Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 11 Hydref 2017.
A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn a’i awgrym caredig, er y tybiaf fod fy nghyfenw, yn ôl pob tebyg, yn gweddu’n well i fath gwahanol o drafnidiaeth yn hytrach na hedfan? Mewn gwirionedd, hoffwn dalu teyrnged i’r tîm cyfan ym Maes Awyr Caerdydd am eu gwaith rhagorol ar hyrwyddo’r cyfleuster penodol hwnnw ac ar sefydlu llwybrau teithio newydd. Credaf y bydd y llwybr newydd uniongyrchol i Doha yn agor Cymru i’r byd. Credaf ein bod, yn y gorffennol, wedi edrych ar sefydlu cwmni hedfan cenedlaethol ac wedi dod i’r casgliad y gallai cost sefydlu cwmni o’r fath ein hatal rhag gwneud hynny. Fodd bynnag, mae’n sicr yn rhywbeth rwy’n fwy na pharod i’w ystyried ymhellach. Credaf, fodd bynnag, ar yr un pryd, fod Maes Awyr Caerdydd eisoes yn gwneud gwaith ardderchog yn denu llwybrau teithio newydd a gweithredwyr newydd i’r cyfleuster, ac rwy’n gobeithio cael rhagor o newyddion ynglŷn â hynny yn y blynyddoedd i ddod.