<p>Twf yr Economi Gig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:34, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a dweud fy mod yn croesawu gwaith adolygiad Taylor, er nad ymddengys, wrth gwrs, fod yr argymhellion yn mynd yn ddigon pell o ran cryfhau’r broses o orfodi’r ddeddfwriaeth, sy’n angenrheidiol er mwyn atal gweithwyr ar gyflogau isel rhag cael eu hecsbloetio? O ran yr hyn a allai fod o fudd, a gwella data ar yr economi gig, er mwyn ein cynorthwyo i ddeall natur ac effaith hyn ar economi Cymru, credaf ei bod yn bwysig inni barhau i weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a rhannau eraill o’r DU, i nodi’r ffyrdd gorau o gasglu’r data. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fod swyddogion yn rhan o grŵp a sefydlwyd i edrych ar gwmpasu anghenion dadansoddol a dulliau o fesur yr economi gig, sy’n broblem ledled y DU, ond sydd ag arwyddocâd arbennig i ni yma yng Nghymru. Ac yn amlwg, o ystyried natur yr economi gig, gallai’r mewnwelediad a’r ffynonellau data newydd a fyddai ar gael drwy’r campws gwyddor data chwarae rôl bwysig iawn.