Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 11 Hydref 2017.
Credaf ei bod yn bwysig fod y cynlluniau wedi cyrraedd pwynt lle y gellir eu gwireddu, a buaswn yn sicr yn croesawu rhagor o fanylion ynglŷn â’r enghraifft benodol a nododd yr Aelod. Ceir ffurflenni cymorth gan Busnes Cymru, yn ogystal â thalebau arloesedd a allai fod yn berthnasol i’r achos penodol y sonia’r Aelod amdano, ond pe bai’n ysgrifennu ataf, rwy’n siŵr y gallwn ystyried hyn ymhellach. Yn gyffredinol, drwy ein cefnogaeth i fusnesau ac entrepreneuriaeth, drwy Busnes Cymru a thrwy fentrau megis Creu Sbarc, mae gennym bellach fusnesau mwy bywiog yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Mae’n rhaid bod hynny’n dda i’r economi, ond mae angen i ni sicrhau hefyd fod gennym economi ddynamig lle y mae gennym ddynameg gyson sy’n darparu mentrau newydd wrth i fentrau eraill ddod i ben.