1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Hydref 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Llywydd. Nid wyf yn ymddiheuro am y ffaith fy mod wedi crybwyll thema fy nghwestiwn sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon, gan y credaf ei fod yn sylfaenol bwysig os ydym am ehangu economi Cymru. Yn ddiweddar, clywsom y feirniadaeth ynglŷn â lefelau grantiau, yn hytrach na benthyciadau, y mae’r Llywodraeth wedi eu rhoi i gwmnïau ers 2010, ynghyd â’r honiadau ei bod wedi rhoi benthyciadau i gwmnïau a aeth i’r wal wedi hynny. Rydym ni yn UKIP yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn y sector risg uchel wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â darparu’r arian hwn, boed ar ffurf grantiau neu fenthyciadau, gan ei bod yn ffaith ei bod yn ceisio llenwi’r bylchau lle y mae banciau’r stryd fawr wedi gwrthod cymryd rhan. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, er gwaethaf rhai problemau anochel, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn y sector busnes? Ac rwy’n addo peidio â sôn am gylchffordd Cymru yma.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru—busnesau sy’n darparu cyfleoedd gwaith i ddegau a channoedd o filoedd o bobl yn ein cymunedau? Mae ein cymorth ers 2011 wedi darparu gwaith i 185,000 o bobl. Yn nhymor y Cynulliad diwethaf, cafodd 150,000 o swyddi eu creu a’u cefnogi gennym drwy helpu busnesau i dyfu ac i ehangu. Ac mae’r Aelod yn nodi’r pwynt pwysig ynglŷn â methiant busnesau. Wel, credaf fy mod wedi dweud hyn yn y Siambr o’r blaen, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelodau eto gyda’r data, fod cyfran y cwmnïau a fethodd yn is ymhlith y rhai yr oeddem wedi eu cefnogi nag yn yr economi yn ei chyfanrwydd. Credaf fod hynny’n dangos, er y bu colledion ac er y bu methiannau, ar y cyfan, fod ein cefnogaeth wedi gweithredu fel galluogydd twf yn yr economi. Ac o ganlyniad i hynny, gallwn ddweud gyda rhywfaint o hyder bellach fod gennym gyfradd ddiweithdra isel a pharhaus sy’n llawer is na’r hyn a welsom yn y 1990au ac ar ddechrau’r 2000au, ac mae hynny o ganlyniad i fynd ar drywydd pob cyfle i dyfu’r economi a chreu swyddi.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei sicrwydd. A gaf fi ofyn yn awr sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu sicrhau bod cyllid ar gael yn hwylus i fusnesau newydd, yn y sector arloesol yn arbennig, yn enwedig pan fydd bydd banc datblygu Cymru yn dechrau gweithredu?
Wel, mae’r Aelod yn creu darlun o’r rôl bwysig a fydd gan fanc datblygu Cymru yn bron â dyblu’r arian sydd ar gael i fentrau bach a chanolig eu maint. Rwy’n falch fy mod, yr wythnos hon, wedi cael y strategaeth leoli i’r banc allu gweithredu ym mhob rhan o Gymru, gan roi mynediad hawdd i’r holl fusnesau bach a chanolig eu maint. A chredaf hefyd y bydd rôl y rhaglen arloesi, Creu Sbarc, yn hollbwysig wrth sbarduno entrepreneuriaeth a arweinir gan arloesedd ar draws yr economi, gan ddod â gwahanol randdeiliaid ynghyd fel y gall pob un ohonom gydweithio i greu economi gref a arweinir gan arloesedd a thechnoleg ac sy’n seiliedig ar sylfeini cadarn.
Wel, unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei sicrwydd, ond dywedodd un o gynrychiolwyr Busnes Cymru wrth un o fy etholwyr sy’n chwilio am gyllid ar gyfer cynnyrch arloesol iawn gyda photensial masnachol anferth nad oedd y cynnyrch wedi’i ddatblygu’n ddigonol i’r cyllid gael ei roi. Go brin fod hyn i’w weld yn cyd-fynd â pholisi honedig y Llywodraeth i ymwneud â’r sector arloesi. A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi rhyw syniad inni ynglŷn â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth ‘arloesol’, o gofio, os yw’n arloesol, efallai na fydd wedi ei ddatblygu’n llawn?
Credaf ei bod yn bwysig fod y cynlluniau wedi cyrraedd pwynt lle y gellir eu gwireddu, a buaswn yn sicr yn croesawu rhagor o fanylion ynglŷn â’r enghraifft benodol a nododd yr Aelod. Ceir ffurflenni cymorth gan Busnes Cymru, yn ogystal â thalebau arloesedd a allai fod yn berthnasol i’r achos penodol y sonia’r Aelod amdano, ond pe bai’n ysgrifennu ataf, rwy’n siŵr y gallwn ystyried hyn ymhellach. Yn gyffredinol, drwy ein cefnogaeth i fusnesau ac entrepreneuriaeth, drwy Busnes Cymru a thrwy fentrau megis Creu Sbarc, mae gennym bellach fusnesau mwy bywiog yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Mae’n rhaid bod hynny’n dda i’r economi, ond mae angen i ni sicrhau hefyd fod gennym economi ddynamig lle y mae gennym ddynameg gyson sy’n darparu mentrau newydd wrth i fentrau eraill ddod i ben.
The Plaid Cymru spokesperson, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Yn wahanol i David Rowlands, ni allaf addo peidio â chrybwyll Cylchffordd Cymru. Ddydd Gwener, mewn datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad hwn mewn perthynas â chyhoeddi’r diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd ar y prosiect hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi,
‘Mewn cysylltiad â’r adroddiad ar y prawf Person Cymwys a Phriodol, nid ydym wedi gallu ei gyhoeddi fel fersiwn lawn na chryno gan nad yw Michael Carrick wedi rhoi ei ganiatâd i’w gyhoeddi.’
A allwch ddweud wrthym pryd y cafodd copi o’r adroddiad hwn, naill ai fersiwn lawn neu grynodeb, ei anfon gyntaf i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd a’i brif weithredwyr, gyda chais am eu caniatâd i’w gyhoeddi?
Ie, hoffwn roi ymateb cynhwysfawr gyda’r amserlen i’r holl Aelodau heddiw. Rhoddwyd copi wedi’i olygu o adroddiad gwybodaeth gorfforaethol Grant Thornton, sef y prawf person cymwys a phriodol, i Michael Carrick ym mis Mai eleni. Yna, ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru ar 30 Mai, yn nodi ei sylw fod rhannau o’r adroddiad yn peri pryder iddo ef a’i gydweithwyr. Ar 1 Medi eleni, ysgrifennodd Michael Carrick, prif swyddog gweithredol Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, at Lywodraeth Cymru eto gan ddatgan, ac rwy’n dyfynnu, mewn perthynas â’r adroddiad gwybodaeth gorfforaethol—sef y prawf person cymwys a phriodol—a oedd yn canolbwyntio ar unigolion, y byddent yn pwysleisio na ddylid ei gyhoeddi.
Nawr, dywedais yn glir yn fy natganiad yr wythnos diwethaf mewn perthynas ag adroddiad y prawf person cymwys a phriodol nad ydym wedi gallu cyhoeddi naill ai fersiwn lawn neu grynodeb ohono gan nad yw Michael Carrick wedi cydsynio i’w gyhoeddi eto. Yn dilyn cyhoeddi’r dogfennau diwydrwydd dyladwy ddydd Gwener diwethaf, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at Michael Carrick eto ar 6 Hydref gyda chopi pellach o’r adroddiad wedi’i olygu, gan ofyn eto a fyddai’n ystyried y mater a rhoi gwybod a fyddai’n fodlon i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r deunydd hwn. Gallaf rannu’r wybodaeth ganlynol gyda’r Aelod, ac yn wir, gyda’r holl Aelodau yn y Siambr hon: ymatebodd Martin Whitaker, prif weithredwr Cylchffordd Cymru, ddydd Llun 9 Hydref, gan ddweud yn glir fod, ‘Ein safbwynt ni heb newid o ran ein bod yn gwrthod rhoi unrhyw gydsyniad i ryddhau’r adroddiad.’ Dywedodd hefyd, ‘Mae ‘ni’ yn cyfeirio at Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, Aventa a’r holl unigolion y soniwyd amdanynt ac y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad.’
Diolch am yr adroddiad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r cwmni yn y llythyr y cyfeiriodd ato yn anghytuno â’r hyn y mae newydd ei ddweud, ac rwy’n siŵr y byddant yn ymateb maes o law. Maent yn mynnu na chawsant gopi wedi’i olygu o’r adroddiad tan 5.16 p.m. ar y nos Wener wedi i’r datganiad gael ei wneud i’r Cynulliad.
Gan ein bod yn trafod cyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas â Chylchffordd Cymru, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â gwybodaeth gyfrinachol a gedwir gan eich adran a ddatgelwyd i’r ‘Western Mail’? A all roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad bellach ynglŷn â’r ymchwiliad a gynhaliwyd i’r datgeliad answyddogol?
Nid yw’n fater rwy’n arwain arno; mater i’r Ysgrifennydd Parhaol ydyw, ac rwy’n siŵr y bydd yn cyflwyno ei holl sylwadau maes o law.
Ar 7 Gorffennaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrthyf mewn ateb ysgrifenedig nad oeddech yn credu bod gweision sifil yn gysylltiedig â datgelu’r wybodaeth hon, a chredaf fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi cadarnhau hynny bellach. Ar 14 Awst, fe ddywedoch wrthyf eich bod yn fodlon nad cynghorwyr arbennig oedd yn gyfrifol am ddatgelu’r wybodaeth hon. Nid yw hynny’n gadael llawer o bobl ar ôl i’w hamau, Ysgrifennydd y Cabinet, felly a gaf fi ofyn hyn yn syml: a ydych yn gwybod pwy ddatgelodd y wybodaeth?
Na, a beth am y cwmni ei hun? Buaswn yn dweud wrth yr Aelod fy mod yn cydnabod, o gofio’i ddiddordeb anarferol yn y mater hwn dros amser hir, ei fod wedi’i glwyfo’n bersonol gan y canlyniad, gan ei fod wedi mentro ei holl hygrededd ar y prosiect penodol hwn. Ac ar ôl cyflawni’r tro pedol mwyaf ers dechrau datganoli yr wythnos diwethaf, rydych wedi dinistrio eich hygrededd ar yr economi. Bythefnos yn ôl, roeddech yn ysgrifennu at arweinydd pob awdurdod lleol yn eu hannog i gefnogi’r cynllun penodol hwn—
Atebwch y cwestiwn a ofynnais ichi.
[Yn parhau.]—i gefnogi’r cynllun hwn. Ac o fewn wythnos, roeddech wedi bwrw ati i ddweud, ‘Na, mae angen i’r rheolwyr newid, mae angen i’r cynllun newid, mae angen i’r system ariannu newid.’ Ar ôl troelli fel trobwll un wythnos, fe blygoch yn eich hanner fel jygarnot yr wythnos wedyn. Rwy’n golygu hyn pan ddywedaf: mae gennych lawer i’w gynnig i’r Cynulliad hwn ac nid oes unrhyw werth mewn dinistrio eich hygrededd eich hun yn y ffordd yr ydych newydd ei wneud. [Torri ar draws.]
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George. [Torri ar draws.]
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai teulu o bedwar o ogledd-orllewin Lloegr yn ystyried mynd ar wyliau naill ai i Fae Colwyn neu i Fae Morecambe, gyda’r gwestai a’r cyfleusterau’n debyg iawn o bosibl, a chydag un ohonynt yn codi treth dwristiaeth, pa leoliad y credwch y byddai’r teulu hwnnw’n ei ddewis?
Byddent yn dewis y lleoliad gorau, yn fy marn i, a’r lleoliad gorau yw Cymru.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn innau’n dweud ein bod wedi clywed y Prif Weinidog ddoe yn rhoi ei gefnogaeth i dreth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’n ddigon posibl fod cyflwyno treth dwristiaeth yn cael yr effaith a ddymunir mewn gwledydd â threthi gwerthiant isel, ond yng Nghymru lle y mae’r gyfradd lawn o dreth ar werth yn cael ei chodi ar lety, ar brydau bwyd ac atyniadau, bydd treth dwristiaeth ychwanegol yn golygu bod ymwelwyr, i bob pwrpas, yn talu ddwywaith. Slofacia yw’r unig wlad arall yn Ewrop sy’n codi treth dwristiaeth heb fod ganddi gyfraddau TAW is ar gyfer busnesau llety. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych am inni ddilyn arweiniad Slofacia? A hefyd, mae eich cyd-Aelod, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn awyddus i annog newid ymddygiad drwy’r system drethi. Sut y credwch y byddai treth dwristiaeth yn newid ymddygiad?
Wel, yn gyntaf oll, os ystyriwn y gyfradd TAW ar hyn o bryd yma yng Nghymru, fe’i codir ar gyfradd o 20 y cant. Ym Mharis, codir TAW ar gyfradd o 10 y cant. Yn Berlin, fe’i codir ar gyfradd o 7 y cant. Yn Barcelona, fe’i codir ar gyfradd o 10 y cant. Buaswn yn annog y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi ymgyrch y Llywodraeth hon, sydd wedi bod ar y gweill ers peth amser, rwy’n cydnabod, ond sydd wedi cael ei hanwybyddu yn Nhrysorlys y DU, i ostwng lefelau TAW. Y gwahaniaeth mawr rhwng ardoll leol a TAW yw y gellid cadw ardoll leol yn yr ardal honno er mwyn gwella’r lle y mae pobl yn dymuno ymweld ag ef. Mae’n ardoll leol a gynlluniwyd i wella’r cynnig twristiaeth. Mae TAW yn mynd i gyllid canolog yn Llundain ac nid yw bob amser yn mynd i’r ardaloedd o Gymru a Phrydain sydd angen eu gwella ar gyfer yr economi ymwelwyr.
Wel, tybed beth fyddai’r diwydiant twristiaeth yn ei wneud o’ch ateb. Yr hyn y byddwn yn ei ofyn yw: pa waith ymgynghori a wnaethoch gyda’r diwydiant twristiaeth, neu yn wir, a ymgynghorodd eich cyd-Aelodau yn y Cabinet â chi o gwbl ynglŷn â hyn mewn gwirionedd? Mae’n rhaid i mi ddweud, mae Cymdeithas Lletygarwch Prydain wedi dweud y bydd treth dwristiaeth, ac rwy’n dyfynnu, yn tanseilio cynaliadwyedd busnesau, buddsoddiad ac... ein cynlluniau cyflogaeth, yn ogystal â rhoi mantais annheg i’n cystadleuwyr yn Lloegr.
Mae Cymdeithas Lletygarwch Prydain, Cynghrair Twristiaeth Cymru a MWT Cymru, a llawer o arbenigwyr eraill ar draws y diwydiant, wedi dweud y bydd y posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth yn niweidio cystadleurwydd Cymru ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar ddiwydiant sydd eisoes yn talu TAW ar dwristiaeth ac sydd wedi gweld ardrethi busnes yn codi. Mae ymwelydd dydd â Chymru eisoes yn gwario £17 y pen yn llai nag yn yr Alban, £5 y pen yn llai nag ymwelwyr â Lloegr. Bydd treth dwristiaeth yn eu hatal hyd yn oed yn fwy rhag ymweld a gwario yma. Yn 2004, cynhaliwyd ymchwiliad gan Syr Michael Lyons a ddaeth i’r casgliad nad oedd sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi treth dwristiaeth. Roedd Llywodraeth Lafur y DU yn cytuno. Felly, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle yn awr i ddilyn cyngor y diwydiant a pheidio â chyflwyno treth dwristiaeth er mwyn darparu’r sicrwydd y mae’r diwydiant ei angen?
Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae wedi cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o effaith bosibl yr ardoll dwristiaeth. Nid yw wedi darparu dadansoddiad cynhwysfawr o’r manteision hyd yn hyn, fodd bynnag. Fel rhan o’r broses o ymgynghori ac ystyried y cynnig penodol hwn, byddwn yn cynnal ymarfer ymgynghori yn awr a fydd yn cynnwys holl elfennau ymarfer casglu tystiolaeth. Mae angen inni nodi manteision posibl, ac wrth gwrs, canlyniadau posibl ardoll dwristiaeth, ac rwy’n ymrwymo i ymgysylltu’n llawn â’r sector er mwyn dadansoddi manteision posibl a chostau posibl y fenter benodol honno. Mae hon yn un o bedair sy’n cael eu hystyried. Bydd pob un o’r cynigion hynny’n cymryd amser i’w hasesu, ond rwy’n ymrwymo i weithio gyda’r sector.