<p>Twf yr Economi Gig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:36, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gweithio yn yr economi gig yn gweddu i rai gweithwyr—mae bob amser wedi gweddu i rai gweithwyr, ac mae’n debyg y bydd bob amser yn gwneud hynny. Ond buaswn yn awgrymu nad yw’r mwyafrif yn dewis gweithio yn yr economi gig. Yr hyn y maent yn ei gael mewn gwirionedd yw diffyg sicrwydd swydd, diffyg gallu i gyllidebu. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â mi ynglŷn â’r holl bethau hynny. Nododd Llywodraeth y DU mai’r broblem oedd gostyngiad mewn derbyniadau treth, a chawsom ddatganiad gan Philip Hammond yn ddiweddar a ddywedai ei fod yn mynd i addasu’r gyfundrefn drethu i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o drethu’r gweithwyr hyn. Yn bersonol, credaf eu bod yn anwybyddu’r broblem go iawn yn llwyr. Felly, pa sylwadau a wnaethoch i Ganghellor y Trysorlys mewn perthynas â chynyddu twf cyflogaeth ddiogel, yn hytrach na chanolbwyntio ar y derbyniadau treth?