<p>Gwella Cysylltedd Rhyngwladol Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:30, 11 Hydref 2017

Diolch yn fawr am yr ateb cynhwysfawr yna. Nawr, yn naturiol, mae Maes Awyr Caerdydd, wrth gwrs, yn hynod bwysig yn ein hymdrechion i gysylltu Cymru efo gweddill y byd. Tra bydd Qatar Airways yn dechrau gwasanaethu gwasanaeth uniongyrchol newydd i Doha y flwyddyn nesaf, mae yna brinder gwasanaethau i leoliadau allweddol eraill o bwys ar draws y byd—Gogledd America, er enghraifft. A fyddech chi felly yn fodlon cysidro creu cwmni hedfan cenedlaethol, dyweded ‘Ken Skates Airlines rhyngwladol’, neu fodel arall o gefnogaeth lywodraethol i lenwi’r bwlch sy’n bodoli oherwydd amharodrwydd y sector breifat i ddarparu’r gwasanaethau i’r lleoliadau pwysig yma?