Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 11 Hydref 2017.
Rwy’n edrych ymlaen at deithio ar ‘Skates Air’. Credaf fod lle bach yn y farchnad i chi yno, Ken. [Chwerthin.] Rydych wedi fy nrysu nawr. Mae’n amlwg yn siomedig, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw’r doll teithwyr awyr wedi’i datganoli i’r lle hwn, a chyn i chi ddweud, ‘Wel, eich Llywodraeth chi yw hi’, rwy’n ymwybodol o hynny, a byddwn yn parhau i ddadlau’r achos dros ddatganoli’r doll teithwyr awyr er mwyn sicrhau bod yr offeryn pwysig hwnnw gennym. A wnewch chi wneud yr un peth hefyd i sicrhau, pan fydd y dreth stamp yn cael ei datganoli inni, a threth tirlenwi a threth incwm, fod gennym offer economaidd hanfodol hefyd, megis y doll teithwyr awyr, i ni allu bwrw ati o ddifrif gyda’r gwaith o wella’r economi yng Nghymru?