Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mater arferion gweithio modern a chwestiynau mwy cyffredinol ynglŷn â sut yr ydym yn strwythuro ein marchnad lafur yn hynod bwysig. Mae Chwarae Teg wedi nodi bod adolygiad Taylor, a chreu’r Comisiwn Gwaith Teg, yn helpu i newid natur y ddadl ynglŷn â gwaith a’n marchnad lafur sy’n newid yn gyson. Mae’n hanfodol nad ydym yn colli’r cyfle i sicrhau bod cyflogaeth ddiogel, hyblyg a chyflogau da ar gael i bawb. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen inni gasglu a chael mynediad at fwy o ddata ar yr economi gig yng Nghymru er mwyn sicrhau cymaint o fanteision â chyn lleied o anfanteision â phosibl i bobl Cymru?