Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 11 Hydref 2017.
Wel, credaf fy mod wedi ateb rhan helaeth o gwestiwn yr Aelod wrth ymateb i Jayne Bryant, drwy ddweud fy mod yn croesawu adolygiad Taylor. Fodd bynnag, credaf fod angen i Lywodraeth y DU ymateb yn gyflym i’r argymhellion yn awr. Ac fel y dywedais hefyd wrth yr Aelod, teimlaf nad yw’r argymhellion yn mynd mor bell ag y dylent. Fodd bynnag, credaf fod penderfyniad diweddar y Goruchaf Lys fod ffioedd tribiwnlys a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2013 yn anghyfreithlon yn gam cadarnhaol tuag at wella mynediad at gyfiawnder ar gyfer y rhai a fu’n ddarostyngedig i arferion cyflogaeth anghyfreithlon. Dylwn ddweud bod gwaith yng Nghymru, o ran caffael yn y sector cyhoeddus, ac o ran y gwaith a wnaed o dan arweiniad y Prif Weinidog, ar waith teg, yn bwysig yn fy marn i. Mae’n golygu ein bod ar y blaen i lawer o’r DU o ran sicrhau bod gennym arferion gwaith teg ar draws yr economi.