae’r Aelod wedi’i wneud. Mae’r Llywodraeth wedi bod, yn hanesyddol, yn eithaf swil amboutu’r materion yma. Rydw i’n llai swil. Rydw i wedi gweld manteision addysg Gymraeg yn fy nheulu fy hun, ac rydw i’n gweld manteision cael addysg Gymraeg i blant ar draws y wlad, sy’n eu galluogi nhw i adnabod a bod yn rhan o’r cyfoeth rŷm ni wedi’i etifeddu yn ein diwylliant ni. Rydw i’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n hynod o bwysig.
Mi fyddaf i, yn ystod y misoedd nesaf, yn ystyried sut rydym ni’n gallu ysgogi’r galw, fel rŷch chi wedi disgrifio, a hefyd i wneud yn sicr ein bod yn perswadio pobl fod addysg Gymraeg yn opsiwn real ar gyfer eu plant nhw, lle bynnag maen nhw’n byw a beth bynnag ydy iaith y tŷ, ac i alluogi pobl i gael ‘access’ i addysg Gymraeg. Yn aml iawn, cael ‘access’ i addysg Gymraeg ydy un o’r prif bethau sy’n rhwystro pobl rhag mynd i mewn i’r system Gymraeg. Felly, gwneud addysg Gymraeg yn opsiwn real i bobl ym mhob un rhan o’r wlad, sicrhau bod pobl yn gallu cael ysgolion yn agos at eu cartrefi nhw, sicrhau, wedyn, bod pobl yn teimlo’n gartrefol wrth symud i’r opsiwn Gymraeg os nad yw’r Gymraeg yn iaith y tŷ, ac wedyn cefnogi teuluoedd sydd yn gwneud y dewis hynny, a symud ymlaen yn y ffordd y mae sawl Aelod wedi’i disgrifio’r prynhawn yma, trwy gael mwy o gyfleoedd i blant ifanc iawn, iawn, iawn ddysgu a dechrau cael gafael ar y Gymraeg—.
Diolch i’r Gweinidog.