Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Hydref 2017.
Wel, mae’r Aelod yn creu darlun o’r rôl bwysig a fydd gan fanc datblygu Cymru yn bron â dyblu’r arian sydd ar gael i fentrau bach a chanolig eu maint. Rwy’n falch fy mod, yr wythnos hon, wedi cael y strategaeth leoli i’r banc allu gweithredu ym mhob rhan o Gymru, gan roi mynediad hawdd i’r holl fusnesau bach a chanolig eu maint. A chredaf hefyd y bydd rôl y rhaglen arloesi, Creu Sbarc, yn hollbwysig wrth sbarduno entrepreneuriaeth a arweinir gan arloesedd ar draws yr economi, gan ddod â gwahanol randdeiliaid ynghyd fel y gall pob un ohonom gydweithio i greu economi gref a arweinir gan arloesedd a thechnoleg ac sy’n seiliedig ar sylfeini cadarn.