Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 11 Hydref 2017.
Byddwn yn cytuno â’r Aelod y gall yr economi gig fod yn atyniadol i rai pobl. Ond i’r mwyafrif, credaf ei fod yn amgylchedd ansefydlog ac ansicr ar gyfer ennill bywoliaeth. Ac nid yw’r broblem i mi yn ymwneud yn gymaint â derbyniadau treth; mae hynny’n amlwg yn fater ar gyfer Trysorlys y DU. Mae’r broblem i mi yn ymwneud â’r effaith y mae’r economi gig yn ei chael ar lesiant ac iechyd meddwl cyfunol y genedl, ac iechyd yr economi yn gyffredinol. Rydym wedi dweud yn glir iawn yn Llywodraeth Cymru fod angen inni gael cyflog byw priodol, fod angen inni arddel a gwella’r arferion cyflogaeth gorau, ac felly mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio’r broses o ymgorffori arferion cyflogaeth o fewn y siarter datblygu cynaliadwy ar draws yr economi. Ein safbwynt ni, sydd wedi’i gynnwys yn ‘Ffyniant i Bawb’, yw y dylem sicrhau bod cyfoeth, iechyd a llesiant ar gael i bawb yng Nghymru, ac y dylai mynediad at gyflogaeth fod ar sail cyflogaeth gynaliadwy a chyflogaeth sicr.